The essential journalist news source
Back
20.
June
2024.
Ysgol Gynradd Lakeside: "Amgylchedd hapus a meithringar" meddai Estyn

20/6/2024


Yn ystod ymweliad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, mae Ysgol Gynradd Lakeside wedi cael ei chanmol am greu amgylchedd dysgu diogel, hapus a meithringar.  

Canfu arolygwyr fod disgyblion yn gwneud cynnydd da o'u mannau cychwyn, gan dyfu'n unigolion sy'n rhugl ac sy'n cwestiynu gydag ymdeimlad cryf o ymwybyddiaeth gymunedol a byd-eang. Mae pwyslais yr ysgol ar grwpiau llais y disgybl wedi bod yn arbennig o effeithiol, gan alluogi myfyrwyr i gymryd rhan weithredol mewn trafodaethau a phrosesau penderfynu. 

Mae'r cwricwlwm yn yr ysgol wedi cael ei ganmol am ei ystod a'i ansawdd, yn enwedig mewn llythrennedd, rhifedd, lles a sgiliau creadigol. Mae'r cwricwlwm amrywiol hwn yn rhoi'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddisgyblion i gymhwyso eu dysgu'n greadigol ar draws amrywiol bynciau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn dosbarthiadau prif ffrwd a'r Dosbarth Lles, hefyd yn cael ei nodi fel cryfder sylweddol.

Dywedodd y Pennaeth, Rachel Mitchell: "Rydym yn hynod falch o'n hysgol hapus, gynhwysol a ffyniannus ac wrth ein bodd bod Estyn yn cydnabod ein hymdeimlad cryf o ddinasyddiaeth gymunedol a byd-eang. "Mae ein tîm ymroddedig a thalentog o staffwedi gweithio'n galed i greu cwricwlwm cyffrous sy'n ennyn chwilfrydedd disgyblion ac yn eu galluogi i gyflawni a ffynnu.  

"Rydym yn ffodus o gaelrhieni, gofalwyr a llywodraethwyr sydd mor barod i gefnogi'r ysgol, ac mae'n destun llawenydd i ni fod ein disgyblion yn falch o'u hysgol ac yn ymgysylltu mor frwd â'u dysgu."

Ychwanegodd Nick Alexander, Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Mae'r llywodraethwyr wrth eu bodd bod Estyn wedi cydnabod yr amgylchedd diogel, hapus a meithringar sy'n cael ei ddarparu yn Ysgol Gynradd Lakeside, yn ogystal ag ystod ac ansawdd cwricwlwm yr ysgol, effeithiolrwydd grwpiau llais y disgybl, a'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol." 

Ar y cyfan, dyma adroddiad cadarnhaol, ac mae Estyn wedi nodi dau faes i'w gwella; defnyddio'r arbenigedd presennol yn yr ysgol i wella addysgu'r Gymraeg, a thrwy hynny'n galluogi'r disgyblion i wneud mwy o gynnydd. Cynnwys yr holl staff yn bwrpasol wrth nodi, monitro, gwerthuso ac adolygu blaenoriaethau ysgol gyfan i sicrhau eu bod yn deall eu rôl o ran gwella'r ddarpariaeth a deilliannau disgyblion yn fwy effeithiol. 

Mewn ymateb i'r arolygiad, bydd Ysgol Gynradd Lakeside yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:"Mae Estyn wedi cydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n digwydd yn Ysgol Gynradd Lakeside ac roedd yn braf clywed yn arbennig, sut mae'r disgyblion yn elwa o ddosbarth lles yr ysgol. Mae'r amgylchedd diogel a thawel hwn a grëwyd gan staff yn galluogi disgyblion i adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaolfel y gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ystyrlon yn llwyddiannus gan ddefnyddio ystod o strategaethau priodol, sy'n aml yn greadigol.  

 

"Llongyfarchiadau i'r staff a'r disgyblion. Bydd yr ysgol yn cael ei chefnogi gan yr awdurdod lleol i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn, er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ddarparu addysg a chymorth o safon uchel i'w holl ddisgyblion."

 

Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Lakeside 477 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 8.3% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 4.2% o ddisgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae 41% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Ni fydddull Estyn o arolygu ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru yn cynnwys sgoriau crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') mwyach a bydd bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fyddyn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.

Mae adroddiad llawn Estyn ar gael ymaYsgol Gynradd Lakeside | Estyn (llyw.cymru)