The essential journalist news source
Back
2.
July
2024.
Cyngor teithio ar gyfer Monster Jam ar 6 Gorffennaf 6 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
 02/07/24

 Wrth i Monster Jam gael ei gynnal yn Stadiwm Principality, bydd holl ffyrdd canol y ddinas gyfan ar gau o amgylch y stadiwm ar 6 Gorffennaf rhwng 11.30am a 7.30pm.  Bydd Stryd y Castell, o gyffordd Heol y Gogledd hyd at Heol y Porth yn parhau ar gau tan hanner nos oherwydd cyngerdd Manic Street Preachers a Suede ar diroedd y Castell.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur  oherwydd y digwyddiad hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw – ac os ydych yn mynd i’r Monster Jam, osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS. Mae’r cyfleuster parcio a theithio’n cau am 7.30pm, felly nid ar gael i’w rhai sy’n mynychu’r cyngerdd ar dir Castell Caerdydd.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy'n mynd i’r digwyddiad yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Sylwch ar yr eitemau gwaharddedig wedi’u rhestru yn https://www.principalitystadium.wales/safety-and-security/, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas o 11:30am tan 7:30pm.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.

·       Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r cyngerdd orffen ac am hyd at awr wedi diwedd y cyngerdd er diogelwch i deithwyr sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.

·       Bydd Stryd y Castell yn parhau ar gau i draffig tan hanner nos.

Ychwanegiadau:  
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Trenau

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle bo modd i gyrraedd/gadael Caerdydd ar ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, ond disgwylir i’r trenau fod yn fwy prysur nag arfer felly neilltuwch ddigon o amser ar gyfer eich taith.

Bydd systemau ciwio ar waith yng Nghaerdydd Canolog ar gyfer gwirio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad.

Bydd maes parcio Fish Jetty ar gau rhwng 20:00 ar 5 Gorffennaf a 04:00 ar 7 Gorffennaf a bydd maes parcio Heol Penarth ar gau o 06:00 ar 4 Gorffennaf i 04:00 ar 7 Gorffennaf. 

Ewch i tfw.cymru neu’r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Mae Great Western Railwais yn rhoi gwybod i’w cwsmeriaid na fydd trenau uniongyrchol rhwng De Cymru a Bryste oherwydd gwaith peirianyddol yn Nhwnnel Hafren, ond bydd gwasanaethau trên eraill ar gael trwy Gaerloyw yn lle hynny.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith ar wasanaethau, ewch i www.GWR.com/SevernTunnel

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Nid yw’r cyfleuster parcio a theithio ond ar gael i’r sawl sy’n mynd i Monster Jam a bydd yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 7.30pm a bydd y safle yn cau’n fuan wedi hynny.

Y gost yw £15.  Arian parod yn unig.

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Bysus)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i fysus - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:   Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.   

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu'r cyngerdd, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a sylw dyladwy.

Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11.30am ac yn ailagor am 7.30pm.