The essential journalist news source
Back
13.
August
2024.
Cyngor teithio ar gyfer y digwyddiad Speedway ar 17 Awst yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
 13/08/24

 Gyda’r digwyddiad beics modur Speedway yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality, bydd cau rhannol ar y ffyrdd yng nghanol y ddinas o amgylch y stadiwm ar 17 Awst 17 rhwng 2.30pm a 9.30pm.  Bydd Stryd y Castell,Heol Orllewinol y Bont-faen, Heol y Dug a Ffordd y Brenin yn parhau ar agor i draffig.

 

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur  oherwydd y digwyddiad hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac os ydych yn mynd i’r digwyddiad Speedway, dylch osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy'n mynd i’r digwyddiad yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Sylwch ar yr eitemau gwaharddedig wedi’u rhestru yn https://www.principalitystadium.wales/safety-and-security/, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

·       Stryd y Cei, Plas y Neuadd a’r Gwter

·       Stryd Wood o Arglawdd Fitzhammon drwodd i gyffordd Heol  Eglwys Fair â Lôn y Felin

·       Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road, Gerddi Despenser, Heol Scott, Stryd Havelock a Stryd y Parc.

  • Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Trenau

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle bo modd i gyrraedd/gadael Caerdydd ar Ddydd Sadwrn 17 Awst, ond disgwylir i’r trenau fod yn fwy prysur nag arfer felly neilltuwch ddigon o amser ar gyfer eich taith.

Bydd systemau ciwio ar waith yng Nghaerdydd Canolog ar gyfer gwirio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad.

Bydd maes parcio Glan-yr-afon ar gau rhwng 20:00 ar 16 Awst i 04:00 ar 18 Awst a bydd maes parcio Heol Penarth ar gau o 06:00 ar 15 Awst i 04:00 ar 18 Awst.

Bydd y safle tacsis ar Heol Saunders ar gau o 06:00 ar ddiwrnod y digwyddiad.

Ewch i tfw.cymru neu i Ap newydd Trafnidiaeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Bydd Great Western Railway (GWR) yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi'r digwyddiad.  Bydd trenau yn rhedeg o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon; gyda digon o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio'r orsaf.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y digwyddiad a bydd system giwio ar waith y tu allan i'r orsaf i helpu pobl i ddefnyddio’r trenau'n ddiogel.

Dylai'r rhai sy'n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu trên olaf adref, yn www.gwr.com/check

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd y cyfleuster parcio a theithio ond ar gael i’r rhai sy'n mynd i’r digwyddiad Speedway sef yn Toy's R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.30am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 9.30pm gyda'r safle yn cau’n fuan wedi hynny.

Y gost yw £15.  Arian parod yn unig.

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:   Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.   

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i adeilad House of Fraser) yn cau am 2.30pm ac yn ailagor am 9.30pm.