The essential journalist news source
Back
30.
July
2024.
Elusen Stonewall yn enwi Cyngor Caerdydd yn y 100 Cyflogwr Gorau ac yn Enillydd Gwobr Aur ar gyfer 2024

30/07/24 

Unwaith eto mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabod gan elusen Stonewall fel cyflogwr sydd wedi ymrwymo i gefnogi staff a chwsmeriaid LHDTC+.

Gan gynnal ei le yn 100 Cyflogwr Gorau Stonewall a chadw ei statws Gwobr Aur, mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei ganmol gan yr elusen hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar am "greu gweithle croesawgar, lle gall gweithwyr LHDTC+ fod eu hunain yn llwyr yn y gwaith".

Mae rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall ar gyfer 2024 yn cydnabod cyflogwyr eithriadol sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu staff a'u cwsmeriaid LHDTC+. Mae Cyngor Caerdydd yn ymuno â nifer o gwmnïau adeiladu, cyfreithiol, iechyd, cyllid ac addysg a gyrhaeddodd rhestr flynyddol y 100 Cyflogwr Gorau sy'n gynhwysol o bobl LHDTC+.

Wrth groesawu cyflawniadau diweddaraf yr awdurdod lleol, dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, y Cynghorydd Julie Sangani: "Rwy'n falch iawn o weld bod Cyngor Caerdydd wedi cynnal ei le yn y 100 Cyflogwr Gorau ym Mynegai Stonewall eleni ac unwaith eto wedi derbyn Gwobr Aur gan yr elusen. Mae'r ddau yn gyflawniadau i fod yn hynod falch ohonynt, ond rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod gwaith rhagorol staff ar draws y sefydliad wedi arwain at Gyngor Caerdydd yn cael ei raddio fel yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru.

"Mae Cryfach, Tecach, Gwyrddach - ein blaenoriaethau polisi Cabinet ar gyfer Caerdydd - yn cynnwys yr ymrwymiad i 'adeiladu ar ein dyfarniad Statws Aur Stonewall fel rhan o'n hymrwymiad i gynhwysiant LHDTC+, gyda'r nod o ddod yn un o 100 cyflogwr gorau Stonewall a'r awdurdod lleol gorau yng Nghymru ym Mynegai Stonewall'. Mae'r ffaith ein bod wedi sicrhau'r tri ymrwymiad hynny unwaith eto eleni yn dyst pellach i waith caled ac ymroddiad staff sy'n benderfynol o roi ein polisïau cydraddoldeb ar waith."

Stonewall yw prif elusen y DU ar gyfer cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, gan weithio i greu byd lle mae pob person lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar yn rhydd i fod eu hunain - lle bynnag y maen nhw. Fe'i sefydlwyd ym 1989 gan grŵp bach o bobl a oedd eisiau chwalu rhwystrau i gydraddoldeb. Mae Stonewall yn parhau i ymgyrchu dros gydraddoldeb LHDT, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr ac ysgolion i greu amgylcheddau sy'n galluogi pobl LHDTC+ i ffynnu.

Dywedodd Colin Macfarlane, Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Incwm Stonewall (ef/ef): "Mae gweithredu arferion a pholisïau cynhwysol yn hanfodol i gyflogwyr sy'n dymuno denu a chadw'r doniau LHDTC+ gorau. Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn denu cyfranogwyr o ddiwydiannau a sectorau amrywiol, ac mae pob un ohonynt yn deall mai cynwysoldeb yw'r dyfodol ac maent yn arwain y ffordd yn y newid hanfodol hwn. Trwy hyrwyddo gweithwyr LHDTC+, rydych chi'n meithrin gweithlu hapus a brwdfrydig ac yn cyfrannu at Deyrnas Unedig lle gall pobl LHDTC+ ffynnu gyda'u gwir hunaniaethau."