The essential journalist news source
Back
10.
June
2024.
Gwaith i ddechrau ar ardal chwarae Parc y Sanatoriwm
10.6.24

Mae disgwyl i'r gwaith o ailddatblygu'r ardal chwarae i blant iau ym Mharc y Sanatoriwm ddechrau ddiwedd mis Mehefin. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn yr hydref a bydd man chwarae naturiol newydd yn cael ei greu ar safle'r ardal chwarae bresennol.

Er mwyn gallu cwblhau'r gwaith mor gyflym a diogel â phosibl, bydd yr ardal chwarae plant bach gerllaw ar gau am oddeutu tair wythnos, ar ddechrau'r gwaith.  Bydd yr ardal yn ailagor erbyn gwyliau'r haf.

Bydd yr ardal chwarae naturiol newydd yn cynnwys twmpath glaswelltog, tua 2-3 metr o uchder, a fydd yn sail i'r ardal chwarae newydd ac yn caniatáu gosod sleidiau, llwyfannau dringo a nodweddion chwarae naturiol eraill.  I greu'r twmpath hwn bydd angen i gerbydau gael mynediad i'r ardal a bydd yn arwain at fwy o draffig cerbydau o fewn y parc.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae ailddatblygu'r ardal chwarae i blant iau ym Mharc y Sanatoriwm yn rhan o'n rhaglen barhaus o welliannau i barciau ledled y ddinas.

"Bydd rhywfaint o darfu o fewn y parc tra bo’r ardal chwarae newydd yn cael ei hadeiladu. Hoffem ddiolch i drigolion am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn a gobeithiwn y bydd teuluoedd lleol yn mwynhau'r cyfleuster chwarae newydd pan fydd wedi'i gwblhau."