The essential journalist news source
Back
30.
July
2024.
Cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch yn y Diwrnod Chwarae


30/7/24

Mae diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau chwarae am ddim i deuluoedd Caerdydd yr wythnos nesaf gyda'r Diwrnod Chwarae blynyddol ym Mharc y Mynydd Bychan.

Mae'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei ddathlu ledled y DU pob mis Awst, i dynnu sylw at hawlplant i chwarae a phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant.   Thema'r diwrnod eleni ywdiwylliant plentyndod-cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch.

 

Wedi'i drefnu gan Wasanaethau Chwarae Plant y Cyngor, bydd llwyth o weithgareddau hwyl awyr agored ar gyfer plant a theuluoedd ym Mharc y Mynydd Bychan ar ddydd Mercher 7 Awst, 1 - 4pm pan fydd amryw o wasanaethau'r cyngor a phartneriaid yn darparu gemau, sesiynau storïau, chwaraeon, celf a chrefft a mwy, i gyd heb unrhyw gost i deuluoedd.

Mae teuluoedd yn cael eu hannog i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd - glaw neu hindda, ac i ymuno yn yr hwyl ar y cae ger rheilffordd fach y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant, Trechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Mae chwarae yn hanfodol i iechyd, hapusrwydd a chreadigrwydd plant ac rydym wedi paratoi diwrnod gwych o weithgareddau hwyl am ddim i blant a theuluoedd ym Mharc y Mynydd Bychan yr wythnos nesaf i sicrhau bod Diwrnod Chwarae eleni yn un i'w gofio.

"Bydd rhywbeth at ddant pawb - o aelodau ieuengaf teuluoedd i'r 'plant mawr' - mamau, tadau, neiniau a theidiau - mae croeso i bawb ac fe fyddan nhw'n mwynhau! Allwn ni ddim addo tywydd da - dewch yn barod ar gyfer pob tywydd - ond gallwn fod yn hyderus y bydd amrywiaeth eang o weithgareddau chwarae difyr i gymryd rhan ynddynt."