The essential journalist news source
Back
13.
August
2024.
Pobl ifanc yn helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghaerdydd


 

13/8/2024

Mae grŵp o bobl ifanc, sef Dylanwadwyr Ifanc Caerdydd, yn helpu i lywio buddsoddiadau Caerdydd mewn addysg drwy gyfrannu at yr egwyddorion dylunio ar gyfer ysgolion newydd.

Yr haf hwn, mae 14 o Ddylanwadwyr Ifanc Caerdydd wedi cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol, gweithdai a theithiau gan roi eu barn ar elfennau allweddol a fydd yn dylanwadu ar sut y bydd Cyngor Caerdydd yn buddsoddi ac yn creu lleoedd o fewn ysgolion newydd sy'n cael eu hadeiladu yn y ddinas.

Mae'r bobl ifanc, sydd rhwng 14 ac 16 oed ac o nifer o ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd, wedi edrych ar ddatblygu gwahanol ardaloedd o fewn ysgol, fel sut mae lleoedd yn cael eu trefnu, ble mae dysgu'n digwydd, a'r gofod a'r seilwaith cymorth sydd eu hangen.

Roedden nhw'n rhagweld creu mannau dysgu unigryw ar gyfer creadigrwydd a chydweithio, parthau cymdeithasol lle gall myfyrwyr ymlacio, canolfannau uwch-dechnoleg ar gyfer archwilio a datrys problemau, mannau heddychlon i gael saib, ac ardaloedd bwyta sydd hefyd yn ganolfannau cymunedol lle gall pobl ymgynnull.

Aeth y grŵp ar daith o Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan, a agorodd yn hydref 2023, ac ymwelwyd â Champws Cymunedol y Tyllgoed sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Dangoswyd iddyn nhw'r egwyddorion dylunio drafft ar gyfer ystafelloedd dosbarth, mannau awyr agored ac ardaloedd bwyta, gan roi'r cyfle iddyn nhw roi adborth ar yr hyn roedden nhw wedi'i weld, yr hyn roedden nhw'n meddwl allai wella eu hysgol bresennol, a'r hyn maen nhw'n credu fyddai'n dda yn ysgolion y dyfodol. Bydd eu hadborth adeiladol yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru'r egwyddorion hyn cyn iddyn nhw gael eu cwblhau.

Yn ystod y rhaglen, mwynhaodd y Dylanwadwyr gyfres o ymarferion adeiladu tîm, archwilio'r ffactorau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau, cymryd rhan mewn gweithdai dylunio, archwilio dulliau addysgu cyfredol a blaengar gan gynnwys y Cwricwlwm Newydd i Gymru, ac ymweld â rhai tirnodau proffil uchel y ddinas, gan gynnwys Coleg Caerdydd a'r Fro a theithiau o'r Theatr Newydd a chartref Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality.

Dywedodd un o'r dylanwadwyr, Betsi:"Ces i amser gwych ac roeddwn i mor ddiolchgar am y croeso a phopeth wnaethon ni ei ddysgu dros y ddau ddiwrnod. Diolch."

A dywedodd un arall o'r enw Ahmed, "Roedd yn ddiddorol iawn gweld sut mae'r ysgolion hyn yn cael eu hadeiladu a faint o feddwl sy'n mynd i mewn i'r ysgolion."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae rhaglen Dylanwadwyr Ifanc Caerdydd yn un o fentrau Cyngor Caerdydd i sicrhau bod lleisiau, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cydnabod.  Drwy feithrin sgiliau datblygu ac annog cyfranogiad gweithredol, mae'r rhaglen yn cefnogi unigolion ifanc i gyfrannu at ddyfodol y ddinas tra'n sicrhau bod eu barn yn cael ei chymryd o ddifrif.

"Mae ein hymroddiad i roi llais i bobl ifanc a'u cynnwys mewn penderfyniadau a fydd yn effeithio ar bobl ifanc eraill yn hanfodol i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn tyfu i fod yn oedolion sy'n gwybod sut i ddefnyddio eu lleisiau yn gadarnhaol dros newid."

Diolch arbennig i noddwyr rhaglen Dylanwadwyr Ifanc Caerdydd, Atkins Réalis a Blake Morgan, yn ogystal â Choleg Caerdydd a'r Fro, y Theatr Newydd, Stadiwm Principality a hefyd ISG, sy'n adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed, am fynd â Dylanwadwyr Caerdydd ar y teithiau tywys.

 

Os hoffech gael gwybod am gyfleoedd yn y dyfodol i fod yn rhan o 'bob peth yn ymwneud â bod yn Ddylanwadwr Ifanc' anfonwch e-bost at y tîm yn ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk.