The essential journalist news source
Back
19.
July
2024.
Cyngor Caerdydd yn paratoi i fabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â p

19/7/2024


Disgwylir i Gyngor Caerdydd gryfhau ei ymrwymiad i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy fabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol Cenedlaethol sydd newydd ei datblygu.   

Mae'r Siarter, a grëwyd ar y cyd ag unigolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn uwchgynhadledd genedlaethol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau eiriolaeth plant blaenllaw, yn nodi egwyddorion ac addewidion a rennir y dylai pob corff cyhoeddus gydymffurfio â nhw wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc. 

Egwyddorion a Rennir:canolbwyntio ar gydraddoldeb, dileu stigma, meithrin undod, darparu cefnogaeth, hyrwyddo uchelgais, meithrin lles, sicrhau iechyd da, a sicrhau cartrefi sefydlog.

Addewidion yr Ymrwymiad:sicrhau parch, cyfranogiad, cyfathrebu clir, tosturi, cymorth nodau, a mynediad at eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Mae'r egwyddorion arweiniol yn cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan sicrhau gofal unigoledig ac sy'n sensitif yn ddiwylliannol.

Yn allweddol wrth lunio'r fenter mae Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol Cyngor Caerdydd sy'n sicrhau goruchwyliaeth gadarn o'r gofal a'r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sy'n byw yng Nghaerdydd.  

Mae'r Pwyllgor yn ymdrechu i fynd i'r afael â phum blaenoriaeth allweddol fel yr amlinellir yn Strategaeth Rhianta Corfforaethol Caerdydd: Iechyd a lles emosiynol, Cysylltiadau a Pherthnasoedd Gwell, Cartrefi Diogel a Sefydlog, Cyflawniad Addysgol, a Dathlu Pobl Ifanc. 

Bydd mabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol yn cael ei adolygu gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 18 Gorffennaf, lle bydd aelodau yn ystyried integreiddio ei hegwyddorion a'i haddewidion i Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd Caerdydd ar gyfer 2025-2027. 

Bydd y strategaeth hon yn cael ei chefnogi gan Gynllun Gweithredol Rhianta Corfforaethol manwl, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad ag amrywiol adrannau'r Cyngor i wella'r gefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "Mae mabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol yn gam sylweddol tuag at wella'r gefnogaeth a'r gofal ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Bydd y Siarter hon, a grëwyd gyda mewnbwn unigolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn ein tywys i ddarparu'r gwasanaethau a'r cyfleoedd gorau posib ar gyfer eu datblygiad a'u lles.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol Cyngor Caerdydd: "Fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU, mae ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau a chymorth o safon uchel yn parhau, gyda ffocws arbennig ar les a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae'r Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn derbyn y sylw a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu ac mae ein hagenda yn seiliedig ar eu lleisiau a'u profiadau."

Os bydd y Cabinet yn ei chymeradwyo, bydd Llywodraeth Cymru yn cael gwybod bod Cyngor Caerdydd wedi mabwysiadu'r Siarter ac y bydd yn cael ei ystyried yn ffurfiol ei fod wedi ymrwymo iddi.

Gallwch weld y siarter yma:Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru (llyw.cymru)