The essential journalist news source
Back
6.
August
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 06 Awst 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Prydau a gweithgareddau am ddim i'w darparu drwy Raglen Cyfoethogi'r Gwyliau Ysgol arobryn Caerdydd
  • Canlyniadau Ehangach i Landlord yn Euogfarn Rhentu Doeth Cymru
  • Ms. Lauryn Hill a The Fugees yn ychwanegu dyddiad Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd at The Miseducation Anniversary Tour

 

Prydau a gweithgareddau am ddim i'w darparu drwy Raglen Cyfoethogi'r Gwyliau Ysgol arobryn Caerdydd

Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae Bwyd a Hwyl Caerdydd yn dychwelyd eleni, gyda'r nifer uchaf erioed o ysgolion wedi cofrestru i gyflwyno'r rhaglen cyfoethogi'r gwyliau ysgol.

Bydd 28 o ysgolion, gan gynnwys tair ysgol uwchradd, 20 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, dwy ysgol arbennig ac un uned cyfeirio disgyblion yn golygu y bydd mwy na 1700 o ddisgyblion yn cael mynediad at y ddarpariaeth iechyd a lles arobryn yn ystod gwyliau'r ysgol.

Gyda'r nod o helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar lawer o deuluoedd ledled y ddinas yn ystod gwyliau'r haf, mae Bwyd a Hwyl yn darparu prydau maethlon iach ochr yn ochr â chyfleoedd i gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a dysgu sgiliau newydd.

Mae'r rhaglen gyffrous yn cynnwys darpariaeth addysgol, sgiliau a chwaraeon a ddarperir gan nifer o bartneriaid ledled y ddinas a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n cefnogi sesiynau addysg maeth.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwyf wrth fy modd bod y rhaglen Bwyd a Hwyl yn cyrraedd mwy o blant nag erioed eleni, gan sicrhau bod llawer o deuluoedd yn elwa trwy helpu i leddfu'r baich ariannol a ddaw yn sgil y gwyliau ysgol chwe wythnos.

"Yn bwysig, gall y plant hynny sydd ei angen fwyaf, gael mynediad at ystod eang o weithgareddau na fyddant fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt, o chwaraeon, ymgysylltu cymdeithasol, prydau iach a sesiynau bwyd a maeth.

"Mae hyn diolch i waith partneriaeth llwyddiannus a thîm o staff ymroddedig, sy'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi iechyd a lles cadarnhaol mewn plant, gan gyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach i ymgorffori hawliau plant i wead y ddinas yn dilyn ein cyflawniad o ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant gyntaf y DU yn 2023."

Darllenwch fwy yma

 

Canlyniadau Ehangach i Landlord yn Euogfarn Rhentu Doeth Cymru

Mae landlord o Gymru yn talu'r pris am dorri gofynion Rhentu Doeth Cymru, ar ôl cael ei ganfod yn euog o reoli eiddo rhent heb drwydded.

Cafwyd Gareth Davies, 44, o Caswell, Abertawe yn euog dan Adran 7(5) Deddf Tai (Cymru) 2014 o fethu â chael trwydded i gynnal gweithgareddau rheoli eiddo mewn perthynas â thri eiddo yn Abertawe, yn Llys Ynadon Caerdydd ddoe.

Yn ogystal â chael dirwy o £2,383, mae canlyniadau ei euogfarn yn mynd y tu hwnt i gerydd ariannol, gydag effaith barhaus ar ei allu i reoli eiddo yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, sef yr awdurdod trwyddedu sengl ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, y Cyng. Lynda Thorne:  "Sefydlwyd Rhentu Doeth Cymru i wella safonau gosod a rheoli yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, ac i gyflawni'r nod hwnnw, cymhwysir prawf 'addas a phriodol' i bawb sy'n gwneud cais am drwydded i osod a rheoli eiddo er mwyn sicrhau eu bod â digon o onestrwydd a chymeriad da er mwyn gwneud hynny.

"Un ystyriaeth yn y prawf addas a phriodol hwn yw a oes gan unigolyn unrhyw euogfarnau troseddol blaenorol - ac mae methu cofrestru fel landlord, neu feddu ar drwydded yn drosedd. Mae'r goblygiadau yn mynd ymhell y tu hwnt i ddirwyon i'r landlord hwn."

Darllenwch fwy yma

 

Ms. Lauryn Hill a The Fugees yn ychwanegu dyddiad Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd at The Miseducation Anniversary Tour

Fis diwethaf, cyhoeddodd Ms. Lauryn Hill, sydd wedi ennill Grammy 5 gwaith, ac yn un o eiconau pennaf hip hop, R&B, a ffasiwn / steil, y byddai unwaith eto yn ailymuno â'r Fugees, i arwain estyniad o The Miseducation Anniversary Tour i anrhydeddu ei halbwm nodedig. Oherwydd yr ymateb gwych i'r cefnogwyr, mae Ms Hill a The Fugees yn cyhoeddi eu bod yn ychwanegu dyddiadau Ewropeaidd ychwanegol at y daith - gan gynnwys sioe ddydd Mercher 9 Hydref yn Arena Utilita yng Nghaerdydd fel rhan o Ŵyl Gerdd Dinas newydd Caerdydd.

Bydd y sioe bellach yn ymweld â Dulyn, Cologne, Antwerp a Hamburg, ac mae ail noson wedi'i hychwanegu ym Mharis.

Y Fugees fydd yn cyd-arwain yr holl ddyddiadau a bydd y daith yn cynnwys cerddoriaeth o The Miseducation of Ms. Lauryn Hill, The Score a mwy.

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn dair wythnos wefreiddiol o gigs, digwyddiadau cerddoriaeth ymgolli, sioeau cudd, cyfnodau preswyl anarferol, sesiynau diwydiant, gosodweithiau a pherfformiadau untro dyfeisgar ym mhrifddinas Cymru.   Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod yr ŵyl yw denu 20,000 o bobl i'r ddinas yn ei blwyddyn gyntaf. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn rhedeg o 27 Medi i 20 Hydref 2024.  Cofrestrwch i gael y newyddion a'r cyhoeddiadau diweddaraf, yma:  www.dinasgerddcaerdydd.cymru 

Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae Ms Lauryn Hill a'r Fugees yn parhau i gael dylanwad byd-eang sylweddol ar gerddoriaeth a diwylliant felly mae eu cael i chwarae yng Ngŵyl Gerdd gyntaf Caerdydd, ar restr sy'n cynnwys artistiaid eiconig fel Leftfield ac Orbital, ochr yn ochr â cherddoriaeth newydd arloesol gan bobl fel Alabaster DePlume a Kneecap, yn gamp wirioneddol."

Darllenwch fwy yma