The essential journalist news source
Back
2.
August
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 02 Awst 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cyngor teithio ar gyfer Billy Joel ar 9 Awst yng Nghaerdydd
  • Cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch yn y Diwrnod Chwarae
  • Gwasanaeth cofrestru genedigaethau mewn hybiau cymunedol yn ehangu
  • Atyniadau Caerdydd yn cael eu henwi yn y 10% o 'bethau gorau i'w gwneud' ledled y byd

 

Cyngor teithio ar gyfer Billy Joel ar 9 Awst yng Nghaerdydd

Bydd Billy Joel yn chwarae yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Gwener 9 Awst. Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau o gwmpas y stadiwm o 3pm tan hanner nos am resymau diogelwch.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd, felly cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy'n mynd i'r cyngerdd yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch yn y Diwrnod Chwarae

Mae diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau chwarae am ddim i deuluoedd Caerdydd yr wythnos nesaf gyda'r Diwrnod Chwarae blynyddol ym Mharc y Mynydd Bychan.

Mae'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei ddathlu ledled y DU pob mis Awst, i dynnu sylw at hawl plant i chwarae a phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant.   Thema'r diwrnod eleni yw diwylliant plentyndod - cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch.

Wedi'i drefnu gan Wasanaethau Chwarae Plant y Cyngor, bydd llwyth o weithgareddau hwyl awyr agored ar gyfer plant a theuluoedd ym Mharc y Mynydd Bychan ar ddydd Mercher 7 Awst, 1 - 4pm pan fydd amryw o wasanaethau'r cyngor a phartneriaid yn darparu gemau, sesiynau storïau, chwaraeon, celf a chrefft a mwy, i gyd heb unrhyw gost i deuluoedd.

Mae teuluoedd yn cael eu hannog i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd - glaw neu hindda, ac i ymuno yn yr hwyl ar y cae ger rheilffordd fach y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant, Trechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Mae chwarae yn hanfodol i iechyd, hapusrwydd a chreadigrwydd plant ac rydym wedi paratoi diwrnod gwych o weithgareddau hwyl am ddim i blant a theuluoedd ym Mharc y Mynydd Bychan yr wythnos nesaf i sicrhau bod Diwrnod Chwarae eleni yn un i'w gofio."

Darllenwch fwy yma

 

Gwasanaeth cofrestru genedigaethau mewn hybiau cymunedol yn ehangu

Mae gwasanaeth sy'n cynnig cyfle i rieni newydd yng Nghaerdydd gofrestru genedigaeth eu plentyn mewn hybiau cymunedol yn ehangu, gyda dyddiau ychwanegol wedi'u cyflwyno yn Hyb Ystum Taf a Llyfrgell Ganolog Caerdydd.

Gan weithredu drwy apwyntiad yn unig, bydd y gwasanaeth yn ehangu i weithredu ar: 

Ddydd Llun

9am - 4pm, Hyb Ystum Taf

Dydd Mawrth

9am - 4pm, Llyfrgell Ganolog

Dydd Mercher

9am - 4pm, Hyb Trelái

9am - 4pm, Hyb Ystum Taf (o ddydd Mercher 4 Medi)

9am - 4pm, Llyfrgell Ganolog (dydd Mercher cyntaf bob mis o 7 Awst)

Dydd Iau

9am - 4pm, Hyb Llaneirwg

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cofrestru: "Mae cynnig cofrestriadau genedigaethau yn ein hybiau wedi bod yn boblogaidd iawn gyda rhieni newydd, gan ganiatáu iddyn nhw drefnu apwyntiad cyfleus a lleihau'r angen i deithio ledled Caerdydd. Mae ehangu'r gwasanaeth hwn yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o rieni newydd yn gallu cofrestru eu babanod newydd-anedig, yn nes at y cartref." 

Darllenwch fwy yma

 

Atyniadau Caerdydd yn cael eu henwi yn y 10% o 'bethau gorau i'w gwneud' ledled y byd

Yn ystod gwyliau'r haf, mae llawer o bobl yn pacio'u cesys ac yn mynd i ymweld ag atyniadau twristaidd ledled Ewrop a thu hwnt, ond pan mae pedwar o'r 'pethau gorau i'w gwneud yn y byd' yn 2024 yn llawer agosach at adref, beth am ymweld â Chaerdydd yn lle hynny?

Ar sail adolygiadau a sgoriau ar Tripadvisor dros y 12 mis diwethaf, mae Gwobrau Travelers' Choice yn cydnabod yr atyniadau yn y 10% o bethau gorau i'w gwneud ledled y byd. Eleni maen nhw wedi cael eu rhoi i Barc Bute, Castell Caerdydd, Marchnad Caerdydd a Chanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'n debyg bod ymwelwyr â Pharc Bute, Castell Caerdydd, y Farchnad a Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn chwilio am bethau eithaf gwahanol o ddiwrnod allan, ond un peth y mae pawb ei eisiau yw profiad gwych i ymwelwyr.

"Mae gwobrau Travelers' Choice Tripadvisor yn seiliedig ar adolygiadau a sgoriau cwsmeriaid sy'n gyson dda, felly gall ymwelwyr fod yn sicr mai dyna'n union y byddant yn ei gael drwy ymweld â'r hyfryd Barc Bute, y mawreddog Gastell Caerdydd, ein Marchnad Ganolog swynol, neu gyffro Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd."

Darllenwch fwy yma