11.6.24
Gan weini rhai o'r danteithion mwyaf blasus sydd i'w cael a rhestr amrywiol o gerddorion lleol, mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn ôl ym Mae Caerdydd ar gyfer haf 2024 - ac mae'n argoeli i fod yn wledd go iawn i'r synhwyrau!
Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn y Basn Hirgrwn, Bae Caerdydd.
Yn digwydd yn y Basn Hirgrwn o ddydd Gwener 5 Gorffennaf i ddydd Sul 7 Gorffennaf, mae gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru yn cefnogi mwy na 100 o fusnesau bach gan gynnwys ffefrynnau'r ŵyl fel The Mighty Softshell Crab, Café Cannoli, ac yr holl ffordd o Ynys Wyth, The Garlic Farm.
Mae digon o arwyr lleol i'w dathlu hefyd, boed yn fwyty enwog Caerdydd, bwyd stryd indiaidd y Purple Poppadom, byrbrydau llysieuol a fegan Samosaco - gan gynnwys eu Hwyau Bhaji winwns enwog - neu'r cwcis a'r toesenni brioche peryglus o flasus wedi'u pobi gan Cardiff Dough & Co llai na 5 milltir o safle'r Ŵyl.
Ymhlith wynebau newydd yr ŵyl eleni mae Antur Brew & Co, microfragdy annibynnol newydd sydd wedi bod yn gwerthu cwrw crefft o ansawdd uchel o'u canolfan yng Nghrucywel ers mis Ebrill eleni. Os ydych yn hoff o fedd, ewch yn syth am Hive Mind Mead, sydd hefyd yma am y tro cyntaf, ac yn gwneud eu diodydd o fêl wedi ei gasglu ar draws Dyffryn Gwy.
Hefyd yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn yr ŵyl mae Franks Hot Dogs - Currywurst a Chŵn Poeth enwog Gloucester Old Spot, gan y bobl ddaeth â'r Grazing Shed i chi. Ac am ychydig o flas moethus, beth am Rutab Dates am ddatys Medjool wedi'u stwffio a'u gorchuddio â siocled.
Macarons - rhai o'r bwydydd gwych sydd ar gael yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerdydd.
Bydd y bandstand ar ei anterth drwy gydol yr ŵyl wrth i gerddorion lleol gan gynnwys Shop Girls, Mr Tea and the Minions, Juno, Nookee, Zong Zing All Stars a Swingin' Bill's Vintage Revue gamu i'r llwyfan. Disgwyliwch unrhyw beth o ska-gwerin a churiadau ffynci, i jeifio egnïol a cherddoriaeth ddawns canol Affrica.
Eleni, bydd ymwelwyr yn cael y fraint ychwanegol o allu dal un o'r perfformiadau stryd sy'n digwydd o amgylch Bae Caerdydd fel rhan o Ŵyl Undod 2024, Dydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 Gorffennaf.
Ac nid dyna ddiwedd yr hwyl - bydd Awdurdod Harbwr Caerdydd yn yr ŵyl, yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddianc o brysurdeb bywyd y ddinas drwy fynd ar daith rithwir, am ddim, o gwmpas hanes a bywyd gwyllt Ynys Echni sydd allan ar Fôr Hafren.
Mae mynediad am ddim i Ŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ac nid oes angen tocyn. Oriau agor yr ŵyl yw:
Dydd Gwener: 12:00 - 22:00*
Dydd Sadwrn: 11:00 - 22:00*
Dydd Sul: 11:00 - 19:00
*Mae'r Piazza Bwyd Stryd a'r Bariau ar agor tan 22:00, tra bod Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yn cau am 21:00 a stondinau masnach yn cau am 19:00.
Mwy o wybodaeth: https://www.croesocaerdydd.com/bwyta-yfed/
Rhestr Lawn o Fasnachwyr
Marchnad Ffermwyr
Antur Brew Co | Microfragdy annibynnol o Grucywel sy'n gwerthu cwrw crefft o ansawdd uchel |
Babita's Spice Deli | Byrbrydau deli Indiaidd fegan a llysieuol |
Baker Bears | Nwyddau wedi'u pobi o fecws o Gaerffili gan gynnwys cacennau cwpan, cacennau ar ffon a chacennau hambwrdd |
Bang-On Brewery Ltd | Cwrw crefft o Ben-y-bont ar Ogwr |
Bee Welsh Honey | Mêl a chŵyr gwenyn o Lanfair-ym-Muallt |
Bil-Tomms Biltong ltd | Biltong cig eidion wedi'i halltu yn arddull De Affrica |
Bloom Sugar Cakes | Tafelli pei cwci, cwcis enfawr a bariau cwci, gydag amrywiaeth o flasau. |
Blueberry Hill Preserves | Siytni, jamiau a marmaledau swp bach - wedi'u gwneud â llaw gyda chynhwysion artisan o ganol Swydd Efrog |
Cardiff Dough and Co | Cwcis a thoesenni brioche o Gaerdydd |
Cascave Gin | Jin crefft premiwm wedi'i ysbrydoli gan Fannau Brycheiniog |
Celtic Spirit Co | Y cwmni gwirodydd hynaf yng Nghymru, sy'n cynhyrchu gwirodydd a gwirodlynnau o ansawdd uchel |
Chock Shop | 15 math gwahanol o frownis siocled a fanila Gwlad Belg |
Croatian Fine(st) Farmer & Artisan Food and Drink | Bwyd cain artisan o Groatia |
Gwinoedd a Gwirodlynnau Cwm Deri | Gwinoedd a gwirodlynnau wedi eu creu mewn sypiau bach yng Ngorllewin Cymru |
Dimkin's Patisserie | Macarons Ffrengig wedi'u gwneud â llaw |
Doughnutterie | Dewis o doesenni artisan |
Drinks Kitchen Non-Alcoholic Aperitif | Aperitif di-alcohol penigamp o Wlad yr Haf |
Express Brazilian Food | Nwyddau pob sawrus o Frasil |
Fat Bottom Welsh Cakes | Cacennau Cri mewn amrywiaeth o flasau traddodiadol ac anhraddodiadol |
Freda's Peanut Butter | 8 math o fenyn cnau daear artisan â blas, wedi'u gwneud yng Nghernyw |
Gilly's | Amrywiaeth unigryw o ddresin Balsamig heb olew a setiau anrhegion bach. |
GingerBeard's Preserves | Amrywiaeth eang o gyffeithiau artisan |
Gourmet Gower Fudge | 35 math o gyffug a nyget wedi'u gwneud â llaw |
Seidr Gwatkin | Seidr, perai, sudd afal a brandi seidr Swydd Henffordd |
Seidr Gwynt y Ddraig | Seidr traddodiadol Cymreig mewn potel |
Harrison & Griffiths Ltd | Y cacennau rým Jamaica gorau sydd ar gael mewn 3 chryfder |
Isaac Poad | Cwrw potel, gwirodydd a choctels yn barod i'w harllwys penigamp |
Jamaica Blue Mountain® Coffee Ms. Tita | Ffa coffi Blue Mountain Jamaica |
Jethro's Marinades & Sauces/Pork Crackling - Artisan Camper | Sawsiau tsili, marinadau, siytni a chraclin porc mewn 10 blas gwahanol |
Lucelas Chocolate Rum | Siocled moethus penigamp wedi'i gymysgu â llaw gyda Rým |
M&M Beverages Ltd | Tonigau Premiwm Buzbee wedi'u gwneud gyda dŵr ffynnon Cymru, mêl a chynhwysion naturiol. |
Marie Cresci's Cheesecakes | Potiau cacen gaws a phroffiteroliau cacen gaws gyda saws trochi, wedi'u gwneud gartref yn Rhydaman. |
MKS Food Distribution | Dewis o fyrbrydau melys a sawrus Mediteranaidd gan gynnwys ffrwythau'r olewydd, cnau, melysion Twrci a baklava |
Northern Brownies | Brownis siocled mewn amrywiaeth o flasau, wedi'u gwneud yn Leeds |
O'Donnell Moonshine | Llaeth mwnci alcoholig iawn ac amrywiaeth o wirodlynnau blasus |
R&G Thai Curry Paste | Pastau cyri Thai go iawn, yn amrywio o sbeislyd iawn i ysgafn iawn. |
Ralph's Cider LTD | Seidr a pherai ffermdy traddodiadol |
Rickard's Cornish Biltong | Biltong cig eidion, Droewors a tameidiau tsili penigamp o Gernyw wedi'u crefftio â llaw. |
Hufen Iâ Rowlestone Farm | Amrywiaeth o hufen iâ a sorbet wedi'u crefftio â llaw mewn dewis o flasau traddodiadol ac unigryw. |
Rutab Dates | Datys Medjool moethus wedi'u crefftio â llaw a'u stwffio a'u gorchuddio â siocled. |
Samosaco | Byrbrydau llysieuol a fegan gan gynnwys Samosas, Bhajis, Piclau, Siytni, Sawsiau a'r Ŵy Bhaji Winwns enwog |
Seasons Coffee House and Cakery | Cacennau cartref |
Singh's Kitchen | Prydau Indiaidd yn barod i'w bwyta |
Sizzlers - Prime Meats | Helgig o Brydain, cig bridiau prin ac egsotig. |
Spirit of Wales Distillery | Gwirodydd, jin, rým a fodca wedi'u crefftio â llaw - wedi'u distyllu yng Nghasnewydd |
Tan Rosie | Cynnyrch bwyd Caribïaidd go iawn, o sbeisys i sawsiau, wedi'u gwneud o'r cynhwysion mwyaf ffres |
Tarsier Southeast Asian Spirit | Jin wedi'i ysbrydoli gan flasau De-ddwyrain Asia |
The Artisan | Pastel de Nata a phasteiod sawrus |
The Finest Fudge Co | Darnau cyffug cartref, wedi'u gwneud gyda'r cynhwysion gorau |
The Pudding Wagon | Brownis siocled trioglyd mewn amrywiaeth o flasau |
The Sawley Kitchen | Teisen frau benigamp, bisgedi hen ffasiwn a meringues enfawr |
The Twisted Curry Co | Cyrri a phecynnau sbeis marinâd i'w coginio gartref |
TORS Vodka | Fodca premiwm a gwirodlynnau fodca, mewn potel |
Tŷ Caws | Casgliad o gaws ac ychwanegiadau Prydeinig |
Wiltshire Chilli Farm | Sawsiau tsili, jam, taeniadau, halwynau, sesnin a hyd yn oed siocled cartref penigamp! |
Yau's | Sawsiau dwyreiniol iachach wedi'u gwneud o ryseitiau go iawn |
Ffair y Cynhyrchwyr
Beth's Bakes | Amrywiaeth o flondis, brownis a chacennau cwpan. |
Boba Buzz | Te swigod Taiwan - diod ffrwythau wedi'i weini gyda pheli sudd yn popio. |
Butternut Box | Amrywiaeth o fwyd ci ffres, wedi'i goginio fel y byddech yn gwneud gartref. |
Cafe Cannoli | Cannoli penigamp o Sisilia |
Lemonêd Churtopia | Lemonêd pefriog cartref |
Continental Cottage Ltd | Amrywiaeth eang o Salami o'r Almaen |
Emburs Dessert Bar | Melysion unigryw, wedi'u gwneud â llaw o Sir Benfro |
Flo and Frankies Fudge | Cyffug a licris wedi'i wneud â llaw |
Hensol Castle Distillery | Gwirodydd Cymreig penigamp o Gastell Hensol ym Mro Morgannwg. |
Hive Mind Mead & Brew Co | Medd wedi'i wneud o fêl a gasglwyd yn Nyffryn Gwy |
hotroastednuts | Cnau sinamon wedi'u rhostio a licris Eidalaidd |
Kin Toffee Vodka | Fodca cymysg wedi'i gymysgu â llaw yng nghanol Ardal y Llynnoedd |
Lisa's Luxury Cheesecakes & the Crazy Bakes | Cacennau caws, cwcis a brownis cartref a mwy - wedi'u gwneud yng Nghaerdydd |
Llanfaes Dairy Ice Cream | Hufen iâ artisan, wedi'i wneud ym Mannau Brycheiniog |
Ridiculously Rich by Alana | Brownis a chacennau moethus, wedi'u gwneud yng Nghymru gyda'r cynhwysion gorau |
Riverford Organic Farmers | Bocs ffrwythau a llysiau organig, gwasanaeth cludo i'r cartref a siop fferm ar-lein |
Shepherds Ice Cream | Hufen iâ llaeth dafad a phlanhigion o Henffordd |
Sunrise Patisserie | Tartenni cwstard Portiwgaleg |
The Bath Soft Cheese Co. | Caws artisan wedi'i wneud â llaw, gan ddefnyddio llaeth un llwyth o wartheg |
The Blaenafon Cheddar Company Ltd | Cawsiau sydd wedi ennill gwobrau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, wedi'u gwneud â llaw |
The Garlic Farm | Yn arbenigo mewn popeth yn ymwneud â Garlleg, wedi'i dyfu ar Ynys Wyth |
The Great British Cheese Company | Caws a siytni Prydeinig penigamp |
Piazza Bwyd Stryd
Bamboo House | Bwyd o Faleisia gan gynnwys cyw iâr Sambal a chyw iâr Rendang |
Bao Selecta | Byns bao ysgafn wedi'u stemio a'u llwytho ag amrywiaeth o lenwadau a dresins |
Caribbean Cuisine | Prydau bwyd Caribïaidd clasurol gan gynnwys cyw iâr jerk, cyrri maharen, pysgod hallt ac ackee a reis a phys |
Churros Hermanos | Churros ffres, organig a fegan, gyda siocled Gwlad Belg wedi'i doddi drostyn nhw |
Cig Eidion a Chig Oen Cwmpistyll Cymru | Byrgyrs cig eidion du Cymreig wedi'u magu gartref, byrgyrs cig oen, selsig a chig moch o safon. |
Franks Hot Dogs | Cŵn poeth Gloucester Old Spot a Currywurst penigamp |
Giovanni's yn y Bae | Bwyd a phwdinau Eidalaidd ffres |
Happy Dumpling 365 | Bwyd Tsieineaidd traddodiadol gan gynnwys twmplenni, byns bao a thoesenni Tsieineaidd |
Hogi Hogi Hogi | Cyfuniad clasurol o borc Cymreig, stwffin, saws afal, cracilin crensiog |
Keralan Karavan | Bwyd stryd de India gan oreuon Caerdydd |
Le Coq | Cyw iâr llaeth menyn wedi'i ffrio a'i weini mewn amrywiaeth o ffyrdd |
Mac Daddies Gourmet Mac and Cheese | Mac a chaws gourmet gydag ychwanegiadau anhygoel |
Meat and Greek | Souvlaki ffres - bara pitta wedi'i grasu yn llawn cyw iâr neu borc golosg suddlon ar sgiwerau |
Morgans Family Butchers | Stêc, byrgyrs cig eidion a byrgyrs cig oen wedi'u gwneud gyda'r cig oen a'r cig eidion Cymreig gorau a fagwyd yn Llanfair-ym-Muallt |
Nixon Farms | Cig eidion du, cig oen neu borc Cymreig wedi'i rostio'n araf gyda sglodion 'go iawn'. |
Purple Poppadom | Bwyd stryd indiaidd yn cynnwys cyw iâr Kerala wedi'i ffrio a sglodion bombay |
Taste of Persia | Amrywiaeth o gebabau, stiwiau Persiaidd, falafel a melysion Persiaidd ffres |
The Dough Thrower | Pizza pren tân gyda saws tomato wedi'i wneud yn y tŷ |
The Hellenic Eatery | Blasau traddodiadol Groegaidd gan gynnwys tortilas gyros a halloumi |
The Mighty Soft Shell Crab | Cranc tempura cragen feddal wedi'i weini gyda saws tsili melys cartref |
The Spanish Buffet Ltd | Paella a tapas Sbaenaidd traddodiadol wedi'u gwneud gyda chynhwysion o ansawdd |
The Welsh Creperie Co | Crepes Ffrengig go iawn melys a sawrus |
Y Bandstand
| Dydd Gwener, 5 Gorffennaf |
| Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf |
| Dydd Sul 7 Gorffennaf |
12:00 | Juno | 12:00 | Batwkee | 12:00 | Nookee |
13:00 | Shop Girls | 13:00 | Mari Mathias | 13:00 | Swingin' Bill's Vintage Revue |
14:00 | J4 | 14:00 | Jump Sturdy | 14:00 | Fiesta Resistance |
15:00 | Kingman Project | 15:00 | The Sun Kings | 15:00 | Nookee |
16:00 | Mr Tea and the Minions | 16:00 | Batwkee | 16:00 | Swingin' Bill's Vintage Revue |
17:00 | Juno | 17:00 | Zong Zing All Stars | 17:00 | Fiesta Resistance |
18:00 | Shop Girls | 18:00 | Mari Mathias | 18:00 | Nookee |
19:00 | J4 | 19:00 | Jump Sturdy |
|
|
20:00 | Kingman Project | 20:00 | The Sun Kings |
|
|
21:00 | Mr Tea and the Minions | 21:00 | Zong Zing All Stars |
|
|
Cyngor Teithio
Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, cerddwch neu feicio i'r digwyddiad, os yn bosibl. Mae bysiau'n rhedeg yn rheolaidd i Fae Caerdydd ac mae gorsaf drenau Bae Caerdydd yn daith gerdded fer o safle'r ŵyl. Cynlluniwch eich taith yma: https://www.traveline.cymru/
Bydd raciau beiciau ychwanegol ar gael ar safle'r ŵyl.
Mae parcio ar gael yn agos at safle'r ŵyl.