The essential journalist news source
Back
2.
August
2024.
Canlyniadau Ehangach i Landlord yn Euogfarn Rhentu Doeth Cymru


2/8/24 

Mae landlord o Gymru yn talu'r pris am dorri gofynion Rhentu Doeth Cymru, ar ôl cael ei ganfod yn euog o reoli eiddo rhent heb drwydded.

 

Cafwyd Gareth Davies, 44, o Caswell, Abertawe yn euog dan Adran 7(5) Deddf Tai (Cymru) 2014 o fethu â chael trwydded i gynnal gweithgareddau rheoli eiddo mewn perthynas â thri eiddo yn Abertawe, yn Llys Ynadon Caerdydd ddoe.

 

Yn ogystal â chael dirwy o£2,383, mae canlyniadau ei euogfarn yn mynd y tu hwnt i gerydd ariannol, gydag effaith barhaus ar ei allu i reoli eiddo yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, sef yr awdurdod trwyddedu sengl ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, y Cyng. Lynda Thorne:  "Sefydlwyd Rhentu Doeth Cymru i wella safonau gosod a rheoli yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, ac i gyflawni'r nod hwnnw, cymhwysir prawf 'addas a phriodol' i bawb sy'n gwneud cais am drwydded i osod a rheoli eiddo er mwyn sicrhau eu bod â digon o onestrwydd a chymeriad da er mwyn gwneud hynny.

 

"Un ystyriaeth yn y prawf addas a phriodol hwn yw a oes gan unigolyn unrhyw euogfarnau troseddol blaenorol - ac mae methu cofrestru fel landlord, neu feddu ar drwydded yn drosedd. Mae'r goblygiadau yn mynd ymhell y tu hwnt i ddirwyon i'r landlord hwn."

 

 

Plediodd Mr Davies yn ddieuog i fethu â chael trwydded i gynnal gweithgareddau rheoli eiddo mewn perthynas â thri eiddo yn Abertawe. Caniataodd i'w drwydded landlord ddod i ben ym mis Mehefin y llynedd ac ni chyflawnodd ofynion llawn y drwydded tan fis Mai eleni.

 

Fe'i cafwyd yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw/ddoe (1 Awst) a chafodd ddirwy o £2,383,gyda chostau o £1,352 a Gordal Dioddefwyr o £913.