Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
- Elusen Stonewall yn enwi Cyngor Caerdydd yn y 100 Cyflogwr Gorau ac yn Enillydd Gwobr Aur ar gyfer 2024
- Beth Nesaf? Rhaglen o ddigwyddiadau a gwybodaeth i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu dyfodol ar ôl arholiadau
- Agor Tŷ Bronwen: Pod Lles Newydd yn Ysgol Gynradd Lakeside
Elusen Stonewall yn enwi Cyngor Caerdydd yn y 100 Cyflogwr Gorau ac yn Enillydd Gwobr Aur ar gyfer 2024
Unwaith eto mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabod gan elusen Stonewall fel cyflogwr sydd wedi ymrwymo i gefnogi staff a chwsmeriaid LHDTC+.
Gan gynnal ei le yn 100 Cyflogwr Gorau Stonewall a chadw ei statws Gwobr Aur, mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei ganmol gan yr elusen hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar am "greu gweithle croesawgar, lle gall gweithwyr LHDTC+ fod eu hunain yn llwyr yn y gwaith".
Mae rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall ar gyfer 2024 yn cydnabod cyflogwyr eithriadol sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu staff a'u cwsmeriaid LHDTC+. Mae Cyngor Caerdydd yn ymuno â nifer o gwmnïau adeiladu, cyfreithiol, iechyd, cyllid ac addysg a gyrhaeddodd rhestr flynyddol y 100 Cyflogwr Gorau sy'n gynhwysol o bobl LHDTC+.
Wrth groesawu cyflawniadau diweddaraf yr awdurdod lleol, dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, y Cynghorydd Julie Sangani: "Rwy'n falch iawn o weld bod Cyngor Caerdydd wedi cynnal ei le yn y 100 Cyflogwr Gorau ym Mynegai Stonewall eleni ac unwaith eto wedi derbyn Gwobr Aur gan yr elusen. Mae'r ddau yn gyflawniadau i fod yn hynod falch ohonynt, ond rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod gwaith rhagorol staff ar draws y sefydliad wedi arwain at Gyngor Caerdydd yn cael ei raddio fel yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru.
"Mae Cryfach, Tecach, Gwyrddach - ein blaenoriaethau polisi Cabinet ar gyfer Caerdydd - yn cynnwys yr ymrwymiad i 'adeiladu ar ein dyfarniad Statws Aur Stonewall fel rhan o'n hymrwymiad i gynhwysiant LHDTC+, gyda'r nod o ddod yn un o 100 cyflogwr gorau Stonewall a'r awdurdod lleol gorau yng Nghymru ym Mynegai Stonewall'. Mae'r ffaith ein bod wedi sicrhau'r tri ymrwymiad hynny unwaith eto eleni yn dyst pellach i waith caled ac ymroddiad staff sy'n benderfynol o roi ein polisïau cydraddoldeb ar waith."
Beth Nesaf? Rhaglen o ddigwyddiadau a gwybodaeth i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu dyfodol ar ôl arholiadau
Wrth i ddiwrnodau canlyniadau arholiadau Safon Uwch a TGAU agosáu ym mis Awst, bydd pobl ifanc yng Nghaerdydd yn gallu mynd i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i'w helpu i gyrraedd eu camau nesaf.
Mae Addewid Caerdydd yn dod â chyflogwyr, cynghorwyr gyrfaoedd a sefydliadau eraill ynghyd i roi gwybodaeth a chyngor hanfodol i bobl ifanc ar gyfleoedd mewn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli. Cynhelir amserlen gynhwysfawr o ddigwyddiadau ar draws y ddinas o fis Mehefin tan fis Awst, i gefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfno pwysig hwn.
Anogir pobl ifanc a'u teuluoedd i ymweld â'r "Beth Nesaf?" gwefan www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/
Mae'r siop un stop hon ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill yng Nghaerdydd. Mae'r platfform hwn yn symleiddio'r broses o archwilio'r opsiynau sydd ar gael, gan sicrhau y gall pobl ifanc wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.
Wedi'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, mae'r platfform hwn yn gydweithrediad rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, gan weithio ochr yn ochr ag ysgolion a darparwyr addysg. Y nod yw cysylltu plant a phobl ifanc â sbectrwm eang o gyfleoedd mewn addysg, hyfforddiant a'r gweithlu.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob person ifanc yng Nghaerdydd yn gallu cael y cymorth cywir wrth wneud penderfyniadau am eu dyfodol. Mae'r digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio ochr yn ochr â llwyfan Beth Nesaf? yn darparu cyfoeth o wybodaeth a chyngor ar adeg dyngedfennol, gan helpu i gynyddu dyheadau a darparu eglurder i'r rhai a allai fod yn teimlo'n ansicr yn dilyn eu harholiadau.
"Mae Caerdydd yn cynnig llu o gyfleoedd, o addysg barhaus yn y Chweched Dosbarth, cyrsiau coleg, a phrifysgol, i ennill profiad gwaith, hyfforddeiaethau, cynlluniau graddedigion, prentisiaethau, a mwy."
Mae safle ‘Beth Nesaf? yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i ddarpariaethau a chyfleoedd newydd ddod ar gael. Mae Addewid Caerdydd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i roi gwybodaeth i bobl ifanc am gyfleoedd mewn sectorau sy'n tyfu a'r sgiliau a'r cymwysterau y bydd eu hangen ar gyfer rolau yn y dyfodol.
Agor Tŷ Bronwen: Pod Lles Newydd yn Ysgol Gynradd Lakeside
Agorwyd Tŷ Bronwen yn swyddogol yr wythnos hon yn Ysgol Gynradd Lakeside. Pod lles newydd yw Tŷ Bronwen sydd wedi'i ddarparu gan yr elusen Bronwen's W;Sh.
Mae Tŷ Bronwen wedi'i enwi er cof am Bronwen Morgan, cyn-ddisgybl a chynorthwyydd dysgu yn Ysgol Gynradd Lakeside. Arferai Bronwen a'i chwiorydd fynd i'r ysgol hon a bu ei thad, Haydn Morgan, yn gwasanaethu ar Fwrdd y Llywodraethwyr. Roedd y teulu Morgan yn rhan annatod o gymuned yr ysgol felly.
Yn dilyn marwolaeth drasig Bronwen, sefydlodd ei theulu a'i ffrindiau elusen Bronwen's W;Sh, sy'n ymroddedig i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Nod yr elusen yw creu mannau heddwch a meithrin, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol a noddfa i unigolion ifanc.
Trwy ymdrechion cydweithredol, crëwyd Tŷ Bronwen i ddarparu encil tawel i ddisgyblion sydd angen seibiant o brysurdeb dyddiol bywyd yr ysgol ac mae disgyblion, staff a chymuned ehangach yr ysgol wedi bod yn dilyn trywydd y gwaith o'i ddatblygu, ei ddylunio a'i adeiladu.
Dywedodd y Pennaeth, Rachel Mitchell: "Mae'r angen am noddfa o'r fath wedi dod yn bwysicach fyth yn sgil pandemig Covid, a adawodd lawer o blant yn ynysig yn gymdeithasol. Mae Ysgol Gynradd Lakeside wastad wedi blaenoriaethu lles disgyblion, gan fynd i'r afael ag anghenion disgyblion unigol. Mae ychwanegu'r pod lles yn cyd-fynd yn berffaith â'r ymrwymiad hwn, gan gynnig lle i fyfyrio'n dawel a meithrin cysylltiad â byd natur.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu'r achlysur arbennig hwn gyda'n cymuned a pharhau ag etifeddiaeth Bronwen o ofal a thosturi."