The essential journalist news source
Back
20.
August
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Awst 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Cau ffyrdd ar gyfer cyngherddau ym Mhentir Alexandra yng Nghaerdydd
  • Llwyddiant Olympaidd i Gyn-fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Llanisien
  • Ysgol Arbennig Greenhill yn Ennill 'Statws Pencampwriaeth' mawr ei fri yn y Marc Ansawdd Cynhwysiant (IQM)

 

Cau ffyrdd ar gyfer cyngherddau ym Mhentir Alexandra yng Nghaerdydd

Bydd nifer o gyngherddau'n cael eu cynnal ym Mhentir Alexandra rhwng 21 Awst a 24 Awst a fydd yn cyfyngu mynediad i Forglawdd Bae Caerdydd.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau i draffig yn ystod y dyddiadau a'r amseroedd isod:

Cei Britannia; Stryd Pen y Lanfa; Heol Porth Teigr; a Morglawdd Bae Caerdydd.

Dydd Mercher 21 Awst - McFly: Rhwng 2pm a hanner nos

Dydd Iau 22 Awst - New Order: Rhwng 2pm a hanner nos

Dydd Sadwrn 23 Awst - Becky Hill: O hanner dydd tan hanner nos

Dydd Sul 24 Awst - Tiesto: O hanner dydd tan hanner nos.

 

Mae’r llwybr ar draws y morglawdd ar gau rhwng yr amseroedd hyn, ac mae mynediad ar gael ar gyfer y rheini sy’n mynd i’r Parc Dŵr o ochr Penarth i’r morglawdd yn unig.

 

Llwyddiant Olympaidd i Gyn-fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Llanisien

Bydd pedwar cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd yn dychwelyd o Baris fel Olympiaid ac enillwyr medalau.

Enillodd y seiclwr trac Elinor Barker fedal arian Olympaidd i Brydain ym Madison y merched a dychwelodd i'r podiwm i gael medal efydd ochr yn ochr ag Anna Morris fel rhan o bedwarawd Prydain yn ras tîm y merched, gyda chyn ddisgybl arall, Megan Barker yn eilydd.

Elinor yw'r fenyw gyntaf o Gymru i ennill pedair medal Olympaidd.

Mewn athletau, fe redodd Jeremiah Azu gymal cyntaf y ras gyfnewid 4x100 metr a chael medal efydd, y drydedd fedal Olympaidd i gyn-ddisgyblion Caerdydd ym Mharis.

Talodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Llanisien, Sarah Parry, deyrnged i'r pedwar enwog: "Rydym yn rhyfeddu at eu llwyddiant ac yn hynod o falch.

"Maen nhw'n ysbrydoliaeth i'n cymuned ysgol gyfan ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu Elinor, Anna, Megan a Jeremeia yn ôl i'r ysgol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ymhellach.

"Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd, a chariad at eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth am y gwaith caled sydd y tu ôl i'r llwyddiannau hyn."

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae llwyddiant yr unigolion hyn wedi bod yn syfrdanol ac rwy'n rhannu balchder yr ysgol. Maen nhw'n ysbrydoliaeth i bobl ifanc ledled y ddinas ac yn brawf y gellir cyflawni unrhyw beth trwy waith caled ac ymrwymiad."

 

Ysgol Arbennig Greenhill yn Ennill 'Statws Pencampwriaeth' mawr ei fri yn y Marc Ansawdd Cynhwysiant (IQM)

Mae Ysgol Arbennig Greenhill wedi ennill 'Statws Bencampwriaeth' uchel ei barch am y Marc Ansawdd Cynhwysiant (IQM), gan ymuno â grŵp elitaidd o ddim ond naw sefydliad ledled y wlad.

Mae'r anrhydedd yn tanlinellu ymrwymiad diwyro'r ysgol i feithrin amgylchedd cynhwysol, cefnogol a grymusol i'w holl ddisgyblion.

Mae'r Marc Ansawdd Cynhwysiant yn fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n gwerthuso ysgolion ar sail eu gallu i ddarparu addysg gynhwysol. Cyflawni 'Statws Pencampwriaeth' yw'r lefel uchaf o gydnabyddiaeth o fewn y fframwaith ac fe'i dyfernir i ysgolion sydd, yn ogystal â dangos arferion cynhwysiant eithriadol, yn enghreifftiau disglair o arfer gorau, gan arwain ac ysbrydoli ysgolion eraill ledled y wlad.

Mynegodd y Pennaeth Shane Mock ei falchder yng nghyflawniad yr ysgol, gan ddweud: "Mae'r wobr hon yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cymuned gyfan ein hysgol. Yn Greenhill, credwn fod pob plentyn yn haeddu'r cyfle i lwyddo, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hysgol yn lle y mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Mae cael ein cydnabod ar y lefel hon yn anrhydedd anhygoel ac yn adlewyrchu cryfder ein hethos cynhwysol."

Roedd y broses asesu drylwyr ar gyfer yr IQM yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o bolisïau, arferion a diwylliant yr ysgol gyda'r ysgol yn tynnu sylw am ei dulliau arloesol o gefnogi myfyrwyr ag ystod eang o anghenion, ei phartneriaethau cryf â darparwyr eraill gan gynnwys 'Storey Arms', perthynas agos â theuluoedd a'i hymrwymiad i welliant parhaus.

Darllenwch fwy yma