The essential journalist news source
Back
26.
June
2024.
‘Crefftwyr Campus’, Sialens Ddarllen yr Haf, yn dechrau yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf


26/6/24 

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn paratoi i lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni a'r nod yw tanio creadigrwydd a galluoedd adrodd straeon plant drwy swyn darllen drwy gydol gwyliau'r haf.

 

Mae ‘Sialens Ddarllen yr Haf 2024: Crefftwyr Campus', a gyflwynir gan yr Asiantaeth Ddarllen, yn dechrau ar 6 Gorffennaf ac mae'n rhan o haf llawn hwyl gyda gweithgareddau a digwyddiadau yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd. Bydd darllenwyr ifanc yn cael eu hannog i ddarganfod llyfrau a straeon newydd wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol am ddim. Gall plant sy'n cofrestru ar gyfer y sialens gofnodi'r hyn y maent yn ei ddarllen a chael eu gwobrwyo gan gymhellion am ddim gan gynnwys sticeri ar hyd y ffordd.

 

Mae plant rhwng pedair ac 11 oed yn cael eu hannog i ymuno â'r 'Crefftwyr Campus' a chychwyn ar daith greadigol drwy lyfrau a gweithgareddau rhyngweithiol. Yn digwydd mewn llyfrgelloedd ac ar-lein, mae'r Sialens yn darparu amgylchedd cefnogol lle gall darllenwyr ifanc archwilio eu dychymyg. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys modelu sothach, celf a chrefft, cerddoriaeth, dawns, a llawer mwy. Ewch i www.hybiaucaerdydd.co.uk i ddarganfod mwy am y sialens a be sy' mlaen mewn hybiau ar draws y ddinas. 

 

Mewn partneriaeth â Create, elusen gelfyddydol flaenllaw, a llyfrgelloedd cyhoeddus, mae Sialens eleni yn dathlu doniau artistig plant. Mae'r gwaith celf pwrpasol ar gyfer y Sialens, a ddarlunnir gan yr artist enwog Natelle Quek, yn dod â'r thema "Crefftwyr Campus" yn fyw.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: " Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i blant barhau i ddysgu a thyfu dros fisoedd yr haf a bydd yn helpu i atal "dirywiad yr haf" wrth golli dysgu y mae llawer o blant yn ei brofi pan nad ydyn nhw yn yr ysgol.

 

"Trwy ddarllen llyfrau a chasglu cymhellion mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd, gall darllenwyr ifanc feithrin eu sgiliau meddwl yn greadigol dros wyliau'r haf mewn ffordd rhad ac am ddim, yn llawn hwyl i gadw eu meddyliau ifanc yn weithredol."

 

Ar ôl cofrestru, bydd plant yn casglu eu pecyn craidd.  Gyda phob llyfr maen nhw'n ei ddarllen, byddan nhw'n derbyn gwobr newydd.  Eleni byddan nhw'n cael sticeri Sialens Ddarllen yr Haf, cylch allweddi tortsh yr Hyb a phinnau ffelt cyfnewidiol. Bydd pawb sy'n cwblhau'r Sialens hefyd yn cael tystysgrif a medal.

 

Mae'n hawdd cofrestru, galwch i mewn i'ch llyfrgell neu hyb lleol neu cofrestrwch ar-lein yma: https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/