The essential journalist news source
Back
19.
July
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 19 Gorffennaf 2024
 19/07/24

·       20 o Faneri Gwyrdd i fannau gwyrdd Cyngor Caerdydd

·       Addewid Caerdydd yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU 2024

·       Rhaglen ddigwyddiadau DYDDiau Da o Haf i bobl ifanc Caerdydd

·       Cyngor Caerdydd i fabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

20 o Faneri Gwyrdd i fannau gwyrdd Cyngor Caerdydd

Mae ugain o barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd wedi derbyn Baneri Gwyrdd gwerthfawr, gan gynnwys, am y tro cyntaf, Parc Cathays yng nghanolfan ddinesig hanesyddol Caerdydd a Pharc y Brag yn y Sblot, sydd newydd ei adnewyddu.

Wedi'i uwchraddio'n ddiweddar fel rhan o raglen fuddsoddi gwerth £3 miliwn ym mharciau Caerdydd, mae Parc y Brag bellach yn cynnwys ardal chwarae naturiol, parc sglefrfyrddio ac ardal gemau aml-ddefnydd, ochr yn ochr â choed newydd a dolydd. Mae delweddau hanesyddol o'r Sblot, ardal o'r ddinas sydd â rhai o'r lefelau amddifadedd uchaf a'r lefelau isaf o fannau gwyrdd fesul pen, hefyd wedi'u hymgorffori yng nghynllun y parc.

Yng nghanol hanesyddol y ddinas, mae Parc Cathays, sy'n cynnwys Gerddi Alexandra, Gerddi'r Orsedd, apharc newydd Mackenzie- a enwyd er anrhydedd i'r Athro benywaidd cyntaf yng Nghymru, Millicent Mackenzie - hefyd wedi cyflawni'r nod ansawdd rhyngwladol uchel-ei-barch am y tro cyntaf.

Mae'r gwobrau, sy'n cydnabod parciau a mannau gwyrdd mewn 20 o wledydd ar draws y byd, yn cael eu rhedeg yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus ac yn cael eu beirniadu'n annibynnol yn erbyn ystod o feini prawf llym, gan gynnwys: bioamrywiaeth, cyfranogiad cymunedol, glendid a rheolaeth amgylcheddol.

Darllenwch fwy yma     

 

Mae Addewid Caerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yn wythfed Gwobrau Symudedd Cymdeithasol blynyddol y DU (SOMOs).

Mae'r gwobrau'n cydnabod ac yn dathlu sefydliadau blaengar sy'n mynd ati i greu newid cymdeithasol cadarnhaol i'w gweithwyr ac yn eu cymunedau, trwy ymgorffori mentrau symudedd cymdeithasol yn eu strategaeth fusnes graidd.

Mae Addewid Caerdydd yn gynghrair o gyflogwyr, sefydliadau addysgol a phartneriaid cymunedol ledled y ddinas sy'n ymroddedig i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Caerdydd er budd plant a phobl ifanc.

Mae'r fenter wedi cael ei chydnabod am y gwaith a wnaed i sicrhau cyfleoedd sy'n codi uchelgeisiau ac yn datblygu sgiliau hanfodol sydd, trwy gydweithio, yn helpu disgyblion i gyflawni eu potensial a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas.

Darllenwch fwy yma    

 

Rhaglen ddigwyddiadau DYDDiau Da o Haf i bobl ifanc Caerdydd

Ar ôl i gannoedd o bobl ifanc fwynhau chwe wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau ledled y ddinas y llynedd, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd unwaith eto yn trefnu 'DYDDiau Da o Haf', rhaglen sydd â'r nod o ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc 11-25 oed, dros gyfnod y gwyliau.

Bydd y rhaglen ddigwyddiadau'n rhedeg o ganol mis Gorffennaf tan ddiwedd mis Awst ac yn cynnig profiadau cynhwysol, llawn hwyl i bob gallu gan gynnwys gweithgareddau awyr agored, teithiau dydd, teithiau cyfnewid ieuenctid, digwyddiadau cymunedol, twrnament pêl-droed, gweithdai syrcas a meddiannu'r Parc Dŵr a'r Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol.

Bydd clybiau ieuenctid rheolaidd hefyd yn cael eu cynnal ar draws y ddinas i gynnig gweithgareddau fel coginio, celf a chrefft, gemau a chwaraeon, i gyd mewn mannau diogel i bobl ifanc gysylltu â'i gilydd, gwneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Darllenwch fwy yma   

Disgwylir i Gyngor Caerdydd gryfhau ei ymrwymiad i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy fabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol Cenedlaethol sydd newydd ei datblygu.   

Mae'r Siarter, a grëwyd ar y cyd ag unigolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn uwchgynhadledd genedlaethol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau eiriolaeth plant blaenllaw, yn nodi egwyddorion ac addewidion a rennir y dylai pob corff cyhoeddus gydymffurfio â nhw wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc. 

Egwyddorion a Rennir:canolbwyntio ar gydraddoldeb, dileu stigma, meithrin undod, darparu cefnogaeth, hyrwyddo uchelgais, meithrin lles, sicrhau iechyd da, a sicrhau cartrefi sefydlog.

Addewidion yr Ymrwymiad:sicrhau parch, cyfranogiad, cyfathrebu clir, tosturi, cymorth nodau, a mynediad at eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Darllenwch fwy yma