- · Cyngor yn ymrwymo i fynd i'r afael â diffyg o £49.7m yn y gyllideb
- · Rhaglen 'Gigs Bach' yn arddangos talent y dyfodol yng Nghlwb Ifor Bach
- · 85% o ddisgyblion Caerdydd yn mynychu ysgol sydd wedi ymrwymo i wreiddio hawliau plant
Cyngor yn ymrwymo i fynd i'r afael â diffyg o £49.7m yn y gyllideb
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu ei fod yn wynebu
diffyg o bron i £50m yn y gyllideb yn 2025/26.
Mae'r
cyngor nawr yn gweithio ar gynllun cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf - a allai
weld rhai gwasanaethau'n cael eu cwtogi neu eu hatal yn llwyr - i bontio'r
bwlch.
Achosir
diffyg pan nad yw'r arian y mae'r cyngor yn ei dderbyn gan y Llywodraeth, sy'n
cael ei ychwanegu at yr arian y mae'n disgwyl ei godi o daliadau fel y dreth
gyngor, yn ddigon i dalu am y 700 a mwy o wasanaethau y mae'r cyngor yn eu
darparu i breswylwyr.
Mae
adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd, Ddydd Iau, 18 Gorffennaf, yn manylu ar y
pwysau ariannol y mae'r cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd oherwydd costau a
galw cynyddol am ofal cymdeithasol, ysgolion ac addysg, adeiladau, ffyrdd a
pharciau, ochr yn ochr â'r galw cynyddol am nifer o wasanaethau eraill.
Rhaglen 'Gigs Bach' yn arddangos talent y dyfodol yng Nghlwb Ifor Bach
Roedd hi'n hydref pan aeth
cyfres o 'Gigs Bach' gan rai o'r perfformwyr mwyaf poblogaidd ar y sîn
gerddoriaeth Gymreig ar daith o gwmpas ysgolion uwchradd Caerdydd, gan gychwyn
rhaglen Cyngor Caerdydd gyda'r nod o ysbrydoli dysgwyr a sicrhau talent ddawnus
ar gyfer sector cerddoriaeth Caerdydd.
Yr wythnos diwethaf - ar ôl
rhaglen fentora, hyfforddiant a chymorth gan bartneriaid y diwydiant
cerddoriaeth, gan gynnwys Cerddcf, Anthem, a Sound Progression, yn ogystal â
Duke al Durham, Maddie Jones, Alex Jones, Wonderbrass, Dflexx a Farrah - aeth
disgyblion o ysgolion ledled Caerdydd i'r llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach mewn
cyfres o ddigwyddiadau arddangos arbennig o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys
DJ BBC 6 Music, Huw Stephens, a DJ BBC Radio 1, Sam MacGregor.
Mae 85% o ddisgyblion Caerdydd yn mynychu ysgol sydd wedi ymrwymo i
wreiddio hawliau plant
Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddwyd Caerdydd yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF - y cyntaf o'i math yn y Deyrnas Unedig.
Dyfarnwyd y statws mawreddog a gydnabyddir yn rhyngwladol i gydnabod y
camau y mae'r Cyngor a'i bartneriaid wedi'u cymryd i hyrwyddo hawliau dynol
plant a phobl ifanc ledled y ddinas.
Wrth hyrwyddo hawliau plant, mae 55 o ysgolion Caerdydd bellach wedi
ennill aur neu arian yng Ngwobrau Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF. Mae hyn
yn cydnabod bod ysgolion yn rhoi hawliau plant ar waith - lle mae plant yn cael
eu parchu, eu doniau yn cael eu meithrin, a'u bod yn gallu ffynnu.
Trwy gefnogaeth gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant, mae 85% o'r holl
blant a phobl ifanc yn mynychu ysgol sydd â chynllun gweithredu hawliau ar
waith.