19/7/2024
Agorwyd Tŷ Bronwen yn swyddogol yr wythnos hon yn Ysgol Gynradd Lakeside. Pod lles newydd yw Tŷ Bronwen sydd wedi'i ddarparu gan yr elusen Bronwen'sW;Sh.
Mae Tŷ Bronwen wedi'i enwi er cof am Bronwen Morgan, cyn-ddisgybl a chynorthwyydd dysgu yn Ysgol Gynradd Lakeside. Arferai Bronwen a'i chwiorydd fynd i'r ysgol hon a bu ei thad, Haydn Morgan, yn gwasanaethu ar Fwrdd y Llywodraethwyr. Roedd y teulu Morgan yn rhan annatod o gymuned yr ysgol felly.
Yn dilyn marwolaeth drasig Bronwen, sefydlodd ei theulu a'i ffrindiau elusen Bronwen'sW;Sh, sy'n ymroddedig i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Nod yr elusen yw creu mannau heddwch a meithrin, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol a noddfa i unigolion ifanc.
Trwy ymdrechion cydweithredol, crëwyd Tŷ Bronwen i ddarparu encil tawel i ddisgyblion sydd angen seibiant o brysurdeb dyddiol bywyd yr ysgol ac mae disgyblion, staff a chymuned ehangach yr ysgol wedi bod yn dilyn trywydd y gwaith o'i ddatblygu, ei ddylunio a'i adeiladu.
Dywedodd y Pennaeth, Rachel Mitchell: "Mae'r angen am noddfa o'r fath wedi dod yn bwysicach fyth yn sgil pandemig Covid, a adawodd lawer o blant yn ynysig yn gymdeithasol. Mae Ysgol Gynradd Lakeside wastad wedi blaenoriaethu lles disgyblion, gan fynd i'r afael ag anghenion disgyblion unigol. Mae ychwanegu'r pod lles yn cyd-fynd yn berffaith â'r ymrwymiad hwn, gan gynnig lle i fyfyrio'n dawel a meithrin cysylltiad â byd natur.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu'r achlysur arbennig hwn gyda'n cymuned a pharhau ag etifeddiaeth Bronwen o ofal a thosturi."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Tŷ Bronwen yn ychwanegiad i'w groesawu at Ysgol Gynradd Lakeside a bydd yn siŵr o wella darpariaeth yr ysgol ar gyfer lles disgyblion.
"Rydym yn ddiolchgar i elusen Bronwen'sW;Sham gyflwyno'r pod newydd sy'n tanlinellu pwysigrwydd cefnogaeth iechyd emosiynol i blant a phobl ifanc."
Ar ran Elusen W;sh Bronwen; dywedodd Haydn Morgan: "Ar ôl tair blynedd o gynllunio, mae wedi bod yn ddiwrnod emosiynol iawn yn dathlu lansiad ein pod llesW;ShBronwen ac mae wedi bod yn ysbrydoledig ac yn codi calon i weld Tŷ Bronwen yn cael ei ddefnyddio a chlywed gan y plant, faint y gallant elwa o'r gofod heddychlon hwn.
"Mae hyn wedi bod yn bosibl drwy godi arian a'r gefnogaeth barhaus i'r elusen a diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu'n hael. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ein hail brosiect."
Dyma beth oedd gan ddisgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol i'w ddweud am y cyfleuster newydd:
"Mae'n teimlo fel eich bod chi yng nghanol coedwig a gallwch ymdawelu a meddwl am bethau." - Will
"Os ydych chi'n teimlo dan straen neu'n poeni gallwch ddod yma - mae arogl ffres a gallwch glywed yr adar i gyd yn trydar y tu allan. Mae'n dawel ac yn dy helpu i ymlacio." - Jai
"Mae'r holl strwythur pren yn gwneud i chi deimlo fel eich bod chi yng nghanol byd natur, ac yn gwneud i chi deimlo'n dawel eich meddwl." - Matty
"Mae fel cyfaill cymorth emosiynol, ond ar ffurf adeilad." - Gwen
"Os ydych chi'n flin gallwch ddod yma i ymdawelu, a gwrando ar y distawrwydd." - Arham
"Gallaf ddychmygu dod yma pan fyddaf yn teimlo dan straen a byddaf yn teimlo'n hapusach eto yn syth." - Rayan