Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Sero, arbenigwr sero net, ar brosiect i ôl-osod 153 eiddo sy’n 'anodd eu gwresogi' i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau ynni preswylwyr.
Bydd y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn gweld gwelliannau i awyru ac inswleiddio waliau allanol mewn cartrefi Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain (BISF) preifat a rhai’r cyngor yn ardal Tredelerch y ddinas.
Mae cwmni Sero,
sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, wedi'i benodi'n gydlynydd ôl-osod ar y
prosiect a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod y broses yn cyrraedd safon ôl-osod
PAS 2035. Bydd y grŵp yn darparu trosolwg o'r dechrau i'r diwedd ar y prosiect
ac yn llunio Cynlluniau Gwerthuso Opsiynau Gwella a Chynlluniau Gwella Tymor
Canolig (CGTCau) ar gyfer pob cartref.
Bydd cyllid o Gyfrif Refeniw
Tai'r Cyngor a chyfraniad gan Lywodraeth Cymru yn talu am y gwelliannau i’r
cartrefi cyngor, tra bod y gwaith ar yr eiddo preifat yn cael ei dalu gan
Lywodraeth Cymru yn unig.
Mae pob un o'r 153 o
gartrefi wedi eu categoreiddio gan Gyngor Caerdydd a Sero fel rhai 'anodd eu
gwresogi' ac mae disgwyl i'r gwaith wella effeithlonrwydd ynni, gan godi
trigolion allan o dlodi tanwydd. Bydd y gwaith yn mynd rhagddo tan ddiwedd mis
Mawrth 2025.
Dwedodd y Cynghorydd Lynda
Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Rydym wedi bod yn gweithio ers nifer o
flynyddoedd i ganfod ateb cyllido i wella nid yn unig ein cartrefi BISF ein
hunain, ond y cartrefi preifat hefyd ac fel rhywun a fagwyd mewn cartref BISF
fy hun, rwy'n falch iawn ein bod bellach mewn sefyllfa i symud y cynllun hwn yn
ei flaen.
"Mae'n newyddion gwych
i'r preswylwyr sy'n byw yn y cartrefi hyn, rydym i gyd mor ymwybodol o gostau
cynyddol gwresogi ein cartrefi ac mae'r cartrefi hyn yn arbennig o gostus o ran
biliau tanwydd. Rydym yn edrych ymlaen
at weithio gyda Sero y bydd ei arbenigedd ar gydlynu gwaith ôl-osod yn hanfodol
ar y prosiect hwn, a gyda LCB y contractwr sy’n partneru â ni i gyflawni'r
prosiect."
Dwedodd James Williams,
cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Sero: "Rydym yn falch iawn o
gael ein dewis i helpu Cyngor Caerdydd ar y cynllun ôl-osod pwysig hwn, a fydd
yn cefnogi'r gymuned leol yn y pen draw.
"Mae tlodi tanwydd yn
parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn cartrefi ledled y DU ac rydym wedi
ymrwymo i sicrhau bod y prosiect hwn yn cyrraedd y safonau gwaith ôl-osod
uchaf. Ar ôl cydlynu rhaglenni ôl-osod mawr o'r blaen, byddwn yn rhoi yr hyn a
ddysgwyd ar brosiectau blaenorol gennym ar waith i sicrhau bod y gwaith hwn yn
cael ei gyflawni'n esmwyth."