Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
- Gwasanaeth Coffa Babanod
- Cyngor yn lansio dogfen ymgynghori newydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghaerdydd
- Arolwg Estyn diweddar yn cydnabad ser disglairYsgol Gynradd Llwynbedw
- Mae gan breswylwyr Cartref Cŵn Caerdydd ardd newydd i'w mwynhau
Gwasanaeth Coffa Babanod
Cynhelir Gwasanaeth Coffa Babanod am 11.30am ddydd Sul 30 Mehefin yng ngardd 'Annwyl Fam' Mynwent y Gorllewin.
Yn seiliedig ar stori llygoden ifanc o'r enw Dora sy'n dymuno gallu dweud wrth ei mam gymaint y mae'n gweld ei heisiau, mae'r ardd gerfluniau 'Annwyl Fam' wedi'i chynllunio i helpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwyliaid ac i fod yn fan coffa i rieni sydd wedi colli babi.
Cefnogir y gwasanaeth coffa gan y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) a bydd yn cael ei arwain gan aelodau o dîm Caplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae croeso i bawb fynychu, a bydd aelodau o gangen Caerdydd o Sands ar gael yn y gwasanaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Norma Mackie, "Mae'r ardd 'Annwyl Fam' yn lleoliad addas ar gyfer y gwasanaeth hwn, sy'n cynnig cyfle i deuluoedd sydd wedi profi colled drist babi fyfyrio a chofio, mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol."
Cyngor yn lansio dogfen ymgynghori newydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghaerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori gynhwysfawr newydd yn amlinellu sut mae'n bwriadu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y ddinas dros y pedair blynedd nesaf.
Mae'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2024-2028) wedi'i chynllunio i esbonio'r mesurau y mae'r awdurdod yn eu mabwysiadu i sicrhau y cyflawnir ei nod o Gaerdydd 'Gryfach, Decach, Gwyrddach'.
Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad a gymeradwywyd gan Gabinet y Cyngor ddoe (23 Mai) yn pwysleisio bod creu dinas 'Decach' yn golygu "sicrhau y gall pawb fwynhau'r cyfleoedd gwych o fyw yng Nghaerdydd, beth bynnag fo'u cefndir, lle mae'r rhai sy'n dioddef anfantais yn cael eu cefnogi a lle mae pob dinesydd yn cael ei werthfawrogi ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi."
Mae hefyd yn amlinellu bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), a ddaeth i rym yn 2011, yn sicrhau bod y nodweddion canlynol yn cael eu diogelu:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu Rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil - gan gynnwys tras ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
- Crefydd neu gred, gan gynnwys diffyg crefydd neu gred
- Rhyw, a
- Cyfeiriadedd rhywiol
Mae'r DCSC hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi amcanion bob pedair blynedd o leiaf a chyhoeddi datganiad yn rhoi manylion y camau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd i'w bodloni, gan gynnwys mynd i'r afael ag unrhyw fwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, Aelod Cabinet arweiniol Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, fod gan Gaerdydd eisoes hanes balch o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. "Ni yw'r awdurdod lleol mwyaf ethnig amrywiol yng Nghymru ac un o'r cymunedau ethnig amrywiol hynaf ym Mhrydain, gyda thros 100 o ieithoedd yn cael eu siarad yma.
"Rydym hefyd yn cael ein hystyried fel y ddinas orau yn Ewrop ar gyfer mewnfudwyr a theuluoedd â phlant ifanc ac rydym ymysg y 10 dinas orau i aelodau o'r gymuned LHDTC+ fyw.
"Fel pob dinas yn y DU, fodd bynnag, rydym yn wynebu achosion o anghydraddoldeb hir sefydlog a dwfn. Mae rhai preswylwyr yn wynebu rhwystrau rhag byw bywydau llawn a gweithgar ac mae angen gwneud mwy i sicrhau nad oes neb yn profi gwahaniaethu o unrhyw fath oherwydd pwy ydyn nhw.
"Mae'r patrymau tlodi ac anghydraddoldeb a ddaeth i'r amlwg genhedlaeth yn ôl yn parhau, wedi'u gwaethygu gan y pandemig a'r argyfwng costau byw. Bydd cau'r bwlch anghydraddoldeb yn gofyn am barhau i ddarparu addysg ragorol, creu swyddi sy'n rhoi cyfleoedd ar gyfer cynnydd, a chyflawni datrysiadau tai cynaliadwy sy'n diwallu anghenion pawb, yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau iechyd."
Arolwg Estyn diweddar yn cydnabod sêr disglair Ysgol Gynradd Llwynbedw
Yn ddiweddar, mae Ysgol Gynradd Llwynbedw wedi cael archwiliad llwyddiannus gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru sy'n tynnu sylw at ddiwylliant cadarnhaol ac arweinyddiaeth gref yr ysgol.
Roedd yr arolygwyr o'r farn bod yr ysgol yn gymuned ddysgu gynhwysol a hapus, a bod disgyblion yn dangos ymddygiad rhagorol ac agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu. Mae ymrwymiad yr ysgol i feithrin diwylliant cryf o ofal a dealltwriaeth yn amlwg.
Mae'r adroddiad yn canmol y cwricwlwm deniadol, sy'n cynnwys ystod eang o brofiadau dysgu dilys ac ysgogol. Mae athrawon yn darparu cyfleoedd amrywiol i ddisgyblion ddatblygu eu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, ac maen nhw'n eu cymhwyso'n frwdfrydig ar draws gweithgareddau addysgol amrywiol. Yn ogystal, mae'r ysgol yn cynnig dewis cyfoethog o weithgareddau allgyrsiol ac ymweliadau addysgol, gan wella profiad y myfyrwyr ymhellach.
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod y gwaith da sy'n digwydd yn Ysgol Gynradd Llwynbedw ac mae'r adroddiad yn taflu goleuni ar yr amgylchedd meithrin sydd wedi'i sefydlu.
"Hoffwn longyfarch y pennaeth, y staff, y disgyblion a'r teuluoedd am gyflawni'r adroddiad cadarnhaol hwn."
Cafodd y pennaeth, Mrs Morgan, sydd wedi bod gyda'r ysgol ers 2012, ei chanmol am ei harweinyddiaeth gref ac am feithrin gweledigaeth sy'n canolbwyntio ar baratoi disgyblion ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol ac addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Cydnabuwyd corff llywodraethu'r ysgol hefyd am ei gydweithredu effeithiol â staff, disgyblion a rhieni i gefnogi gwelliant parhaus.
Dywedodd y Pennaeth Mrs Sarah Morgan, "Mae cymuned yr ysgol wrth ei bodd bod arolygwyr yn cydnabod gwaith rhagorol disgyblion a staff yn ogystal â hunaniaeth gref yr ysgol lle mae disgyblion yn amlwg yn falch o fod yn Sêr Llwynbedw. Rydym yn ffodus iawn o gael tîm ymroddedig a thalentog o staff sy'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a llywodraethwyr i sicrhau bod arwyddair yr ysgol 'Lle mae pob plentyn yn seren' yn adlewyrchu ethos yr ysgol ac yn galluogi pob plentyn i gyflawni'n uchel."
Ychwanegodd Mrs Christine Salter, Cadeirydd y Llywodraethwyr, "Mae llywodraethwyr yn falch iawn bod yr arolygwyr yn cydnabod bod Ysgol Gynradd Llwynbedw yn gymuned hapus a chynhwysol a bod gan ddisgyblion agwedd gadarnhaol tuag at eu dysgu."
Mae gan breswylwyr Cartref Cŵn Caerdydd ardd newydd i'w mwynhau
Mae gan breswylwyr sy'n aros yng Nghartref Cŵn Caerdydd ardd newydd i'w mwynhau wrth iddynt aros i gael clywed am eu cartref am byth.
Mae'r ardd, sy'n rhoi lle ychwanegol i'r cŵn ymarfer corff a chwarae gyda'r tîm Cartref Cŵn, wedi ei gwneud yn bosibl gyda chefnogaeth elusen gysylltiedig y Rescue Hotel, gwirfoddolwyr y Cartref Cŵn, Cadwch Gymru'n Daclus a'r partner datblygu tai, Lovell.
Dwedodd Aelod Cabinet Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae llawer o'r cŵn sy'n cael eu hunain yng Nghartref Cŵn Caerdydd wedi dod o sefyllfaoedd anodd ac maen nhw'n haeddu ychydig o foethusrwydd yn ystod eu harhosiad.
"Bydd cael yr ardd newydd hon ar y safle yn helpu i sicrhau bod y cŵn yn gallu treulio mwy o amser y tu allan i'w cybiau, ac yn rhoi lle iddynt lle gall y tîm weithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn barod i gael eu hailgartrefu - diolch yn fawr i'n holl wirfoddolwyr gwych, y Rescue Hotel, Cadwch Gymru'n Daclus, a'r tîm yn Lovell a gefnogodd y prosiect yn hael."