The essential journalist news source
Back
24.
June
2024.
Y newyddion gennym ni - 24/06/24

Image

20/06/24 - Ysgol Gynradd Lakeside: "Amgylchedd hapus a meithringar" meddai Estyn

Yn ystod ymweliad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, mae Ysgol Gynradd Lakeside wedi cael ei chanmol am greu amgylchedd dysgu diogel, hapus a meithringar.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/06/24 - Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu agor meithrinfa newydd ac ehangiad yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pentyrch wedi dathlu cwblhau gwaith adeiladu a oedd yn cynnwys ehangu adeilad presennol yr ysgol ac agor ei darpariaeth feithrin gyntaf erioed.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/06/24 - Digwyddiad Dathlu Gwobrau profiad gwaith, ‘Beth Nesaf?'

Cynhaliwyd digwyddiad gwobrwyo a dathlu i gydnabod y cyflawniadau a wnaed drwy raglen profiad gwaith ‘Gwobr Beth Nesaf?', sy'n ceisio ailgyflwyno profiad gwaith i ddisgyblion mewn chweched dosbarth ledled Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/06/24 - Cyngor teithio ar gyfer y Foo Fighters ar 25 Mehefin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

Bydd y Foo Fighters yn perfformio yn Stadiwm Principality ar 25 Mehefin. Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau'n llawn o gwmpas y stadiwm o 3pm tan hanner nos.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/06/24 - Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Llys-faen am safonau ac arweinyddiaeth eithriadol

Yn ystod ymweliad diweddar ag Ysgol Gynradd Llys-faen, mae Estyn wedi canmol yr ysgol am ei safonau eithriadol, ei harweinyddiaeth ragorol a'i hamgylchedd meithringar sy'n cefnogi pob disgybl i gyflawni lefelau uchel o lwyddiant.

Darllenwch fwy yma

 

Image

14/06/24 - Dedfrydwyd aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfr

Dedfrydwyd aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfreithlon tra'n gwyngalchu arian gwerth dros £1.5m heddiw i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar ar unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig, yn Llys y Goron Abertawe.

Darllenwch fwy yma

 

Image

14/06/24 - Adroddiad Blynyddol yn Tynnu Sylw at Addewid Caerdydd i Blant sy'n Derbyn Gofal

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol y Cyngor yn tynnu sylw at ymroddiad Caerdydd i gynnig y gofal a'r gefnogaeth orau i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/06/24 - Ehangu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled y ddinas

Bydd cynlluniau cynhwysfawr i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol o fwy na 100 o leoedd swyddogol newydd ledled y ddinas yn dod i rym o fis Medi 2024.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/06/24 - Cyhoeddi masnachwyr gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru

Gan weini rhai o'r danteithion mwyaf blasus sydd i'w cael a rhestr amrywiol o gerddorion lleol, mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn ôl ym Mae Caerdydd ar gyfer haf 2024 - ac mae'n argoeli i fod yn wledd go iawn i'r synhwyrau!

Darllenwch fwy yma

 

Image

10/06/24 - Gwaith i ddechrau ar ardal chwarae Parc y Sanatoriwm

Mae disgwyl i'r gwaith o ailddatblygu'r ardal chwarae i blant iau ym Mharc y Sanatoriwm ddechrau ddiwedd mis Mehefin.

Darllenwch fwy yma

 

Image

10/06/24 - Menyw Lolipop yn dathlu 50 mlynedd anhygoel o wasanaeth ymroddedig

Bydd Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu carreg filltir ryfeddol yr wythnos hon, wrth i Hazel Davies ddathlu 50 mlynedd o wasanaeth fel menyw lolipop.

Darllenwch fwy yma

 

Image

06/06/24 - Estyn yn cyhoeddi adroddiad arolygu ar Ysgol Gynradd Tredelerch

Yn ystod ymweliad diweddar ag Ysgol Gynradd Tredelerch, mae Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, wedi canmol ymrwymiad yr ysgol i greu awyrgylch diogel a gofalgar i'w disgyblion, gyda meysydd y mae angen eu gwella yn cael eu nodi i sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial llawn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

05/06/24 - Ysgol Feithrin Grangetown yn Derbyn Gwerthusiad Cadarnhaol gan Estyn

Mae Ysgol Feithrin Grangetown wedi derbyn adroddiad disglair gan Estyn, gan dynnu sylw at yr ymrwymiad i gynwysoldeb, addysg o safon, ac ymgysylltu â'r gymuned sy'n digwydd yn narpariaeth y blynyddoedd cynnar.

Darllenwch fwy yma

 

Image

04/06/24 - Cyngor Caerdydd i fynd i'r afael â niferoedd isel o blant yn nofio.

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau i fynd i'r afael â'r nifer isel o blant sy'n cymryd rhan mewn gwersi nofio mewn ysgolion.

Darllenwch fwy yma