23/5/2024
Yn ddiweddar, mae Ysgol Gynradd Llwynbedw wedi cael archwiliad llwyddiannus gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru sy'n tynnu sylw at ddiwylliant cadarnhaol ac arweinyddiaeth gref yr ysgol.
Roedd yr arolygwyr o'r farn bod yr ysgol yn gymuned ddysgu gynhwysol a hapus, a bod disgyblion yn dangos ymddygiad rhagorol ac agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu. Mae ymrwymiad yr ysgol i feithrin diwylliant cryf o ofal a dealltwriaeth yn amlwg.
Mae'r adroddiad yn canmol y cwricwlwm deniadol, sy'n cynnwys ystod eang o brofiadau dysgu dilys ac ysgogol. Mae athrawon yn darparu cyfleoedd amrywiol i ddisgyblion ddatblygu eu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, ac maen nhw'n eu cymhwyso'n frwdfrydig ar draws gweithgareddau addysgol amrywiol. Yn ogystal, mae'r ysgol yn cynnig dewis cyfoethog o weithgareddau allgyrsiol ac ymweliadau addysgol, gan wella profiad y myfyrwyr ymhellach.
Cafodd y pennaeth, Mrs Morgan, sydd wedi bod gyda'r ysgol ers 2012, ei chanmol am ei harweinyddiaeth gref ac am feithrin gweledigaeth sy'n canolbwyntio ar baratoi disgyblion ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol ac addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Cydnabuwyd corff llywodraethu'r ysgol hefyd am ei gydweithredu effeithiol â staff, disgyblion a rhieni i gefnogi gwelliant parhaus.
Dywedodd y Pennaeth Mrs Sarah Morgan, "Mae cymuned yr ysgol wrth ei bodd bod arolygwyr yn cydnabod gwaith rhagorol disgyblion a staff yn ogystal â hunaniaeth gref yr ysgol lle mae disgyblion yn amlwg yn falch o fod yn Sêr Llwynbedw. Rydym yn ffodus iawn o gael tîm ymroddedig a thalentog o staff sy'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a llywodraethwyr i sicrhau bod arwyddair yr ysgol 'Lle mae pob plentyn yn seren' yn adlewyrchu ethos yr ysgol ac yn galluogi pob plentyn i gyflawni'n uchel."
Ychwanegodd Mrs Christine Salter, Cadeirydd y Llywodraethwyr, "Mae llywodraethwyr yn falch iawn bod yr arolygwyr yn cydnabod bod Ysgol Gynradd Llwynbedw yn gymuned hapus a chynhwysol a bod gan ddisgyblion agwedd gadarnhaol tuag at eu dysgu."
Adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, mae Estyn wedi nodi dau faes i'w gwella; yr angen i gynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a datblygu sgiliau disgyblion fel dysgwyr annibynnol. Mewn ymateb, bydd y pennaeth a'r corff llywodraethu yn paratoi cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn ac yn parhau i greu amgylchedd lle gall pob disgybl ffynnu.
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod y gwaith da sy'n digwydd yn Ysgol Gynradd Llwynbedw ac mae'r adroddiad yn taflu goleuni ar yr amgylchedd meithrin sydd wedi'i sefydlu.
"Hoffwn longyfarch y pennaeth, y staff, y disgyblion a'r teuluoedd am gyflawni'r adroddiad cadarnhaol hwn."
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Llwynbedw 401 o fyfyrwyr ar y gofrestr. Mae 97.6% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 4.3% wedi'u nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae 16.4% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Ni fydddull Estyn o arolygu ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru yn cynnwys sgoriau crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') mwyach a bydd bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.
Mae'r dull yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.
Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.
I ddarllen yr adroddiad llawn, dilynwch y ddolen hon:Ysgol Gynradd Llwynbedw | Estyn (llyw.cymru)
Neu ewch i wefan yr ysgol:https://www.birchgrovecardiff.co.uk/