The essential journalist news source
Back
23.
July
2024.
Miloedd o blant ysgol gynradd yn elwa o Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd


23/7/24

Mae mwy na 20,900 o ddisgyblion oed cynradd ledled y ddinas bellach yn gallu elwa o brydau ysgol am ddim drwy raglen Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod plant yn bwyta'n dda yn ystod y diwrnod ysgol ac o fudd yn ariannol i deuluoedd. 

 

Mae gwaith helaeth a wnaed gan dimau Arlwyo Addysg Caerdydd wedi gweld ceginau ysgol ledled y ddinas yn cael eu diweddaru a'r capasiti'n cynyddu, er mwyn gallu rhoi darpariaeth yn effeithlon er i blant oed cynradd yn ysgolion cynradd ac arbennig Caerdydd.

 

Mae pob disgybl cynradd o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 yn gallu cael prydau ysgol am ddim. Er mwyn sicrhau nad yw plant oed cynradd yn colli allan ar eu prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd fewngofnodi i'w cyfrif ParentPay i archebu ymlaen llaw.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yma www.parentpay.com

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:  "Mae llawer o deuluoedd yn dal i wynebu heriau yn ymwneud â chostau byw presennol ac mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb sy'n gymwys, mor effeithlon â phosibl i sicrhau nad yw'r wasgfa ariannol yn amharu ar addysg.

 

"Nid yw hwyluso'r lefel hon o newid wedi bod heb ei heriau, gyda phob ysgol yn wahanol o ran maint a chapasiti, ond er gwaethaf yr anawsterau sylweddol hyn, mae cyflwyno'r cynllun yn llwyddiannus yn ychwanegiad i'w groesawu sydd eisoes o fudd i filoedd o deuluoedd ledled y ddinas.

 

"Yn ogystal â'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, dylai teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau sydd â phlant mewn ysgolion uwchradd barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.  Mae'n hanfodol bod y rhieni hynny sydd ei angen fwyaf yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.  Rwy'n annog unrhyw un sy'n credu y gallen nhw fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim a chymorth arall, i gysylltu er mwyn gallu cael y cymorth cywir drwy gydol y flwyddyn ysgol."

 

Gwybodaeth bwysig am Brydau Ysgol am Ddim yn seiliedig ar fudd-daliadau

Yn ogystal â'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, rhaid i deuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau sydd â phlant o bob oedran, barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.  Mae'r manylion ar gael yma; Prydau Ysgol am Ddim

 

Gallant hefyd fod yn gymwys i grantiau eraill a all helpu i brynu gwisg ysgol a hanfodion ysgol eraill.  Gall cofrestru am gymorth sydd ar gael hefyd olygu y gall ysgol plentyn gyrchu cyllid ychwanegol y gellir ei wario ar gefnogi dysgu. 

Mae'r budd-daliadau cymwys yn cynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm 
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm 
  • Cymorth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn 
  • Credyd Treth Plant (heb hawl hefyd i Gredyd Treth Gwaith ac sydd ag incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190) 
  • Estyniad y Credyd Treth Gwaith - yn cael ei dalu am 4 wythnos ar ôl y dyddiad pan na fyddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith mwyach 
    • Credyd Cynhwysol gydag enillion net cartref o lai na £7,400 y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau eraill a dderbynnir).

 

Gall dysgwyr cymwys yng Nghaerdydd hefyd dderbyn cymorth ariannol ychwanegol gan gynllun Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru (Grant Datblygu Disgyblion yn flaenorol) sy'n helpu gyda chost gwisg ysgol, offer chwaraeon, deunydd ysgrifennu, a dyfeisiau. Mae hyn yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim.

Os ydych chi'n deulu sydd â phlantnad ydyntyn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Cyngor Caerdydd roi cymorth i chi. I weld a ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (PYADd) a grant Hanfodion Ysgol, sy'n cynnwys cymorth ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau, ewch i Prydau Ysgol am Ddim

 

Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu alw heibio i un o'n Hybiau. 

Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl hefyd i help ychwanegol drwy'r Grant Hanfodion Ysgol.I weld cynllun eleni ewch i;
Grant Hanfodion Ysgol

Mae nifer o ysgolion yng Nghaerdydd yn rhedeg cynlluniau ailgylchu gwisg ysgol a cheir cynlluniau gwisg ysgol eraill ledled y ddinas, fel un yr elusen A Better Fit.

Mae'r polisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng 

Am fwy o wybodaeth, ewch i Darganfod mwy am brydau ysgol am ddim

  • Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o gymorth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â phwysau costau byw. Mae hyn yn cynnwys cymorth i gael bwyd, cyngor ar filiau tanwydd y gaeaf, cymorth gydag ôl-ddyledion rhent a llawer mwy. Rydym yn annog unrhyw un sy'n cael anawsterau ar hyn o bryd i gysylltu â'n Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071, e-bost hybcynghori@caerdydd.gov.uk, galw i mewn i unrhyw Hyb neu ymweld â www.caerdydd.gov.uk/costaubyw

 

Dechreuodd y rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd gyda disgyblion oed Derbyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim o fis Medi 2022, disgyblion Blwyddyn 1 o fis Ebrill 2023 a disgyblion Blwyddyn 2 o fis Mehefin 2023. Cynigiwyd darpariaeth i ddisgyblion Blwyddyn 3 o fis Medi 2023, disgyblion Blwyddyn 4 o fis Tachwedd 2023 a Blynyddoedd 5 a 6 o fis Mehefin 2024, yn unol â dyddiadau targed Llywodraeth Cymru.