16/8/2024
Mae Ysgol Arbennig Greenhill wedi ennill 'Statws Bencampwriaeth' uchel ei barch am y Marc Ansawdd Cynhwysiant (IQM), gan ymuno â grŵp elitaidd o ddim ond naw sefydliad ledled y wlad.
Mae'r anrhydedd yn tanlinellu ymrwymiad diwyro'r ysgol i feithrin amgylchedd cynhwysol, cefnogol a grymusol i'w holl ddisgyblion.
Mae'r Marc Ansawdd Cynhwysiant yn fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n gwerthuso ysgolion ar sail eu gallu i ddarparu addysg gynhwysol. Cyflawni 'Statws Pencampwriaeth' yw'r lefel uchaf o gydnabyddiaeth o fewn y fframwaith ac fe'i dyfernir i ysgolion sydd, yn ogystal â dangos arferion cynhwysiant eithriadol, yn enghreifftiau disglair o arfer gorau, gan arwain ac ysbrydoli ysgolion eraill ledled y wlad.
Mynegodd y Pennaeth Shane Mock ei falchder yng nghyflawniad yr ysgol, gan ddweud: "Mae'r wobr hon yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cymuned gyfan ein hysgol. Yn Greenhill, credwn fod pob plentyn yn haeddu'r cyfle i lwyddo, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hysgol yn lle y mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Mae cael ein cydnabod ar y lefel hon yn anrhydedd anhygoel ac yn adlewyrchu cryfder ein hethos cynhwysol."
Roedd y broses asesu drylwyr ar gyfer yr IQM yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o bolisïau, arferion a diwylliant yr ysgol gyda'r ysgol yn tynnu sylw am ei dulliau arloesol o gefnogi myfyrwyr ag ystod eang o anghenion, ei phartneriaethau cryf â darparwyr eraill gan gynnwys 'Storey Arms', perthynas agos â theuluoedd a'i hymrwymiad i welliant parhaus.
Fel ysgol Statws Pencampwriaeth, bydd Greenhill nawr yn cael cyfle i rannu ei harbenigedd a gweithio'n agos gydag ysgolion eraill i hyrwyddo addysg gynhwysol ar raddfa genedlaethol. Bydd y rôl hon yn cynnwys cynnal sesiynau hyfforddi, darparu mentoriaeth a chydweithio ar brosiectau ymchwil sydd â'r nod o hyrwyddo achos cynhwysiant mewn addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:
"Mae Ysgol Arbennig Greenhill yn enghraifft o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn wirioneddol gynhwysol ac mae ymrwymiad diwyro staff i ddiwallu anghenion amrywiol eu disgyblion yn ysbrydoledig.
"Mae'r wobr hon yn garreg filltir bwysig, gan ein hatgoffa o genhadaeth yr ysgol i roi'r offer a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar bob plentyn i ffynnu, ni waeth beth fo'u cefndir na'u galluoedd.
"Nid yw ennill Statws Pencampwriaeth yn ymwneud â'r hyn y mae'r ysgol wedi'i gyflawni yn unig—mae'n ymwneud â'r hyn mae'r ysgol yn parhau i'w gyfrannu at y gymuned addysgol ehangach. Llongyfarchiadau."