12.07.24
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu ei fod yn wynebu
diffyg o bron i £50m yn y gyllideb yn 2025/26.
Mae'r cyngor nawr yn gweithio ar gynllun cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf - a allai weld rhai gwasanaethau'n cael eu cwtogi neu eu hatal yn llwyr - i bontio'r bwlch.
Achosir diffyg pan nad yw'r arian y mae'r cyngor yn ei dderbyn gan y Llywodraeth, sy'n cael ei ychwanegu at yr arian y mae'n disgwyl ei godi o daliadau fel y dreth gyngor, yn ddigon i dalu am y 700 a mwy o wasanaethau y mae'r cyngor yn eu darparu i breswylwyr.
Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd, Ddydd Iau, 18 Gorffennaf, yn manylu ar y pwysau ariannol y mae'r cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd oherwydd costau a galw cynyddol am ofal cymdeithasol, ysgolion ac addysg, adeiladau, ffyrdd a pharciau, ochr yn ochr â'r galw cynyddol am nifer o wasanaethau eraill.
Ym mis Mawrth, amlygodd Cynllun Ariannol Tymor
Canolig y Cyngor fwlch cyllidebol posibl o £44.3m yn 2025-26. Ar gyfer y cyfnod
hirach o 2025-2029, mae'r bwlch hwn yn cynyddu i £142.3m.
Ond bydd cynghorwyr yn
clywed yr wythnos nesaf fod y diffyg rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi
codi dros £6m i £49.726m a £147.7m dros y tymor canolig.
Mae'r bwlch yn y
gyllideb oherwydd cymysgedd o gostau ychwanegol a'r gostyngiadau disgwyliedig
yng nghyllid y llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae effeithiau mawr ar y gyllideb yn cynnwys
galw cynyddol am wasanaethau cymhleth, yn enwedig mewn perthynas â phlant mewn
lleoliadau gofal, costau gofal cartref i oedolion, a chynnydd sylweddol yn y
gofyniad i ysgolion ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae pwysau chwyddiant eraill gan gynnwys costau
bwyd uwch (prydau ysgol), deunyddiau adeiladu, a gwasanaethau a gomisiynir yn
allanol, fel lleoliadau cartref gofal a chludiant o'r cartref i'r ysgol, hefyd
yn rhoi straen aruthrol ar gyllideb y cyngor.
Mae costau'r gweithlu hefyd yn cael effaith, gan
gynnwys:
- Dyfarniadau cyflog i staff y cyngor fel athrawon
- Cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer 2025-26 ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni hynny yn yr hyn sy'n parhau i fod yn dirwedd ariannol gynyddol heriol.
"Byddwn nawr yn gweithio ar lunio Cyllideb, a Chynllun Corfforaethol wedi'i ddiweddaru, a fydd yn blaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael ar wasanaethau allweddol."
Ymhlith y mesurau y mae'r cyngor yn bwriadu eu
gweithredu i fynd i'r afael â'r bwlch yn y gyllideb mae:
- Cynyddu ffrydiau incwm lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys cynyddu'r ffioedd y mae'n eu codi ar gyfer rhai gwasanaethau
- Arbedion effeithlonrwydd
- Lleihau gwariant
Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni benderfyniadau a dewisiadau anodd i'w gwneud dros y misoedd nesaf, ond rydyn ni'n benderfynol o geisio lleihau'r diffyg yn y gyllideb mewn ffyrdd a fydd yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar bobl Caerdydd. Fodd bynnag, mae hyn yn dod yn fwyfwy anodd.
"Mae'r cyngor yma - fel cynghorau ar draws y DU - wedi gweld ei gyllideb yn gostwng mewn termau real, gan ofyn am gannoedd o filiynau o arbedion dros y 15 mlynedd diwethaf. Hyd yn hyn, rydym wedi llwyddo i ddiogelu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau y mae ein preswylwyr yn dibynnu arnynt ac yn poeni amdanynt, ond mae'r bwlch yn y gyllideb rydym yn ei wynebu y flwyddyn nesaf a thros y pedair blynedd nesaf, a osodwyd yn erbyn yr arian rydym yn disgwyl ei dderbyn, yn golygu ei bod yn debygol iawn na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau mwyach. Byddwn wrth gwrs yn ymgynghori â thrigolion drwy gydol y broses hon i ddeall beth sydd bwysicaf iddyn nhw."
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad y Cyngor ddydd Mercher, 17 Gorffennaf am 5pm. I weld yr adroddiad llawn, agenda'r cyfarfod, a gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod ar y diwrnod, dilynwch y ddolen hon https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=8472&LLL=1
Yna bydd yr adroddiad yn mynd i'r Cabinet i'w gymeradwyo o 2pm ddydd Iau, 18 Gorffennaf. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael yma https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8473&LLL=1
Os cytunir arno gan y Cabinet, bydd y Cyngor Llawn yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ddydd Iau, 18 Gorffennaf, o 4.30pm.
Nodiadau
i'r golygydd:
Cyllideb
Cyngor Caerdydd 2025/26 - esboniwr
Mae dwy ran allweddol i Gyllideb y Cyngor – Refeniw a Chyfalaf.
Beth yw'r Gyllideb Refeniw?
Dyma gynllun gwariant y Cyngor ar gyfer gwasanaethau o ddydd i ddydd mewn un flwyddyn a sut y byddwn yn eu cyllido. Mae'n debyg i edrych ar eich incwm a chynllunio ar gyfer hanfodion dyddiol fel rhent, bwydydd, a biliau trydan/nwy/dŵr.
Beth yw bwlch yn y gyllideb?
Dyma pryd y byddwn yn edrych ar flynyddoedd i ddod ac yn amcangyfrif na fydd cyllid (y grantiau a dderbyniwn gan y Llywodraeth a refeniw gan y Dreth Gyngor) yn talu costau darparu gwasanaethau, fel gofal cymdeithasol, addysg, llyfrgelloedd a hybiau, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn darparu tua 700 o wasanaethau i breswylwyr ar draws y ddinas.
Pam mae’r Cyngor yn wynebu bwlch yn y
gyllideb?
Mae'r Cyngor yn rhagweld bwlch o £49.7m yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 oherwydd disgwylir i gost darparu gwasanaethau gynyddu, a disgwylir i swm y cyllid ostwng.
Pam mae
costau'n cynyddu?
Mae'r pwysau'n
cynnwys:
- Galw Cynyddol am ein Gwasanaethau - Mae heriau'r blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys pandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw, wedi arwain at fwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth. Mae'r galw am ein gwasanaethau yn parhau i gynyddu ac yn aml mae’n fwy cymhleth. Mae hyn yn arbennig o wir mewn meysydd fel gofal i blant sy'n agored i niwed, gofal cartref i oedolion, anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg, a digartrefedd.
- Cost Gynyddol Gwasanaethau - Er bod chwyddiant wedi sefydlogi ers y ffigurau uchaf mewn hanes yn ddiweddar, rydym yn dal i ddisgwyl i brisiau gynyddu mewn rhai meysydd gan gynnwys bwyd, TG a thaliadau i ddarparwyr gwasanaethau - gan gynnwys ar gyfer trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol a gofal (gartref ac mewn lleoliad preswyl).
- Costau Gweithlu - Rydym yn credu y dylai gweithwyr y sector cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ledled y ddinas gael eu talu'n deg. Mae dyfarniadau cyflog yn cael eu trafod ar gyfer athrawon, gofalwyr a staff sector cyhoeddus eraill sydd – oherwydd chwyddiant – yn debygol o weld costau cyflogau’r Cyngor yn codi.
Sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r bwlch
yn y gyllideb
Bydd angen i
ni gau'r bwlch trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Arbedion - Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a bydd yn ceisio gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd cefn swyddfa nad ydynt yn effeithio ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau. Yn anffodus, ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn ddigon, a bydd angen gwneud rhai newidiadau i wasanaethau er mwyn mantoli’r cyfrifon. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgynghori ar yr hyn y mae pobl yng Nghaerdydd yn ei feddwl am newidiadau posib y gallem eu gwneud i arbed arian.
- Treth Gyngor - Mae’r Dreth Gyngor yn cyllido tua 26% o gyllideb y Cyngor, ac mae’r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor yn cynhyrchu tua £1.9m, ac felly nid yw cau'r bwlch yn y gyllideb trwy’r Dreth Gyngor yn realistig. Bydd angen mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r bwlch drwy arbedion.
- Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn - Mae angen defnyddio cronfeydd wrth gefn i helpu i fantoli'r gyllideb yn ofalus. Mae cronfeydd wrth gefn yn ffynhonnell gyllido untro felly mae eu defnyddio i fynd i'r afael â phwysau parhaus dim ond yn oedi'r angen i ddod o hyd i ateb mwy parhaol.
Beth yw’r Rhaglen Gyfalaf?
Y Rhaglen Gyfalaf yw cynllun gwariant pum mlynedd y Cyngor i wella asedau'n sylweddol neu fuddsoddi mewn rhai newydd. Dylai buddsoddi cyfalaf greu buddion hirdymor - mae enghreifftiau'n cynnwys adeiladu ysgol newydd neu waith seilwaith ar raddfa fawr i gefnogi’r gwaith o adfywio’r ddinas.
Beth fyddwch chi'n ei ystyried wrth
ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf?
Mae'r rhaglen gyfredol yn cwmpasu 2024/25
– 2028/29. Rydym nawr yn bwriadu rholio hyn ymlaen un flwyddyn fel rhan o
Gyllideb 2025/26. I wneud hyn, byddwn yn ystyried amrywiaeth o faterion, gan
gynnwys:
- Fforddiadwyedd - mae hyn yn allweddol oherwydd bod cyllid yn gyfyngedig - bydd angen i ni flaenoriaethu.
- Costau a phwysau cadwyn gyflenwi - gan gynnwys cynnydd mewn prisiau adeiladu ac argaeledd cyflenwyr.
- Cyfleoedd Cyllido Allanol - mae'r Cyngor yn aml yn llwyddiannus wrth wneud cais am grantiau, ac mae hyn yn allweddol i gefnogi fforddiadwyedd.
Pam mae fforddiadwyedd yn her?
Gallwn gyllido cyfalaf o sawl ffynhonnell gan gynnwys grantiau, cronfeydd wrth gefn, neu dderbyniadau cyfalaf (sef arian o werthu tir, adeiladau, neu asedau eraill). Os nad oes gennym ffynhonnell arian ar gyfer buddsoddi cyfalaf yr ydym yn teimlo sydd angen digwydd, caniateir i ni fenthyca.
Mae angen ystyried benthyca yn ofalus oherwydd ei fod yn cael effaith hirdymor ar y gyllideb refeniw - sydd eisoes dan bwysau. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i ni dalu llog o'r gyllideb honno a neilltuo arian i leihau benthyca. Mewn cyd-destun personol, mae hyn yn debyg i godi benthyciad ar gyfer car neu estyniad i'ch cartref – rhaid i chi fod yn hyderus y gallwch fforddio'r ad-daliadau ochr yn ochr â'ch treuliau dydd i ddydd. Mewn rhai amgylchiadau, gellir dileu'r effaith ar y gyllideb refeniw os gall prosiect cyfalaf gynhyrchu incwm neu arbedion i dalu am gostau benthyca. Mae enghreifftiau o hyn yn y rhaglen bresennol yn cynnwys datblygiad yr arena (i'w dalu gan incwm o'r eiddo), datblygu’r sgwâr canolog, a rhent o dai cyngor newydd.
Y Camau Nesaf
Yr egwyddor gyffredinol yw, heb fawr ddim cyfle ar gyfer derbyniadau cyfalaf na benthyca pellach, bydd unrhyw wariant cyfalaf newydd yn cael ei leihau oni bai y gall partneriaid allanol ei gefnogi. Bydd ffocws ar gyflawni prosiectau presennol o fewn y gyllideb. Yn ogystal:
Bydd
cynlluniau cyfalaf sydd eisoes wedi'u cynllunio, a'u hamseru, yn cael eu
hadolygu i nodi unrhyw bwysau cost neu gyfleoedd i gael cyllid allanol i dalu
amdanynt.
Byddwn yn ceisio fframweithiau cynllunio
tymor hwy ar gyfer buddsoddi cyfalaf gyda darparwyr grantiau allanol. Mae
grantiau yn ffordd bwysig o gefnogi fforddiadwyedd, ond mae'r trefniadau bid
presennol yn ei gwneud yn anodd cynllunio.