The essential journalist news source
Back
22.
July
2024.
Y newyddion gennym ni - 22/07/24

Image

19/07/24 - Grymuso Yfory: Caerdydd sy'n Dda i Blant yn Dathlu Young Changemakers!

Yn ddiweddar, dathlodd Caerdydd sy'n Dda i Blant, mewn partneriaeth â Plan UK, gyflawniadau rhyfeddol y bobl ifanc a wnaeth gais llwyddiannus am gyllid o dan gynllun gweithredu cymdeithasol Young Changemakers.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/07/24 - Mae cerflun newydd yn tynnu sylw at Ynys Echni wedi'i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd

Mae cerflun newydd sy'n symboleiddio Ynys Echni ac â'r nod o gysylltu pobl ar y tir mawr â'r ynys fel rhan o brosiect celfyddydau, wedi'i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd, i'r de o Gofeb Scott.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/07/24 - Agor Tŷ Bronwen: Pod Lles Newydd yn Ysgol Gynradd Lakeside

Agorwyd Tŷ Bronwen yn swyddogol yr wythnos hon yn Ysgol Gynradd Lakeside. Pod lles newydd yw Tŷ Bronwen sydd wedi'i ddarparu gan yr elusen Bronwen's W;Sh.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/07/24 - Cyngor Caerdydd yn paratoi i fabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â p

Disgwylir i Gyngor Caerdydd gryfhau ei ymrwymiad i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy fabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol Cenedlaethol sydd newydd ei datblygu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/07/24 - Rhaglen ddigwyddiadau DYDDiau Da o Haf i bobl ifanc Caerdydd

Ar ôl i gannoedd o bobl ifanc fwynhau chwe wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau ledled y ddinas y llynedd, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd unwaith eto yn trefnu 'DYDDiau Da o Haf', rhaglen sydd â'r nod o ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc 11-25 oed, dros gyfnod y gwyliau.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/07/24 - Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn cydweithio ar astudiaeth Teithio Llesol arloesol

Mewn cam sylweddol tuag at hyrwyddo teithio cynaliadwy a gwella iechyd y cyhoedd, mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) wedi cyhoeddi ei fod yn cydweithio ag academyddion blaenllaw ar raglen ymyrraeth teithio llesol arloesol. Nod y fenter yw annog cerdded a beicio, helpu i leihau ôl troed carbon Caerdydd a meithrin ffyrdd iachach o fyw.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/07/24 - Crewyr Cynnwys Caerdydd: Rhyddhewch eich ochr greadigol yr haf hwn!

Yn galw ar bob crëwr cynnwys ifanc yng Nghaerdydd! Mae tîm digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn falch iawn o gyhoeddi cyfle unigryw i bobl ifanc 11-17 oed gymryd rhan mewn gwersyll haf digidol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/07/24 - Addewid Caerdydd yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU 2024

Mae Addewid Caerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yn wythfed Gwobrau Symudedd Cymdeithasol blynyddol y DU (SOMOs).

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/07/24 - Llwyddiant Rhaglen Cenhadon Democratiaeth i ysgolion cynradd Caerdydd

Mae dwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr o £100 yr un am gymryd rhan yn Rhaglen Cenhadon Democratiaeth Cyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/07/24 - 20 o Faneri Gwyrdd i fannau gwyrdd Cyngor Caerdydd

Mae ugain o barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd wedi derbyn Baneri Gwyrdd gwerthfawr, gan gynnwys, am y tro cyntaf, Parc Cathays yng nghanolfan ddinesig hanesyddol Caerdydd a Pharc y Brag yn y Sblot, sydd newydd ei adnewyddu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/07/24 - Mae 85% o ddisgyblion Caerdydd yn mynychu ysgol sydd wedi ymrwymo i wreiddio hawliau plant

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddwyd Caerdydd yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF -y cyntaf o'i math yn y Deyrnas Unedig.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/07/24 - Rhaglen 'Gigs Bach' yn arddangos talent y dyfodol yng Nghlwb Ifor Bach

Roedd hi'n hydref pan aeth cyfres o 'Gigs Bach' gan rai o'r perfformwyr mwyaf poblogaidd ar y sîn gerddoriaeth Gymreig ar daith o gwmpas ysgolion uwchradd Caerdydd, gan gychwyn rhaglen Cyngor Caerdydd gyda'r nod o ysbrydoli dysgwyr a sicrhau talent ddawnus ar gyfer sector cerddoriaeth Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/07/24 - Cyngor yn ymrwymo i fynd i'r afael â diffyg o £49.7m yn y gyllideb

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu ei fod yn wynebu diffyg o bron i £50m yn y gyllideb yn 2025/26.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/07/24 - Cynnig ugain o gaeau pêl-droed 3G newydd fel rhan o strategaeth 'Anelu am yr Aur'

Mae 20 o gaeau 3G newydd yn cael eu cynnig gan Gyngor Caerdydd fel rhan o strategaeth hirdymor newydd mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Sefydliad Pêl-droed Cymru (SPC), a chynghreiriau lleol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/07/24 - Dyfarnwyd gwobr 'Hyrwyddwr Lleol' i Gaerdydd am ymroddiad i'r Cyflog Byw Gwirioneddol

Mae Grŵp Llywio'r Ddinas Cyflog Byw Caerdydd wedi'i gydnabod gyda gwobr fawreddog am ei waith rhagorol ar y Cyflog Byw Gwirioneddol yn y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/07/24 - Scope a Chyngor Caerdydd yn cynnal arddangosfa artistiaid anabl yn ystod mis Balchder Anabledd

Mae timau Ymgysylltu Cymunedol a Chydweithfa Gymunedol Ieuenctid Scope, Caerdydd, wedi cydweithio â Chyngor Caerdydd i gynnal arddangosfa gelf aml-gyfrwng am ddim am bythefnos, sy'n cynnwys gwaith artistiaid anabl, yng Nghanolfan y Llyfrgell Ganolog.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/07/24 - Disgybl o Ysgol Y Wern yn ennill cystadleuaeth gelf Cymru Gyfan

Mae artist ifanc o Ysgol y Wern yn Llanisien, wedi ennill cystadleuaeth gelf ledled Cymru, gan ddod â balchder i'r ysgol a'i chymuned.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/07/24 - Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd; Cymuned ddysgu lewyrchus lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawr

Mae Estyn, yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi canfod bod Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn gymuned ddysgu ffyniannus lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/07/24 - Mae angen 'chwyldro ynni gwyrdd' ar Gaerdydd i gyrraedd sero-net

Bydd angen newidiadau sylweddol ar system ynni Caerdydd, er mwyn cyflawni sero-net, yn ôl Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) newydd ar gyfer y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/07/24 - Lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i warchod 11 o barciau yng Nghaerdydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos wedi'i lansio ar gynlluniau i warchod 11 o barciau yng Nghaerdydd a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fannau gwyrdd sydd ar gael i'r cyhoedd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

27/06/24 - Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru wedi ei chanmol gan Estyn am ethos gofalgar cryf

Mae Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru yn Llanedern yn ddiweddar ac mae ei hadroddiad yn cydnabod awyrgylch meithringar ac arweinyddiaeth effeithiol yr ysgol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

26/06/24 - ‘Crefftwyr Campus', Sialens Ddarllen yr Haf, yn dechrau yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn paratoi i lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni a'r nod yw tanio creadigrwydd a galluoedd adrodd straeon plant drwy swyn darllen drwy gydol gwyliau'r haf.

Darllenwch fwy yma