The essential journalist news source
Back
12.
June
2024.
Ehangu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled y ddinas

 

12/6/2024

Bydd cynlluniau cynhwysfawr i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol o fwy na 100 o leoedd swyddogol newydd ledled y ddinas yn dod i rym o fis Medi 2024.

Mae’r cynigion yn cydnabod y boblogaeth gynyddol o ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth, cyflyrau’r sbectrwm awtistiaeth ac anghenion iechyd emosiynol a lles a’u nod yw mynd i'r afael â'r galw cynyddol am leoliadau arbenigol i ddysgwyr cynradd ac uwchradd.  Mae’r rhain yn cynnwys:  

  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) 8 lle newydd ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
  • sefydlu CAA 8 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024.  Byddai hyn yn disodli’r Dosbarth Lles presennol. 
  • sefydlu CAA 16 lle newydd ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2025, o fewn adeiladau presennol neu adeilad newydd.
  • sefydlu CAA 16 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  Byddai hyn yn disodli’r Dosbarth Lles presennol.  
  • sefydlu CAA 8 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn disodli’r Dosbarth Lles presennol.  
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Coed Glas o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Greenway o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Severn o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  

Yn dilyn cyhoeddi hysbysiadau statudol ar gyfer y naw cynllun, ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Baden Powell, Ysgol Gynradd Herbert Thompson, Ysgol Gynradd Lakeside, Ysgol Gynradd Springwood, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Ysgol Gynradd Coed Glas, Ysgol Gynradd Greenway ac Ysgol Gynradd Severn.

Dim ond un gwrthwynebiad a wnaed i'r cynnig a gyhoeddwyd ar gyfer sefydlu canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed, a bydd y Cabinet yn cael gwybod am hwn yn ei gyfarfod ar 20 Mehefin 2024.

Roedd y gwrthwynebiad yn cyfeirio at ffensys ar y safle o amgylch meysydd chwarae Ysgol Gynradd y Tyllgoed a chau mynediad at y maes i’r gymuned ehangach.

Mewn ymateb, mae'r Cyngor wedi egluro nad oes unrhyw newidiadau arfaethedig i ffin yr ysgol sy'n gysylltiedig â sefydlu'r ganolfan adnoddau arbenigol arfaethedig. Mae maes chwarae’r ysgol yn cael ei ffensio er mwyn gosod llinell ddiogel i ehangu Ysgol Arbennig y Court (Ysgol Cynefin), sydd wedi’i gytuno. Gallwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am hyn yma: Contractwr wedi’i ddewis i ddarparu adeilad newydd ar gyfer 'Ysgol Cynefin' a alwyd yn Ysgol y Court gynt (newyddioncaerdydd.co.uk)

Nid oes gan eiddo cyfagos i’r ysgol ganiatâd ffurfiol i gael mynediad at gaeau’r ysgol. Gan fod diogelu yn rhan allweddol o gyfrifoldeb y Cyngor fel landlord a’r Awdurdod Addysg Lleol, ac yn gyfrifoldeb allweddol i'r pennaeth a'r corff llywodraethu, rhaid i'r Cyngor sicrhau bod safle'r ysgol a'i hadeilad yn ddiogel, bod mesurau diogelwch priodol ar waith a bod llinell ddiogel yn cael ei chreu, yn unol â'r gofynion fel yr amlinellir yn safonau Diogelu drwy Ddylunio sy’n cael eu defnyddio ar gyfer pob datblygiad ysgol newydd.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Cafwyd cefnogaeth gyffredinol i sefydlu darpariaeth CAA sy'n cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth, a dysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol a bydd y cynlluniau hyn yn darparu cynnydd graddol mewn lleoedd sy'n anelu at feithrin dull cynhwysol o fynd i'r afael â gofynion unigryw dysgwyr, gan ganolbwyntio ar wella gallu a chyflwyno cwricwlwm arloesol trwy ddarpariaeth addas.

"Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar y gwaith o arwain a llywodraethu'r ysgol, a bydd cymarebau, sgiliau a phrofiad staff yn cael eu hadolygu ym mhob lleoliad. Rydym wedi llunio manyleb ar gyfer canolfannau adnoddau y gellir ei haddasu ar gyfer gwahanol leoliadau ac rydym yn gweithio gydag ysgolion i nodi mannau priodol yn yr adeiladau presennol gyda buddsoddiad priodol i sicrhau bod cyfleusterau'n addas at y diben.

“Y consensws gan ysgolion sy'n cynnal canolfannau adnoddau ar hyn o bryd yw bod y profiad yn gwella’r dysgu i bob disgybl, ac yn cryfhau ethos cynhwysol yr ysgol a'r gymuned ymhellach.  Rhoddir pwysigrwydd ar adnabod yn gynnar, ymyrraeth ar sail ymchwil, adeiladau ysgol hygyrch a phartneriaethau amlasiantaethol cryf, a all gyda'i gilydd sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl ac yn derbyn cyfle cyfartal i ffynnu." 

Cafodd yr adroddiad ei adolygu gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Caerdydd a’i gytuno gan y Cabinet ar 20 Mehefin 2024. I weld yr adroddiad llawn ewch i Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Iau, 20 Mehefin 2024, 2.00pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)