The essential journalist news source
Back
14.
June
2024.
Dedfrydwyd aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfr
 

 Dedfrydwyd aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfreithlon tra’n gwyngalchu arian gwerth dros £1.5m heddiw i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar ar unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig, yn Llys y Goron Abertawe.

Plediodd pob un o'r 11 aelod o'r GTC yn ddieuog i dwyll o dros £1.8 miliwn a gyflawnwyd rhwng 6 Medi 2013 a 5 Chwefror 2022. 

Ond yn ystod yr achos cychwynnol newidiodd tri diffynnydd eu ple i euog ran o'r ffordd drwodd, a phlediodd dau ddiffynnydd arall yn euog yn ystod ail achos lle cafwyd y chwe diffynnydd arall yn euog o dwyll trwy ddyfarniad unfrydol.

Cafwyd pedwar aelod o'r sefydliad troseddol hefyd yn euog o droseddau gwyngalchu arian gwerth ychydig dros £1.5 miliwn.

Yn ystod yr ymchwiliad, atafaelodd swyddogion o Wasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) Cynghorau Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro werth £600,000 o dybaco anghyfreithlon, yn seiliedig ar gost y farchnad, ynghyd â gwerth £12,500 o gynwysyddion Ocsid Nitraidd.

Dechreuodd y gwaith yn erbyn y gang ym mis Chwefror 2020, yn dilyn gwybodaeth bod nifer o siopau yn ardal De Cymru yn gwerthu tybaco anghyfreithlon ac ocsid nitraidd. Cafodd symiau sylweddol o sigaréts a thybaco eu hatafaelu i ddechrau, ond roedd yn ymddangos bod y siopau yn ailstocio ar unwaith, ac yn parhau i werthu'r nwyddau anghyfreithlon i'r gymuned leol, gan gynnwys plant.

Roedd y grŵp troseddol yn gweithredu eu busnes mewn o leiaf saith siop yn Ne Cymru, roedd y rhan fwyaf yng Nghaerdydd ond roedd siopau yn Y Barri a Phen-y-bont hefyd yn cael eu defnyddio gan gynnwys:

  • Best European Food Ltd, Clifton Street, Caerdydd
  • Laz Mini Market. Clifton Street, Caerdydd
  • Barry Stores, Tynewydd Road, Y Barri
  • European Shop, Heol Holltwn, Y Barri
  • World and Food Ltd, Heol Holltwn, Y Barri
  • Apna Bazaar Bridgend Ltd, Dunraven Place, Pen-y-bont
  • European Mini Market, Stryd Tudor, Caerdydd 

Defnyddiodd y gang y siopau fel wyneb, gan ymddangos eu bod yn gwerthu cynhyrchion dilys a chynnyrch cyfreithlon arall, ond mewn gwirionedd, roedd ystryw cymhleth yn cael ei gynnal gyda fflatiau uwchben y siopau a mannau cudd eraill yn cael eu defnyddio i guddio llawer iawn o dybaco anghyfreithlon a oedd yn cael ei werthu i gwsmeriaid.

Clywodd y llys fod pob siop, ar amcangyfrifiad ceidwadol, yn gwneud tua £1000 y dydd o werthu tybaco anghyfreithlon ac Ocsid Nitraidd, gyda chyfanswm gwerthiant anghyfreithlon o £3.8m.

Cafodd peth o'r tybaco anghyfreithlon ei storio mewn unedau Safestore neu yng nghartrefi'r diffynnydd, gyda'r tybaco a'r sigaréts yn cael eu symud mewn ceir gyda ffenestri wedi’u duo i'r siopau a'r fflatiau uwchben yn hwyr yn y nos neu yn oriau mân y bore.

Yn aml, roedd y tybaco anghyfreithlon yn cael ei storio mewn mannau mawr wedi'u cuddio yn y siopau neu'r fflatiau. Defnyddiwyd magnetau trydanol pwerus, a reolir o bell i ddatgloi'r gofodau hyn a oedd yn anweledig i'r llygad dynol a dim ond trwy ddefnyddio cŵn snwyro a thrwy dorri trwy waliau oedd modd eu canfod.

Ymhlith y technegau eraill a ddefnyddiwyd gan y gang i gyflenwi eu cynnyrch roedd winshis trydan a thiwbiau plastig yn cysylltu'r siop â'r fflat uwchben, gyda thybaco yn cael ei basio i lawr tiwb pan wnaeth cwsmer brynu.

Dywedodd Helen Picton, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:"Arweiniodd chwiliadau a phrofion prynu ym mhob un o'r saith siop at £600,000 o dybaco anghyfreithlon wedi'i dynnu oddi ar strydoedd De Cymru. Rhan fach o faint y drosedd a wnaed yn yr achos hwn oedd hyn, gan nad yw'n ystyried unrhyw sigaréts neu dybaco a werthwyd gan y gang troseddol.

"Er eu bod yn credu eu bod yn gweithredu'n ddi-ganlyniad, yr hyn nad oeddent yn ei wybod yw eu bod yn cael eu monitro ar hyd y daith, ac fel y dangosodd y ddau achos, roedd tystiolaeth enfawr i reithgor eu cael yn euog o'r troseddau hyn. Roedd eu hymddygiad yn ystod yr achosion yn warthus. Roedden nhw'n credu bod ganddyn nhw'r hawl i gynnal eu busnes twyllodrus ac nid oedden nhw'n dangos llawer o edifeirwch.

"Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed mawr yn y gymuned.  Mae’r ffaith ei fod yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno’n arbennig o ddeniadol i bobl ifanc ac eraill ar incwm is, ac mae'n dileu'r cymhelliant pris i ysmygwyr presennol roi'r gorau i'r arfer. Rwy'n falch iawn o weld canlyniad llwyddiannus yr ymchwiliad hir ac estynedig hwn. Mae angen i droseddwyr wybod y byddant yn wynebu canlyniadau os byddant yn dewis delio yn y cynhyrchion anghyfreithlon hyn."

Dywedodd Sarsiant Jake Rollnick o Heddlu De Cymru: “Mae timau heddlu lleol caerdydd a’r fro wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ag asiantau eraill I ddod a’r troseddwydd yma o flaen eu gwell dros gynod o 18 mis.Mae’r Gwaith, sy’n cynnwys gweithredu warrantiaid yn dangos yn glir beth ellid ei gyflawnu drwy weithio gyda’n gilydd mewn partneriaieth”.

Dedfrydwyd deg aelod o'r GTC a restrir isod am gynnal 'busnes at ddiben twyllodrus' gwerth £1.8 miliwn rhwng 6 Medi 2013 a 5 Chwefror 2022. Dedfrydwyd unfed ar ddeg, Karwan Mohammadi, am yr un drosedd, ond dros gyfnod byrrach o amser, rhwng 7 Ionawr 2020, a 25 Chwefror, 2022. Rhoddir y ddedfryd ar gyfer pob diffynnydd isod:

·       Cafodd Ali Khaleel Hassan Aldarawish, 34, o Heol Albany, Y Rhath, Caerdydd, ei ddedfrydu i 7 mlynedd o garchar.

·       Cafodd Shwan Kamal Sofizada, 32, o Heol Caeglass, Tredelerch, Caerdydd, ei ddedfrydu i 6 mlynedd o garchar.

·       Cafodd Abdulla Laksari, 37, o Alice Street, Butetown, Caerdydd, ei ddedfrydu i 6 mlynedd o garchar.

·       Cafodd Farhard (Farman) Sofizadeh, 32, o'r Stryd Fawr, Y Barri, ei ddedfrydu i 3 blynedd o garchar.

·       Cafodd Saman Abobakir Sedik, 45, o High View Pen-y-bont ar Ogwr, ei ddedfrydu i 3 blynedd o garchar.

·       Cafodd Karwan Mohammadi, 31, o Canton Court, Glan-yr-afon, Caerdydd, ddedfryd 2 flynedd wedi’i gohirio am 12 mis gyda gofyniad i wneud 150 awr o waith di-dâl.

·       Cafodd Mariwam Mohammed, 38, o Gold Street, Adamsdown, Caerdydd, ddedfryd o 19 mis o garchar wedi'i gohirio am 12 mis gyda gofyniad i wneud 150 awr o waith di-dâl a 10 diwrnod o adsefydlu.

·       Cafodd Aiysha Bibi, 24, o'r Stryd Fawr, Y Barri, ddedfryd o 2 flynedd o garchar wedi'i gohirio am 18 mis gyda gofyniad i wneud 20 diwrnod o adsefydlu.

·       (enw a manylion heb eu cynnwys gan fod yr achos llys yn mynd rhagddo) yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.

Cafodd Rebin Hatam Ahmed,32, o Drayton Street, Walsall, ddedfryd o 19mis wedi'i gohirio am 12 mis gyda gofyniad i wneud 100 awr o waith di-dâl a gofyniad i wneud 10 diwrnod o adsefydlu.

 
Cafodd Alan Abdullah,23, o Fleetwood Road, Caerlŷr, ddedfryd o 2 flynedd wedi'i gohirio am 12 mis gyda 100 awr o waith di-dâl a gofyniad i wneud 10 diwrnod o adsefydlu.

Yn ogystal â'r cyhuddiad o gynnal busnes at ddiben twyllodrus, cafodd y diffynyddion canlynol hefyd eu herlyn am wyngalchu arian.

  • Cafwyd Ali Aldarawish yn euog ar un cyfrif o wyngalchu £792,255 o arian.
  • Cafwyd Shwan Sofizada yn euog ar un cyfrif o wyngalchu £171,219 o arian.
  • Cafwyd Abdulla Laksari yn euog ar ddau gyfrif o wyngalchu £476,069 o arian.
  • Cafwyd Saman Sedik yn euog ar un cyfrif o wyngalchu £122,389 o arian.