The essential journalist news source
Back
16.
August
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Awst 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yng Nghaerdydd
  • Cyngor teithio ar gyfer y digwyddiad Speedway ar 17 Awst yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
  • Y Pad Sblasio'n cau am weddill y tymor
  • Pobl ifanc yn helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghaerdydd

 

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yng Nghaerdydd 2024

Mae disgyblion ledled Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a Safon UG heddiw ac mae'r canlyniadau unwaith eto'n uwch na chyfartaledd Cymru.

Haf 2024 yw cam olaf y trosglwyddo yn ôl i'r trefniadau oedd ar waith yn system cymwysterau Cymru cyn y pandemig.  Nod y polisi oedd dychwelyd yn fras i'r sefyllfa fel yr oedd cyn y pandemig o ran cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Gwneud i Gymru.  Ni chafodd dysgwyr hysbysiad canlyniadau o flaen llaw ac ni wnaed unrhyw addasiadau i asesiadau.

Mae cymwysterau CBAC a chymwysterau galwedigaethol Gwneud i Gymru wedi'u dyfarnu yn unol â threfniadau cyn y pandemig.

Yng Nghaerdydd, yn seiliedig ar ddarpar ganlyniadau TAG CBAC a gyhoeddwyd heddiw, mae 37% o ganlyniadau Safon Uwch ar gyfer 2024 yn raddau A* i A, o'i gymharu â ffigur Cymru, sef 29.9%.

Mae canran y cofrestriadau Safon Uwch yng Nghaerdydd a arweiniodd at raddau A* - E yn 98.6%, o'i gymharu â ffigwr o 97.4% ar gyfer Cymru gyfan. Mae 83.1% o arholiadau Safon Uwch yn raddau A*-C, o'i gymharu â 76.5% ledled Cymru.

Mae'r canlyniadau yn uwch nag yn 2019 ond yn is nag yn 2023 pan roddwyd mesurau ychwanegol ar waith. Mae hyn yr un fath ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Ar ran yr Awdurdod Lleol, hoffwn longyfarch holl ddisgyblion Caerdydd sydd  heddiw wedi derbyn canlyniadau ar gyfer cymwysterau Safon Uwch a chymwysterau cyfatebol.

"Mae eu cyflawniadau yn dyst i'r gwaith caled, y penderfyniad a'r gwytnwch y maent wedi'i ddangos trwy gydol eu taith addysg hyd yma, a hoffwn ddymuno'r gorau iddynt wrth iddynt ddechrau pennod newydd o'u bywydau, boed yn symud i'r brifysgol, cyflogaeth neu hyfforddiant.

"Rwy'n falch o weld bod y perfformiad ledled y ddinas eleni wedi parhau i godi a bod y  canlyniadau yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2024. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Hoffwn ddiolch hefyd i ysgolion, athrawon a staff y ddinas am eu hymroddiad a'u cefnogaeth wrth helpu disgyblion i gyflawni eu potensial a'u paratoi ar gyfer eu dyfodol.

"I unrhyw ddisgyblion sy'n ansicr am eu camau nesaf, mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael ar lwyfan Beth Nesaf  www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/."

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor teithio ar gyfer y digwyddiad Speedway ar 17 Awst yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

Gyda'r digwyddiad beics modur Speedway yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality, bydd cau rhannol ar y ffyrdd yng nghanol y ddinas o amgylch y stadiwm ar 17 Awst 17 rhwng 2.30pm a 9.30pm.  Bydd Stryd y Castell, Heol Orllewinol y Bont-faen, Heol y Dug a Ffordd y Brenin yn parhau ar agor i draffig.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur  oherwydd y digwyddiad hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac os ydych yn mynd i'r digwyddiad Speedway, dylch osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar  wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy'n mynd i'r digwyddiad yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Sylwch ar yr eitemau gwaharddedig wedi'u rhestru yn  https://www.principalitystadium.wales/safety-and-security/, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Y Pad Sblasio'n cau am weddill y tymor

Mae'n ddrwg gennym orfod rhannu, oherwydd amgylchiadau na ellid eu rhagweld, mae Pad Sblasio Parc Fictoria wedi cau am weddill tymor. Mae hyn oherwydd methiannau gyda'r pympiau swmp sy'n bwydo'r nodwedd dŵr a'r pwmp sy'n dosbarthu clorin. Er gwaethaf archwilio pob opsiwn gyda chontractwyr, ni fydd y rhannau angenrheidiol o Ewrop ar gael tan yr hydref.

Rydym yn deall pa mor siomedig fydd hyn i'n hymwelwyr ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Bydd y pad Sblasio yn gweithredu fel arfer mewn pryd ar gyfer tymor agoriadol yr haf nesaf.

Dolen berthnasol:

Gweithgareddau yn ystod y gwyliau i blant

 

Pobl ifanc yn helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghaerdydd

Mae grŵp o bobl ifanc, sef Dylanwadwyr Ifanc Caerdydd, yn helpu i lywio buddsoddiadau Caerdydd mewn addysg drwy gyfrannu at yr egwyddorion dylunio ar gyfer ysgolion newydd.

Yr haf hwn, mae 14 o Ddylanwadwyr Ifanc Caerdydd wedi cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol, gweithdai a theithiau gan roi eu barn ar elfennau allweddol a fydd yn dylanwadu ar sut y bydd Cyngor Caerdydd yn buddsoddi ac yn creu lleoedd o fewn ysgolion newydd sy'n cael eu hadeiladu yn y ddinas.

Mae'r bobl ifanc, sydd rhwng 14 ac 16 oed ac o nifer o ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd, wedi edrych ar ddatblygu gwahanol ardaloedd o fewn ysgol, fel sut mae lleoedd yn cael eu trefnu, ble mae dysgu'n digwydd, a'r gofod a'r seilwaith cymorth sydd eu hangen.

Roedden nhw'n rhagweld creu mannau dysgu unigryw ar gyfer creadigrwydd a chydweithio, parthau cymdeithasol lle gall myfyrwyr ymlacio, canolfannau uwch-dechnoleg ar gyfer archwilio a datrys problemau, mannau heddychlon i gael saib, ac ardaloedd bwyta sydd hefyd yn ganolfannau cymunedol lle gall pobl ymgynnull.

Aeth y grŵp ar daith o Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan, a agorodd yn hydref 2023, ac ymwelwyd â Champws Cymunedol y Tyllgoed sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Dangoswyd iddyn nhw'r egwyddorion dylunio drafft ar gyfer ystafelloedd dosbarth, mannau awyr agored ac ardaloedd bwyta, gan roi'r cyfle iddyn nhw roi adborth ar yr hyn roedden nhw wedi'i weld, yr hyn roedden nhw'n meddwl allai wella eu hysgol bresennol, a'r hyn maen nhw'n credu fyddai'n dda yn ysgolion y dyfodol. Bydd eu hadborth adeiladol yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru'r egwyddorion hyn cyn iddyn nhw gael eu cwblhau.

Darllenwch fwy yma