Mae Pride Cymru yn ôl gyda gŵyl ddeuddydd wedi'i threfnu yng nghanol dinas Caerdydd ar 22 a 23 Mehefin.
Bydd
yr orymdaith ar 22 Mehefin a bydd ffyrdd ar gau i sicrhau y gellir cynnal y
digwyddiad yn ddiogel.
Bydd pawb yn ymgynnull ar Heol y Porth cyn dechrau’r orymdaith am 11am a cherdded i fyny Stryd y Castell i'r Stryd Fawr, ac yna Heol Eglwys Fair, yn ôl i'r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin a gorffen ar Stryd y Castell.
I
hwyluso’r digwyddiadau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn ystod yr amseroedd
canlynol ar 22 Mehefin.
o 6am
tan hanner nos, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
· Stryd y
Castell o’r gyffordd â Heol y Porth
· Heol y Dug
o 8am
tan 2.30pm, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas
y Neuadd, Y Gwter, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol y
Gadeirlan, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Stryd y
Parc, Stryd Havelock a Heol Scott, Heol Eglwys Fair Isaf, Lôn y Felin, Yr Ais,
Heol Eglwys Ioan, Heol y Frenhines, Plas y Parc, Heol y Brodyr Llwydion - o’r
gyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin a chyffordd gwesty’r
Hilton.
Cyfyngiadau pellach a mynediad:
·
Bydd mynediad o amgylch
Heol Scott / Heol y Porth Isaf / Stryd Wood yna ros ar agor pan a chyhyd ag y
bo modd.
·
Byddwn yn anelu at agor
Heol y Porth a'r ffyrdd ochr rhwng hanner dydd a 12.30pm, neu nes bod y
torfeydd yn gwasgaru.
·
Bydd gan Arglawdd
Fitzhammon gyfyngiadau ar waith i hwyluso'r bysiau, felly bydd llai o leoedd
parcio.
·
Bydd Heol y Brodyr Llwydion o Boulevard tuag at Blas y
Parc yn aros ar agor un ffordd.