The essential journalist news source
Back
28.
June
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 28 Mehefin 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cau ffyrdd ym Mae Caerdydd o 1 Gorffennaf
  • Digwyddiad Dathlu Gwobrau profiad gwaith, ‘Beth Nesaf?'
  • Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu agor meithrinfa newydd ac ehangiad yr ysgol
  • Ysgol Gynradd Lakeside: "Amgylchedd hapus a meithringar" meddai Estyn

 

Cau ffyrdd ym Mae Caerdydd o 1 Gorffennaf

Ar ddydd Llun 1 Gorffennaf, mae gwaith helaeth yn digwydd ym Mae Caerdydd ar gyfer sawl prosiect gwahanol.

O 9am ar 1 Gorffennaf, Bydd Heol Hemingway yn cau at draffig i'r ddau gyfeiriad - o'r gyffordd â chylchfan Neuadd y Sir i Rodfa Lloyd George, gan gynnwys Ffordd y Sgwner hyd at Ffordd Garthone.

O 9.30am ddydd Mawrth 2 Gorffennaf, bydd Ffordd y Sgwner o Ffordd Garthone hyd at fynedfa gefn Neuadd y Sir yn cau i bob traffig, ond bydd mynediad i gefn Neuadd y Sir yn cael ei gynnal.

O 9.30am ddydd Gwener 5 Gorffennaf, bydd mynediad i gefn Neuadd y Sir yn cau i bob traffig.

Llwybr y gwyriad

Os ydych chi'n byw ar Ffordd y Sgwner ac eisiau mynediad i Fae Caerdydd, ewch ar hyd Stryd Tyndall a'r Ffordd Gyswllt Ganolog, gan adael trwy gylchfan Queens Gate i Stryd Pen y Lanfa.

Darllenwch fwy yma

 

Digwyddiad Dathlu Gwobrau profiad gwaith, ‘Beth Nesaf?'

Cynhaliwyd digwyddiad gwobrwyo a dathlu i gydnabod y cyflawniadau a wnaed drwy raglen profiad gwaith ‘Gwobr Beth Nesaf?', sy'n ceisio ailgyflwyno profiad gwaith i ddisgyblion mewn chweched dosbarth ledled Caerdydd.

Daeth myfyrwyr a chyflogwyr a oedd yn cynnal y digwyddiad ynghyd i ddathlu llwyddiannau disgyblion o Ysgol Uwchradd Cantonian ac i fyfyrio ar y profiadau amhrisiadwy a'r gwersi a ddysgwyd trwy gydol eu taith profiad gwaith.

Yn ystod y digwyddiad, rhannodd myfyrwyr fyfyrdodau ysbrydoledig trwy areithiau a thystebau fideo, a meddyliau ysgrifenedig, gan arddangos twf personol a phroffesiynol rhyfeddol.  Rhannodd y cyflogwyr a oedd yn cynnal y digwyddiad eu profiadau cadarnhaol eu hunain, gan dynnu sylw at yr effaith eu mentoriaeth ar ddatblygiad y myfyrwyr. Dyfarnwyd tystysgrifau i'r myfyrwyr, gan ddathlu eu cyflawniadau rhagorol.

Mae ‘Gwobr Beth Nesaf? yn rhan o flaenoriaeth 'Llwybrau Dysgu' Addewid Caerdydd sy'n ceisio grymuso pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol a chefnogi adferiad economaidd y rhanbarth trwy godi ymwybyddiaeth o fylchau sgiliau a sectorau twf yn y ddinas.

Diolch i'r holl bartneriaid a'r noddwyr am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol.

Bydd carfan newydd o ddisgyblion blwyddyn 12 o Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn mynd ar brofiad gwaith drwy gydol mis Gorffennaf fel rhan o gyflwyniad fesul cam o'r 'Wobr Beth Nesaf?'. Mae cyfanswm o 460 o leoliadau profiad gwaith wedi'u sicrhau gan 60 o gyflogwyr.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu agor meithrinfa newydd ac ehangiad yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pentyrch wedi dathlu cwblhau gwaith adeiladu a oedd yn cynnwys ehangu adeilad presennol yr ysgol ac agor ei darpariaeth feithrin gyntaf erioed.

Mae'r datblygiad newydd, a gwblhawyd gan y contractwr Knox a Wells, wedi cynnwys ystod eang o waith, gan gynnwys estyniad unllawr newydd i ddarparu dwy ystafell ddosbarth gyda'u hardal chwarae/addysgu allanol eu hunain gan gynnwys canopïau, meithrinfa newydd gyda thoiledau ac ystafell newid, cegin addysgu, ystafell dawel a gofod addysgu allanol gyda chanopïau.

Mae adeilad toiledau newydd, swyddfa staff a swyddfa i'r Pennaeth wedi cael eu hadeiladu, yn ogystal â gwaith tirlunio caled a meddal, basn ymdreiddio a gardd law. Roedd y cynllun newydd yn cynnwys dymchwel yr adeilad toiledau unllawr a'r ystafelloedd dosbarth dwbl dros dro.

Yn ystod digwyddiad arbennig ar ddydd Gwener 14 Mehefin, gwahoddwyd disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr ac aelodau o'r gymuned i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, o grefftau naturiol i gemau tân gwersyll, traddodiadol a pharti, yn ogystal â phob plentyn yn gwneud crogdlws gyda logo'r ysgol newydd fel cofrodd a dylunio a phaentio cerrig coffa i'w gosod yn ardal cwrt newydd yr ysgol. Cafodd y gwesteion gyfle i fynd ar daith o amgylch adeilad newydd yr ysgol a gweld arddangosfa o luniau o Ysgol Gynradd Pentyrch dros amser.

Gwahoddwyd cyn-ddisgyblion a adawodd yr ysgol y llynedd i ymuno yn y dathliadau yn ogystal â phlant Blwyddyn 10 presennol a gollodd eu dathliadau blwyddyn 6 oherwydd Covid.

Daeth y dathliadau i ben gyda chinio picnic ysgol gyfan gyda theisennau dathlu a wnaed gan gogydd yr ysgol yn ogystal â cherddoriaeth o bumawd pres, Côr Meibion Pendyrus, côr yr ysgol gyfan a pherfformiad dawns gan ddisgyblion.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Lakeside: "Amgylchedd hapus a meithringar" meddai Estyn

Yn ystod ymweliad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, mae Ysgol Gynradd Lakeside wedi cael ei chanmol am greu amgylchedd dysgu diogel, hapus a meithringar.

Canfu arolygwyr fod disgyblion yn gwneud cynnydd da o'u mannau cychwyn, gan dyfu'n unigolion sy'n rhugl ac sy'n cwestiynu gydag ymdeimlad cryf o ymwybyddiaeth gymunedol a byd-eang. Mae pwyslais yr ysgol ar grwpiau llais y disgybl wedi bod yn arbennig o effeithiol, gan alluogi myfyrwyr i gymryd rhan weithredol mewn trafodaethau a phrosesau penderfynu.

Mae'r cwricwlwm yn yr ysgol wedi cael ei ganmol am ei ystod a'i ansawdd, yn enwedig mewn llythrennedd, rhifedd, lles a sgiliau creadigol. Mae'r cwricwlwm amrywiol hwn yn rhoi'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddisgyblion i gymhwyso eu dysgu'n greadigol ar draws amrywiol bynciau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn dosbarthiadau prif ffrwd a'r Dosbarth Lles, hefyd yn cael ei nodi fel cryfder sylweddol.

Darllenwch fwy yma