The essential journalist news source
Back
31.
July
2024.
Gwasanaeth cofrestru genedigaethau mewn hybiau cymunedol yn ehangu

31.7.24

Mae gwasanaeth sy'n cynnig cyfle i rieni newydd yng Nghaerdydd gofrestru genedigaeth eu plentyn mewn hybiau cymunedol yn ehangu, gyda dyddiau ychwanegol wedi'u cyflwyno yn Hyb Ystum Taf a Llyfrgell Ganolog Caerdydd.

Gan weithredu drwy apwyntiad yn unig, bydd y gwasanaeth yn ehangu i weithredu ar: 

Ddydd Llun            9am - 4pm     Hyb Ystum Taf

Dydd Mawrth          9am - 4pm     Llyfrgell Ganolog

Dydd Mercher         9am - 4pm     Hyb Trelái

                                 9am - 4pm     Hyb Ystum Taf (o ddydd Mercher 4 Medi)
                               
9am - 4pm     Llyfrgell Ganolog (dydd Mercher cyntaf bob mis o 7 Awst)

Dydd Iau                 9am - 4pm     Hyb Llaneirwg

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cofrestru: "Mae cynnig cofrestriadau genedigaethau yn ein hybiau wedi bod yn boblogaidd iawn gyda rhieni newydd, gan ganiatáu iddyn nhw drefnu apwyntiad cyfleus a lleihau'r angen i deithio ledled Caerdydd. Mae ehangu'r gwasanaeth hwn yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o rieni newydd yn gallu cofrestru eu babanod newydd-anedig, yn nes at y cartref." 

Mae gwasanaeth cofrestru llawn, gan gynnwys cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau a chyflwyno tystysgrifau copi yn parhau i fod ar gael yn y brif Swyddfa Gofrestru, sydd wedi'i lleoli dros dro yn Archifau Morgannwg tra bod Neuadd y Ddinas ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol. 

Bydd Archifau Morgannwg hefyd yn cynnal holl briodasau a phartneriaethau sifil y swyddfa gofrestru gyfreithiol, lle mai dim ond y cwpl a dau dyst sy'n bresennol.  

Bydd priodasau a phartneriaethau sifil mwy, a gynhaliwyd yn Ystafell Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas gynt, bellach yn cael eu cynnal yn Ystafell Llandaf, sydd newydd gael ei thrwyddedu, ar lawr cyntaf Cwrt Insole hanesyddol. Mae dwy ystafell - yr Ystafell Cedar, â lle i 20 o westeion, a'r Ystafell Walnut sydd â lle i 40.

Mae'r Swyddfa Gofrestru yn Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AW ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8.30am a 4.00pm, ac o 9am - 4pm ar ddydd Gwener. 

Gellir cofrestru marwolaethau hefyd yn Swyddfa Profedigaeth Mynwent Draenen Pen-y-graig o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 4pm.

Gellir archebu apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau cofrestru ar wefan Swyddfa Gofrestru Caerdydd, lle mae rhagor o wybodaeth am gofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau ar gael hefyd.

https://www.cardiffregisteroffice.co.uk/cy/