The essential journalist news source
Back
20.
June
2024.
Digwyddiad Dathlu Gwobrau profiad gwaith, ‘Beth Nesaf?'


 20/6/
2024

Cynhaliwyd digwyddiad gwobrwyo a dathlu i gydnabod y cyflawniadau a wnaed drwy raglen profiad gwaith ‘Gwobr Beth Nesaf?', sy'n ceisio ailgyflwyno profiad gwaith i ddisgyblion mewn chweched dosbarth ledled Caerdydd.

Daeth myfyrwyr a chyflogwyr a oedd yn cynnal y digwyddiad ynghyd i ddathlu llwyddiannau disgyblion o Ysgol Uwchradd Cantonian ac i fyfyrio ar y profiadau amhrisiadwy a'r gwersi a ddysgwyd trwy gydol eu taith profiad gwaith.

Yn ystod y digwyddiad, rhannodd myfyrwyr fyfyrdodau ysbrydoledig trwy areithiau a thystebau fideo, a meddyliau ysgrifenedig, gan arddangos twf personol a phroffesiynol rhyfeddol.  Rhannodd y cyflogwyr a oedd yn cynnal y digwyddiad eu profiadau cadarnhaol eu hunain, gan dynnu sylw at yr effaith eu mentoriaeth ar ddatblygiad y myfyrwyr. Dyfarnwyd tystysgrifau i'r myfyrwyr, gan ddathlu eu cyflawniadau rhagorol. 

Mae ‘Gwobr Beth Nesaf? yn rhan o flaenoriaeth 'Llwybrau Dysgu' Addewid Caerdydd sy'n ceisio grymuso pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol a chefnogi adferiad economaidd y rhanbarth trwy godi ymwybyddiaeth o fylchau sgiliau a sectorau twf yn y ddinas.

Diolch i'r holl bartneriaid a'r noddwyr am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol. 

Bydd carfan newydd o ddisgyblion blwyddyn 12 o Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn mynd ar brofiad gwaith drwy gydol mis Gorffennaf fel rhan o gyflwyniad fesul cam o'r 'Wobr Beth Nesaf?'. Mae cyfanswm o 460 o leoliadau profiad gwaith wedi'u sicrhau gan 60 o gyflogwyr.

Dywedodd Dianne Gill, Pennaeth Ysgol Uwchradd Cantonian, "Mae'r digwyddiad profiad gwaith 'Beth Nesaf' wedi darparu agoriad amhrisiadwy i'n myfyrwyr Blwyddyn 12 i gael profiad uniongyrchol o gyfleoedd cyflogaeth yn eu meysydd astudio. Yn ystod eu hwythnos profiad gwaith, llwyddodd ein myfyrwyr i weithio gyda rhai o'r busnesau a'r sefydliadau blaenllaw yng Nghaerdydd.  

"Roedd hyn yn caniatáu iddynt nodi rhagolygon cyflogaeth posib ar gyfer y dyfodol a gwneud cysylltiadau cyflogaeth ystyrlon ledled y ddinas. Mae wedi gwella profiad ein myfyrwyr yn eu hastudiaethau Chweched Dosbarth a'u helpu i baratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i addysg."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Mae hon yn ffordd wych o dynnu sylw at yr angen i ragor o gyflogwyr lleol ddod ymlaen a helpu Addewid Caerdydd i gefnogi pobl ifanc.

"Mae'n gyfle i gyflogwyr baratoi pobl ifanc Caerdydd ar gyfer byd gwaith drwy roi cyfleoedd uniongyrchol iddynt a darparu arweiniad ac ysbrydoliaeth amhrisiadwy i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr."

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gynnig lleoliad profiad gwaith ar gyfer carfan y flwyddyn nesaf o fyfyrwyr chweched dosbarth yng Nghaerdydd, e-bostiwchDarren.Phillips@caerdydd.gov.uk; Cynghorydd Ymgysylltu â Busnesau Addewid Caerdydd neu ewch ihttps://www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/