24.05.24
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi
dogfen ymgynghori gynhwysfawr newydd yn amlinellu sut mae'n bwriadu mynd i'r
afael ag anghydraddoldeb yn y ddinas dros y pedair blynedd nesaf.
Mae'r Strategaeth
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2024-2028) wedi'i chynllunio i
esbonio'r mesurau y mae'r awdurdod yn eu mabwysiadu i sicrhau y cyflawnir ei
nod o Gaerdydd 'Gryfach, Decach, Gwyrddach'.
Mae adroddiad ar yr
ymgynghoriad a gymeradwywyd gan Gabinet y Cyngor ddoe (23 Mai) yn pwysleisio
bod creu dinas 'Decach' yn golygu "sicrhau y gall pawb fwynhau'r cyfleoedd
gwych o fyw yng Nghaerdydd, beth bynnag fo'u cefndir, lle mae'r rhai sy'n
dioddef anfantais yn cael eu cefnogi a lle mae pob dinesydd yn cael ei
werthfawrogi ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi."
Mae hefyd yn amlinellu bod
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), a ddaeth i rym yn 2011, yn
sicrhau bod y nodweddion canlynol yn cael eu diogelu
Mae'r DCSC hefyd yn ei
gwneud yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi amcanion bob pedair blynedd o leiaf a
chyhoeddi datganiad yn rhoi manylion y camau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu
eu cymryd i'w bodloni, gan gynnwys mynd i'r afael ag unrhyw fwlch cyflog rhwng
y rhywiau.
Dywedodd y Cynghorydd Julie
Sangani, Aelod Cabinet arweiniol Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, fod gan
Gaerdydd eisoes hanes balch o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. “Ni yw’r
awdurdod lleol mwyaf ethnig amrywiol yng Nghymru ac un o'r cymunedau ethnig
amrywiol hynaf ym Mhrydain, gyda thros 100 o ieithoedd yn cael eu siarad yma.
"Rydym hefyd yn cael
ein hystyried fel y ddinas orau yn Ewrop ar gyfer mewnfudwyr a theuluoedd â
phlant ifanc ac rydym ymysg y 10 dinas orau i aelodau o'r gymuned LHDTC+ fyw.
"Fel pob dinas yn y
DU, fodd bynnag, rydym yn wynebu achosion o anghydraddoldeb hirsefydlog a dwfn.
Mae rhai preswylwyr yn wynebu rhwystrau rhag byw bywydau llawn a gweithgar ac
mae angen gwneud mwy i sicrhau nad oes neb yn profi gwahaniaethu o unrhyw fath
oherwydd pwy ydyn nhw.
“Mae'r patrymau tlodi ac
anghydraddoldeb a ddaeth i'r amlwg genhedlaeth yn ôl yn parhau, wedi’u
gwaethygu gan y pandemig a'r argyfwng costau byw. Bydd cau'r bwlch
anghydraddoldeb yn gofyn am barhau i ddarparu addysg ragorol, creu swyddi sy'n
rhoi cyfleoedd ar gyfer cynnydd, a chyflawni datrysiadau tai cynaliadwy sy'n
diwallu anghenion pawb, yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau iechyd.”
Mae'r Cyngor eisoes wedi
sefydlu arferion da tuag at wella cydraddoldeb, gan gynnwys:
Nawr, i ddatblygu'r
strategaeth ddrafft ar gyfer 2024-28, mae'r Cyngor wedi cynnal cyfres
gynhwysfawr o asesiadau, wedi adolygu cynlluniau gweithredu lleol a
chenedlaethol ac wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid blaenllaw yn y ddinas ac wedi
amlinellu pum amcan allweddol:
Cyngor sy’n adlewyrchu ei
gymunedau - Byddwn yn gwneud Cyngor Caerdydd yn sefydliad mwy cynhwysol sy'n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu, a lle mae’r gweithwyr yn
hyderus i fod yn nhw eu hunain ac yn cael eu grymuso i wneud cynnydd, a
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a
Chynhwysiant yn greiddiol i’r sefydliad - Byddwn yn sicrhau bod prosesau craidd
Cyngor Caerdydd yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae'r Cyngor nawr yn gofyn
am farn preswylwyr Caerdydd ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer
2024-28 er mwyn helpu i sicrhau dinas decach i'n holl breswylwyr. Am fwy o
fanylion, ewch i: www.cardiff.gov.uk/DraftStrategicEqualityPlan Bydd
yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 3 Mehefin a bydd yn rhedeg am 6 wythnos,
gan ddod i ben ar 14 Gorffennaf.