28/6/24
Mae trigolion ar draws de Cymru yn cael eu hatgoffa o newidiadau diweddar yn yr etholaethau seneddol a allai effeithio ar yr ardal y maent yn bwrw eu pleidlais ynddi ar 4 Gorffennaf.
Mae nifer o newidiadau wedi digwydd i ffiniau etholaethau ar draws y DU cyn yr Etholiad Cyffredinol wythnos nesaf, gyda nifer yr etholaethau yng Nghymru yn gostwng o 40 i 32.
Daw'r newidiadau yn dilyn adolygiad y llynedd o ffiniau seneddol i sicrhau bod etholaethau i gyd tua'r un maint. Mae ardaloedd etholaethol wedi cael eu newid i adlewyrchu poblogaethau sy'n cynyddu a gostwng a newidiadau yn ffiniau'r wardiau etholiadol sy'n eu cynnwys.
Mae'r Swyddogion Canlyniadau yn ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn cynghori pleidleiswyr i ymgyfarwyddo â'r newidiadau a oedd yn cynnwys enwau newydd ar gyfer rhai etholaethau, ffiniau mwy ar gyfer rhai ardaloedd a llai ar gyfer ardaloedd eraill.
Nid yw'r newidiadau yn berthnasol i ffiniau seddi yn y Senedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddogion Canlyniadau: "Mae'n bwysig iawn bod trigolion mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan yr adolygiad ffiniau yn gwybod ym mha etholaeth neu 'sedd' y byddan nhw'n pleidleisio. Efallai y bydd pleidleiswyr sy'n byw mewn ardal sydd wedi symud i etholaeth wahanol yn sylwi bod eu cerdyn pleidleisio neu bleidlais bost yn edrych ychydig yn wahanol i'r rheini maen nhw wedi'u cael o'r blaen, oherwydd mae'r cerdyn wedi'i gyflwyno gan gyngor gwahanol sy'n cynnal yr etholiad yn yr etholaeth newydd hon.
"Nid ydym am i hyn achosi unrhyw ddryswch i'n trigolion. Bydd pobl sy'n byw yn yr ardaloedd lle mae'r newidiadau hyn wedi digwydd yn parhau i fod yn drigolion yn ardal eu hawdurdod lleol presennol a bydd eu cyngor lleol yn parhau i reoli'r broses o gofrestru eu pleidleisiau ar gyfer pob etholiad yn y dyfodol."
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr:
• Mae Melin Ifan Ddu, Blaengarw, Betws, Llangeinor, Nant-y-Moel, Cwm Ogwr a Phontycymer, gynt yn hen etholaeth Ogwr, bellach yn etholaeth newydd Ogwr, Rhondda ac Ogwr.
• Mae Caerau, Llangynwyd, Dwyrain Maesteg, Gorllewin Maesteg, gynt yn Ogwr, bellach yn Aberafan Maesteg.
• Mae Corneli a'r Pîl, gynt ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bellach yn Aberafan Maesteg.
• Mae hen ardaloedd Ogwr sef, Abercynffig, Bryncethin, Bryncoch, Cefn Cribwr, Hendre, Felindre, Penprysg, Sarn ac Ynysawdre bellach ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Gall trigolion wirio eu gorsaf bleidleisio leol trwy nodi eu cod post yma: https://www.bridgend.gov.uk/cy/fy-nghyngor/etholiad/
Yng Nghaerdydd:
• Mae etholaeth Canol Caerdydd bellach yn cael ei hadnabod fel Dwyrain Caerdydd. Mae wardiau Llanrhymni, Tredelerch a Trowbridge a fu gynt yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth bellach yn Nwyrain Caerdydd.
• Mae Ffynnon Taf, oedd gynt yn rhan o Bontypridd, bellach yn rhan o etholaeth Gogledd Caerdydd.
• Mae Cathays, oedd gynt yn rhan o Ganol Caerdydd, bellach yn rhan o Dde Caerdydd a Phenarth tra bod Dinas Powys hefyd yn ymuno â'r etholaeth seneddol hon.
• Mae Pont-y-clun, oedd gynt yn rhan o Bontypridd, bellach yn dod dan etholaeth Gorllewin Caerdydd.
Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Pleidleisio-ac-etholiadau/Dod-o-hyd-ich-gorsaf-bleidleisio-agosaf/Pages/default.aspx
Ym Merthyr Tudful:
- Mae wardiau Merthyr Tudful, Bedlinog a Threlewis, Cyfarthfa, Dowlais a Phant, Gurnos, Cwm Merthyr, Parc, Penydarren, Plymouth, Tref, Treharris a'r Faenor yn cyfuno â hen wardiau Rhondda sef, Gogledd Aberaman, De Aberaman, Dwyrain Aberdâr, Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed, Cwmbach, Hirwaun, Rhigos, Pen-y-waun yn etholaeth newydd Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf: https://wheredoivote.co.uk/
Yn Rhondda Cynon Taf:
• Mae Ffynnon Taf, a oedd gynt yn etholaeth Pontypridd, bellach yng Ngogledd Caerdydd.
• Mae Canol Pont-y-clun a Dwyrain Pont-y-clun, oedd hefyd gynt ym Mhontypridd, bellach yng Ngorllewin Caerdydd
• Mae Gorllewin Pont-y-clun (ac eithrio Tylegarw), a oedd gynt yn rhannol yn Ogwr ac yn rhannol ym Mhontypridd, bellach hefyd yng Ngorllewin Caerdydd
• Mae Aberaman, Dwyrain Aberdâr, Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed, Cwmbach, Hirwaun, Penderyn a Rhigos a Phen-y-Waun, pob un o hen ardaloedd etholaeth Cwm Cynon, bellach yn rhan o etholaeth newydd Merthyr Tudful ac Aberdâr
• Mae Abercynon, Cilfynydd, Glyn-Coch, Aberpennar, Penrhiwceibr ac Ynys-y-bwl, oedd gynt yn rhan o Gwm Cynon, bellach ym Mhontypridd
• Mae ardaloedd Brynna a Llanharan a Gorllewin Pont-y-clun (Tylegarw) yn symud i Bontypridd o Ogwr.
• Mae Llanhari a Llantristant a Talbot Green, oedd gynt o fewn Ogwr a Phontypridd, bellach ym Mhontypridd
• Mae Betws, Melin Ifan Ddu, Blaengarw, Gilfach-Goch, Llangeinor, Nant-y-Moel, Cwm Ogwr a Phontycymer - pob un yn flaenorol yn Ogwr, yn rhan o etholaeth newydd Rhondda ac Ogwr.
• Mae hen ardaloedd y Rhondda - Cwm Clydach, Cymer (ac eithrio Trehafod), Glynrhedynog a Maerdy, Llwynypia, Pentre, Pen-y-graig, Porth, Tonypandy, Trealaw, Treherbert, Treorci, Tylorstown ac Ynys-hir, Ystrad - bellach yn rhan o Rhondda ac Ogwr.
•Mae Dwyrain Tonyrefail a Gorllewin Tonyrefail, oedd gynt ym Mhontypridd, yn Rhondda ac Ogwr.
Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Council/Votingandelections/Noticeofelections/PollingStationInformation.aspx
Ym Mro Morgannwg:
•Mae Dinas Powys yn symud o Fro Morgannwg i Dde Caerdydd a Phenarth
Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/Electoral-Services/Polling-Stations.aspx
Nid yw'r newidiadau yn effeithio ar wardiau awdurdodau lleol na sonnir amdanynt yn y dadansoddiad uchod. I weld mapiau o'r hen ardaloedd etholaethol blaenorol a newydd, ewch i: https://commonslibrary.parliament.uk/boundary-review-2023-which-seats-will-change/