The essential journalist news source
Back
12.
July
2024.
Rhaglen 'Gigs Bach' yn arddangos talent y dyfodol yng Nghlwb Ifor Bach


12/7/24


Roedd hi'n hydref pan aeth cyfres o 'Gigs Bach' gan rai o'r perfformwyr mwyaf poblogaidd ar y sîn gerddoriaeth Gymreig ar daith o gwmpas ysgolion uwchradd Caerdydd, gan gychwyn rhaglen Cyngor Caerdydd gyda'r nod o ysbrydoli dysgwyr a sicrhau talent ddawnus ar gyfer sector cerddoriaeth Caerdydd.

 

Yr wythnos hon - ar ôl rhaglen fentora, hyfforddiant a chymorth gan bartneriaid y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys Cerddcf, Anthem, a Sound Progression, yn ogystal â Duke al Durham, Maddie Jones, Alex Jones, Wonderbrass, Dflexx a Farrah - aeth disgyblion o ysgolion ledled Caerdydd i'r llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach mewn cyfres o ddigwyddiadau arddangos arbennig o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys DJ BBC 6 Music, Huw Stephens, a DJ BBC Radio 1, Sam MacGregor. 

 

A group of people playing instrumentsDescription automatically generated

Disgyblion o Ysgol Uwchradd Cantonian ar lwyfan Clwb Ifor Bach (credyd Cyngor Caerdydd)

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae blwyddyn gyntaf ein rhaglen Gigs Bach wedi mynd â disgyblion o fan lle nad oedd rhai ohonynt erioed wedi profi gig o'r blaen, i berfformio eu cerddoriaeth eu hunain yn un o leoliadau mwyaf eiconig Caerdydd o flaen gweithwyr proffesiynol sefydledig yn y diwydiant - mae hynny'n dipyn o daith mewn cyfnod o un flwyddyn academaidd. 

 

"Bydd y sgiliau maen nhw wedi'u hennill a'r profiadau maen nhw wedi'u cael fel rhan o'r rhaglen Gigs Bach yn rhoi sylfaen dda iawn i bob un ohonyn nhw ar gyfer gyrfaoedd posib yn y sector cerddoriaeth yn y dyfodol, boed hynny'n perfformio ar lwyfan neu yn un o'r rolau y tu ôl i'r llenni yn y diwydiant."     

 

Sefydlwyd llawer o'r 21 o fandiau a berfformiodd yn ystod gweithdai a gynhaliwyd fel rhan o'r rhaglen Gigs Bach, a oedd yn cynnwys gweithdai 'Band o Sgrats' yn ogystal â sesiynau ar gynhyrchu cerddoriaeth, cyfansoddi caneuon a chyfansoddi. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan 'y tu ôl i'r llenni' gyda gweithdai a sesiynau a oedd yn ymdrin â rheoli llwyfan, rheoli bandiau, a hyrwyddo - gan gynnwys y cyfle i ddylunio ac argraffu crysau-t band i'w gwisgo yn y gigs arddangos, mewn sesiwn 'Dylunio eich Nwyddau eich hun' gyda Printhaus, wedi'i hwyluso gan Actifyddion Artistig.

 

Wrth siarad cyn perfformio, dywedodd HJ o'r band Violet Chapter - sy'n cynnwys disgyblion o Ysgol Plasmawr, Ysgol Gyfun Radur, ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd a sefydlwyd allan o'u cariad at Metallica mewn gweithdy 'Band o Sgrats': "Hwn oedd y profiad gorau posib. Roeddwn i bob amser yn meddwl y byddwn i'n ymwneud â cherddoriaeth, ond mae hyn wedi gwneud i mi fod eisiau ymwneud â cherddoriaeth hyd yn oed yn fwy. Pe bawn i'n rhoi cyngor ar sut i gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn cerddoriaeth, dyma fyddai'r ffordd. Rhowch gyfle i blant eraill wneud hyn."

 

A group of people playing instruments on a stageDescription automatically generated

Violet Chapter yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o'r rhaglen 'Gigs Bach' (credyd Cyngor Caerdydd) 

 

Dywedodd Amelie, sy'n fyfyriwr blwyddyn olaf yn Ysgol Uwchradd Caerdydd y mae disgwyl iddi ddechrau cwrs Cynhyrchu Cerddoriaeth yn y coleg ym mis Medi: "Mae wedi bod yn dda iawn, yn gynhwysol iawn, yn bositif iawn - dwi'n hoffi bod mewn band a chwarae mewn band a'r holl bethau yna, ond mae bod mewn band a gwybod sut i reoli dy hun a hyrwyddo dy hun fel cerddor yn bwysig iawn hefyd, dwi'n meddwl bod yr holl beth yn ddiddorol iawn. Rydw i wedi dysgu llawer am gynllunio, edrych ar sut maen nhw'n cynllunio'r gigs, sydd wedi fy helpu'n fawr."

 

Un o'r ysgolion oedd â band yn perfformio ei gig cyntaf oedd Ysgol Uwchradd Cantonian.   Dywedodd yr Athro Cerdd, Helen Morris: "Mae wedi bod yn brofiad gwych iddyn nhw, ni fydd llawer ohonyn nhw erioed wedi perfformio mewn lleoliad fel hyn, ac mae'n debyg na fydden nhw'n cael y profiad oni bai am y prosiect hwn.

 

"Mae'n bendant wedi helpu gwneud iddyn nhw feddwl am gerddoriaeth fel gyrfa bosib. Mae'n un o'r profiadau hynny maen nhw'n mynd i edrych yn ôl arno a meddwl, roedden ni'n gerddorion go iawn a dweud y gwir. Gobeithio y bydd yn eu hannog i barhau i gydweithio fel band, archwilio profiadau eraill o ran perfformio a gigs byw, ond hefyd llwybrau eraill mewn cerddoriaeth, fel technegwyr a pheirianwyr sain." 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd yn llawn talent ond os yw am barhau i ffynnu yn y dyfodol, mae angen talent barhaus arni.

 

"Mae'r rhaglen Gigs Bach yn rhan allweddol o'n Strategaeth Gerddoriaeth i gefnogi sîn gerddoriaeth Caerdydd a rhoi cerddoriaeth wrth wraidd twf a datblygiad y ddinas. Dyluniwyd y rhaglen i ysbrydoli, grymuso a galluogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y sector cerddoriaeth - o edrych ar ddigwyddiadau arddangos yr wythnos hon yng Nghlwb Ifor Bach, mae dyfodol sîn gerddoriaeth Caerdydd mewn dwylo da."