The essential journalist news source
Back
14.
June
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Mehefin 2024
 14/06/24


 Diweddariad Dydd Mawrth, sy’n cynnwys:

·       Cyngor teithio ar gyfer cyngerdd Taylor Swift | The Eras Tour ar 18 Mehefin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

·       Grŵp Troseddau Cyfundrefnol wedi'i ddedfrydu i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar ar unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig

·       Cyhoeddi masnachwyr gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru

·       Menyw Lolipop yn dathlu 50 mlynedd anhygoel o wasanaeth ymroddedig.

Cyngor teithio ar gyfer cyngerdd Taylor Swift | The Eras Tour ar 18 Mehefin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

Bydd cyngerdd Taylor Swift | The Eras Tour yn dod i Stadiwm Principality ar 18 Mehefin. Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau o gwmpas y stadiwm o 12 canol dydd tan hanner nos – ond bydd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Stryd y Castell a Heol y Dug ar agor tan 3pm.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleuster parcio a theithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Lecwydd – CF11 8AZ.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy'n mynd i’r cyngerdd yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma   

Grŵp Troseddau Cyfundrefnol wedi'i ddedfrydu i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar ar unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig

Dedfrydwyd aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfreithlon tra’n gwyngalchu arian gwerth dros £1.5m heddiw i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar ar unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig, yn Llys y Goron Abertawe.

Plediodd pob un o'r 11 aelod o'r GTC yn ddieuog i dwyll o dros £1.8 miliwn a gyflawnwyd rhwng 6 Medi 2013 a 5 Chwefror 2022. 

Ond yn ystod yr achos cychwynnol newidiodd tri diffynnydd eu ple i euog ran o'r ffordd drwodd, a phlediodd dau ddiffynnydd arall yn euog yn ystod ail achos lle cafwyd y chwe diffynnydd arall yn euog o dwyll trwy ddyfarniad unfrydol.

Cafwyd pedwar aelod o'r sefydliad troseddol hefyd yn euog o droseddau gwyngalchu arian gwerth ychydig dros £1.5 miliwn.

Yn ystod yr ymchwiliad, atafaelodd swyddogion o Wasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) Cynghorau Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro werth £600,000 o dybaco anghyfreithlon, yn seiliedig ar gost y farchnad, ynghyd â gwerth £12,500 o gynwysyddion Ocsid Nitraidd.

Darllenwch fwy yma    

Cyhoeddi masnachwyr gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru

Gan weini rhai o'r danteithion mwyaf blasus sydd i'w cael a rhestr amrywiol o gerddorion lleol, mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn ôl ym Mae Caerdydd ar gyfer haf 2024 - ac mae'n argoeli i fod yn wledd go iawn i'r synhwyrau!

Yn digwydd yn y Basn Hirgrwn o ddydd Gwener 5 Gorffennaf i ddydd Sul 7 Gorffennaf, mae gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru yn cefnogi mwy na 100 o fusnesau bach gan gynnwys ffefrynnau'r ŵyl fel The Mighty Softshell Crab, Café Cannoli, ac yr holl ffordd o Ynys Wyth, The Garlic Farm.

Mae digon o arwyr lleol i'w dathlu hefyd, boed yn fwyty enwog Caerdydd, bwyd stryd indiaidd y Purple Poppadom, byrbrydau llysieuol a fegan Samosaco - gan gynnwys eu Hwyau Bhaji winwns enwog - neu'r cwcis a'r toesenni brioche peryglus o flasus wedi'u pobi gan Cardiff Dough & Co llai na 5 milltir o safle'r Ŵyl.

Ymhlith wynebau newydd yr ŵyl eleni mae Antur Brew & Co, microfragdy annibynnol newydd sydd wedi bod yn gwerthu cwrw crefft o ansawdd uchel o'u canolfan yng Nghrucywel ers mis Ebrill eleni. Os ydych yn hoff o fedd, ewch yn syth am Hive Mind Mead, sydd hefyd yma am y tro cyntaf, ac yn gwneud eu diodydd o fêl wedi ei gasglu ar draws Dyffryn Gwy.

Darllenwch fwy yma   

Menyw Lolipop yn dathlu 50 mlynedd anhygoel o wasanaeth ymroddedig

Bydd Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu carreg filltir ryfeddol yr wythnos hon, wrth i Hazel Davies ddathlu 50 mlynedd o basanite fel menyw lolipop. 

Yn adnabyddus am ddweud "Safe Journey Home" mae Hazel wedi rhoi ei bywyd i sicrhau diogelwch plant a'u teuluoedd ar y ffyrdd, a beth bynnag fo'r tywydd, mae wedi bod yn bresenoldeb cadarn a pharhaus yn yr ysgol.

Yn ystod ei chyfnod fel Swyddog Croesi Ysgol i Gyngor Caerdydd, dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Hazel am ei gwasanaethau ac mae ei hymrwymiad a'i hysbryd ysbrydoledig wedi ei gwneud yn ffigwr annwyl yn y gymuned. Mae hi wedi addysgu cenedlaethau ar ddiogelwch ar y ffyrdd ac mae hi hyd yn oed wedi ysbrydoli ei merch a'i gŵr, John, i ymgymryd â'r rôl.

Canmolodd Sarah Coombes, Pennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Pentyrch, ymroddiad Hazel, gan ddweud, "Mae Hazel yn rhan annatod o Gymuned Ysgol Pentyrch a hoffem i gyd ei llongyfarch ar y cyflawniad rhyfeddol hwn wrth iddi ddathlu 50 mlynedd fel Menyw Lolipop.

"Mae Hazel wedi rhoi ei bywyd mewn gwasanaeth i deuluoedd ysgolion Caerdydd, gan dreulio'r 27 mlynedd diwethaf yn Ysgol Gynradd Pentyrch. Mae hi'n gwneud pwynt o ddod i adnabod ein teuluoedd i gyd ac yn mynd allan o'i ffordd i sgwrsio â phawb. Nid yw ei hysbryd byth yn pallu ac mae hi allan, glaw neu hindda, ar y groesfan o un diwrnod i'r llall yn cadw'r plant yn ddiogel. Mae cymuned yr ysgol yn hynod ddiolchgar iddi am ei hymroddiad a'i hymrwymiad wrth iddi ddathlu ei diwrnod arbennig."

Darllenwch fwy yma