17/7/2024
Mae Addewid Caerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yn wythfed Gwobrau Symudedd Cymdeithasol blynyddol y DU (SOMOs).
Mae'r gwobrau'n cydnabod ac yn dathlu sefydliadau blaengar sy'n mynd ati i greu newid cymdeithasol cadarnhaol i'w gweithwyr ac yn eu cymunedau, trwy ymgorffori mentrau symudedd cymdeithasol yn eu strategaeth fusnes graidd.
Mae Addewid Caerdydd yn gynghrair o gyflogwyr, sefydliadau addysgol a phartneriaid cymunedol ledled y ddinas sy'n ymroddedig i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Caerdydd er budd plant a phobl ifanc.
Mae'r fenter wedi cael ei chydnabod am y gwaith a wnaed i sicrhau cyfleoedd sy'n codi uchelgeisiau ac yn datblygu sgiliau hanfodol sydd, trwy gydweithio, yn helpu disgyblion i gyflawni eu potensial a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas.
Ers eu lansio yn 2017, mae'r SOMOs wedi dod yn llwyfan pwysig ar gyfer hyrwyddo symudedd cymdeithasol yn y DU ac wedi denu ceisiadau gan sefydliadau blaenllaw ledled y wlad, sy'n rhychwantu sawl sector.
Mae'r gwobrau'n gydnabyddiaeth werthfawr i sefydliadau sy'n arwain y ffordd mewn symudedd cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Addewid Caerdydd wedi bod yn allweddol wrth yrru sawl maes allweddol ymlaen sy'n canolbwyntio ar ddarparu uchelgais, cyfleoedd a sgiliau i'r rhai sydd eu hangen fwyaf a'i nod yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, creu partneriaethau rhwng cyflogwyr ac addysgwyr, a chefnogi pobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, i lwyddo mewn addysg, cyflogaeth a bywyd.
"Mae'r fenter yn darparucyfleoedd i gyflogwyr baratoi pobl ifanc Caerdydd ar gyfer byd gwaith trwy roi cyfleoedd uniongyrchol iddynt a darparu arweiniad ac ysbrydoliaeth amhrisiadwy i'r genhedlaeth nesaf o weithwyrac mae'n cyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach i wneud hawliau plant yn realiti yng Nghaerdydd, yn dilyn ein cyflawniad o ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant gyntaf y DU yn 2023.
"Rwyf wrth fy modd bod Addewid Caerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU ac rwy'n dymuno pob lwc i'r tîm ar gyfer y seremoni wobrwyo ym mis Hydref."
Dywedodd Tunde Banjoko OBE, sylfaenydd Gwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU: "Ein gweledigaeth yw i bob cyflogwr ac addysgwr yn y DU arwain camau ystyrlon i gyflawni amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant economaidd-gymdeithasol, felly rydym wrth ein boddau gyda'r camau a ddangoswyd gan y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni."
Mae enillwyr y gwobrau yn cael eu penderfynu gan banel beirniadu annibynnol, sy'n cynnwys ffigurau blaenllaw o fyd busnes, elusennau a'r sector cyhoeddus, dan gadeiryddiaeth Arglwydd Raglaw Llundain EF, Syr Kenneth Olisa OBE.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn gala gwobrau lle byddent yn bresennol yn Llundain ddydd Iau 3 Hydref 2024.