The essential journalist news source
Back
11.
July
2024.
Scope a Chyngor Caerdydd yn cynnal arddangosfa artistiaid anabl yn ystod mis Balchder Anabledd
 
11/7/24  
 
 Mae timau Ymgysylltu Cymunedol a Chydweithfa Gymunedol Ieuenctid Scope, Caerdydd, wedi cydweithio â Chyngor Caerdydd i gynnal arddangosfa gelf aml-gyfrwng am ddim am bythefnos, sy'n cynnwys gwaith artistiaid anabl, yng Nghanolfan y Llyfrgell Ganolog, i ddathlu Mis Balchder Anabledd.

Yn cael ei lansio am 12.30pm ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf, bydd yr arddangosfa'n dathlu talent anhygoel ac yn cynnwys gwaith 11 artist a sefydliad, dau ffotograffydd, bardd.

Bydd gwaith ysgrifennu creadigol gan aelodau o ddosbarthiadau DICE Neuadd Llanofer a gweithiau celf digidol hefyd yn cael eu harddangos. Mae aelodau o Gydweithfa Gymunedol Ieuenctid Scope wedi creu teils ceramig i ddathlu mis Balchder Anabledd ac mae aelodau eraill wedi creu baneri bach i ddod ag awyrgylch dathlu i'r digwyddiad.

Mae aelodau Ymgysylltu Cymunedol a Chydweithfa Gymunedol Ieuenctid Scope wedi cefnogi Cyngor Caerdydd ac ymwelwyr â Hyb y Llyfrgell Ganolog ers dros 2 flynedd. Maen nhw wedi darparu blychau synhwyraidd i ymwelwyr ac wedi cynnal digwyddiadau barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol, felly roedd cynnal digwyddiad Mis Balchder Anabledd yn y lleoliad yn ddatblygiad naturiol.  

Bydd y lansiad mewn tair rhan.  Yn ystod yr awr gyntaf bydd gwesteion yn cwrdd ac yn rhyngweithio, a bydd sgyrsiau gan bedwar artist yn ystod yr awr wedi hynny.  Yn olaf, mae'r aelodau Gydweithfa Gymunedol Ieuenctid eisiau ysgogi  trafodaethau am anabledd a gall ymwelwyr gael sesiynau un wrth un gyda'r artistiaid.

Dywedodd Lisa Thomas, Hwylusydd y Gydweithfa Gymunedol Ieuenctid:

"Hoffwn ddiolch i'r timau yng Nghyngor Caerdydd a Hyb y Llyfrgell Ganolog am ein helpu i drefnu'r arddangosfa arbennig iawn hon. Maen nhw wedi gwneud cymaint mwy na’r disgwyl i'n cefnogi ni ac mae wedi bod yn bleser pur cydweithio â nhw.

"Roedd aelodau ein Cydweithfa Gymunedol Ieuenctid ac Ymgysylltu Cymunedol yn awyddus iawn i wneud rhywbeth arbennig i ddathlu Mis Balchder Anabledd yng Nghaerdydd. Penderfynwyd mai arddangosfa, yn arddangos gwaith artistiaid anabl, oedd y llwyfan perffaith i gychwyn y sgyrsiau sydd eu hangen i newid canfyddiadau ac agweddau tuag at anabledd.

"Byddem wrth ein bodd pe bai pawb yn ymweld â'r arddangosfa a gweld talent anhygoel gan artistiaid anabl y ddinas drostynt eu hunain. Rwy'n sicr y byddant yn cael amser gwych ac yn cael eu hysbrydoli i gael sgyrsiau nad ydynt erioed wedi'u cael o'r blaen."

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb Cyngor Caerdydd:

"Rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda thîm Cydweithfa Gymunedol Ieuenctid Scope dros y ddwy flynedd ddiwethaf, maen nhw wedi ein helpu ni i ddarparu amgylchedd mwy hygyrch sydd wedi bod o fudd mawr i'n defnyddwyr a'n cwsmeriaid.

"Mae ein tîm yma wedi dysgu cymaint am y materion a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd a'r hyn y gallwn ni helpu i wneud eu hymweliad yma mor gefnogol a diogel â phosibl.

"Rydyn ni i gyd yn hynod falch o gynnal arddangosfa gelf Mis Balchder Anabledd. Mae safon y gwaith y bydd pobl yn ei weld yn gwbl anhygoel ac rwy'n annog unrhyw un sydd yn yr ardal i ddod i mewn a mwynhau'r sioe."