The essential journalist news source
Back
14.
August
2024.
Cau ffyrdd ar gyfer cyngherddau ym Mhentir Alexandra yng Nghaerdydd
 14/08/24

 Bydd nifer o gyngherddau'n cael eu cynnal ym Mhentir Alexandra rhwng 21 Awst a 25 Awst a fydd yn cyfyngu mynediad i Forglawdd Bae Caerdydd.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau i draffig yn ystod y dyddiadau a'r amseroedd isod:

Cei Britannia; Stryd Pen y Lanfa; Heol Porth Teigr; a Morglawdd Bae Caerdydd.

Dydd Mercher 21 Awst - McFly: Rhwng 2pm a hanner nos

Dydd Iau 22 Awst - New Order: Rhwng 2pm a hanner nos

Dydd Sadwrn 24 Awst – Becky Hill: O hanner dydd tan hanner nos

Dydd Sul 25 Awst - Tiesto: O hanner dydd tan hanner nos.

Mae’r llwybr ar draws y morglawdd ar gau rhwng yr amseroedd hyn, ac mae mynediad ar gael ar gyfer y rheini sy’n mynd i’r Parc Dŵr o ochr Penarth i’r morglawdd yn unig.