The essential journalist news source
Back
28.
June
2024.
Cau ffyrdd ym Mae Caerdydd o 1 Gorffennaf
 28/06/24

 Ar ddydd Llun 1 Gorffennaf, mae gwaith helaeth yn digwydd ym Mae Caerdydd ar gyfer sawl prosiect gwahanol.

·       O 9am ar 1 Gorffennaf, Bydd Heol Hemingway yn cau at draffig i'r ddau gyfeiriad - o'r gyffordd â chylchfan Neuadd y Sir i Rodfa Lloyd George, gan gynnwys Ffordd y Sgwner hyd at Ffordd Garthone.

·       O 9.30am ddydd Mawrth 2 Gorffennaf, bydd Ffordd y Sgwner o Ffordd Garthone hyd at fynedfa gefn Neuadd y Sir yn cau i bob traffig, ond bydd mynediad i gefn Neuadd y Sir yn cael ei gynnal.

·       O 9.30am ddydd Gwener 5 Gorffennaf, bydd mynediad i gefn Neuadd y Sir yn cau i bob traffig.

Llwybr y gwyriad:

·       Os ydych chi'n byw ar Ffordd y Sgwner ac eisiau mynediad i Fae Caerdydd, ewch ar hyd Stryd Tyndall a’r Ffordd Gyswllt Ganolog, gan adael trwy gylchfan Queens Gate i Stryd Pen y Lanfa.