Mae cerflun newydd sy'n symboleiddio Ynys Echni ac â’r nod o gysylltu pobl ar y tir mawr â'r ynys fel rhan o brosiect celfyddydau, wedi'i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd, i'r de o Gofeb Scott.
Mae cerflun radio pedwar metr o daldra o bren caled yn garreg filltir bwysig ym Mhrosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, "Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser," ac mae'n rhan o gasgliad o gynnwys celf newydd a grëwyd ac a ddyluniwyd gan yr artist Glenn Davidson. Mae'r gwaith celf yn dathlu'r trosglwyddiad radio diwifr cyntaf dros ddŵr agored o Drwyn Larnog i'r ynys ym 1897 ac yn ogystal â choffáu cyflawniad technolegol, mae hefyd yn dirnod sy'n dynodi un o'r cysylltiadau niferus rhwng y tir mawr a'r ynys.
Mae'r cerflun wedi’i leoli hanner ffordd ar hyd y Morglawdd ac mae ei leoliad golygfaol yn cynnig pwynt o ddiddordeb i ymwelwyr sy'n cerdded heibio, lle gallan nhw weld Ynys Echni yn y pellter. Mae celf arall sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn yn cynnwys cerddi, monologau, seinweddau o'r ynys, ffilmiau byrion a phodlediadau, y gall y cyhoedd eu canfod ar wefan.
Mae "Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser" yn trawsnewid yr ynys o ganlyniad iddyfarniad gwerth i £1.8 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n rhan o fuddsoddiad o £2.8 miliwn i adfywio’r ynys. Mae cyllid ychwanegol yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf gan Gyngor Caerdydd a chyfraniadau gan gynnwys adnoddau staff gan sefydliadau partner fel RSPB Cymru a Chymdeithas Ynys Echni. Mae'r buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith atgyweirio ac adnewyddu adeiladau hanesyddol, gwelliannau i gynefinoedd bywyd gwyllt, a gweithgareddau amrywiol i ymgysylltu â'r gymuned ac ymwelwyr, gan gynnwys y cerflun newydd. Gall ymwelwyr archwilio taith hunan-dywys yr ynys, sy'n tynnu sylw at ei gorffennol sylweddol, gan gynnwys yr hen ysbyty colera a bywyd gwyllt ffyniannus.
Mae’r prosiect yn cynnwys:
- gwaith adnewyddu helaeth ar orsaf y Corn Niwl sy’n adeilad
rhestredig gradd II.
- sefydlogi'r ysbyty colera ac adeiladau golchi dillad.
- atgyweiriadau i system dalgylchoedd dŵr Fictoraidd yr ynys.
- adnewyddu gorsaf chwiloleuadau’r Ail Ryfel Byd i ddarparu 'cuddfan
morlun' – lle tawel i ymwelwyr wylio'r môr, llongau ac adar.
- gwell cynefinoedd ar gyfer nythfeydd Gwylanod Cefnddu Lleiaf yr ynys
a fflora morol.
- gwell dehongliad ar y safle i fynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes yr ynys.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Mae dadorchuddio'r cerflun hwn yn ddathliad o hanes cyfoethog Caerdydd ac Ynys Echni. Mae'r ynys ychydig dros bedair milltir i mewn i Fôr Hafren ond mae ganddi gymaint o gysylltiadau â'r tir mawr ac rydym yn awyddus i bobl ymweld â'r ynys ac archwilio ein hanes a rennir.
“Mae Ynys Echni yn noddfa i rywogaethau gwarchodedig o fywyd gwyllt a phlanhigion, ac erbyn hyn mae ganddi gronfa o gynnwys celf a digidol atyniadol sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn. Mae ei chymysgedd unigryw o harddwch naturiol, chwilfrydedd hanesyddol a chynnwys celf newydd yn ei gwneud yn gyrchfan wych i ymwelwyr, teuluoedd, selogion hanes, a’r rhai sy'n hoff o gelf a natur."
Am fwy o wybodaeth am y prosiect "Ynys
Echni – Cerdded Drwy Amser" ac i weld cynnwys y celfyddydau creadigol sy'n
cyd-fynd â'r cerflun, ewch i: http://art.flatholmisland.com/