14/52024
Yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn, canfuwyd bod Ysgol Gynradd Hywel Dda yn sefyll allan am ei hymrwymiad i greu amgylchedd gofalgar a chefnogol lle mae lles disgyblion yn brif flaenoriaeth.
Cymeradwyodd arolygwyr o Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, yr ysgol am feithrin awyrgylch cadarnhaol lle mae bron pob disgybl yn ffynnu, gan arddangos brwdfrydedd ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu. Ystyrir y berthynas gref rhwng staff a disgyblion, yn ogystal ag ymhlith y disgyblion eu hunain, yn sylfaenol i lwyddiant yr ysgol. Canmolir y berthynas â rhieni, gofalwyr a'r gymuned hefyd, wrth i Estyn ganmol cefnogaeth helaeth yr ysgol i deuluoedd.
Mae'r adroddiad diweddar yn tynnu sylw at gwricwlwm eang a chynhwysol yr ysgol sy'n cynnig profiadau dysgu amrywiol i ddisgyblion sy'n ehangu eu dealltwriaeth o Gymru a'r byd ehangach. Mae'r ethos Cymraeg cryf yn yr ysgol yn meithrin hyder disgyblion wrth ddysgu'r Gymraeg, ac mae llawer ohonynt yn datblygu'n siaradwyr Cymraeg brwdfrydig. Yn ogystal, nodir pwyslais yr ysgol ar lythrennedd am ei heffaith gadarnhaol ar ddatblygu sgiliau darllen disgyblion.
Canmolir y tîm arweinyddiaeth a bwrdd y llywodraethwyr am eu dull effeithiol a thrylwyr o fynd i'r afael â blaenoriaethau'r ysgol. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod llywodraethwyr yn gweithio'n agos gydag arweinwyr yr ysgol i gefnogi eu hymdrechion i nodi cryfderau a meysydd i'w gwella. Cydnabyddir pwyslais yr ysgol ar gefnogi lles y disgyblion ac yn emosiynol, drwy ymyriadau effeithiol hefyd.
Yn dilyn adroddiad cadarnhaol, bydd yr ysgol yn mynd ati i weithredu ar argymhellion Estyn drwy ei chynllun gweithredu. Mae hyn yn cynnwys: gweithio gyda'r Awdurdod Lleol i fynd i'r afael â'r lefelau uchel o draffig ffyrdd yn ystod amseroedd dechrau a gorffen yr ysgol, archwilio dulliau amgen o reoli materion ymddygiad i fynd i'r afael â nifer y gwaharddiadau cyfnod penodol a gweithio i wella datblygiad dysgwyr annibynnol.
Dywedodd y Pennaeth, Karen Flynn, "Rwy'n falch iawn o'n hadroddiad, sy'n canmol ac yn cydnabod ein hymdrechion a'r gwelliannau parhaus yr ydym yn eu gwneud i sicrhau'r gorau oll i bob plentyn yn yr ysgol. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad yr holl staff i greu ein teulu ysgol gofalgar, cynhwysol a bywiog, ynghyd â chwricwlwm cyffrous a pherthnasol, fel y gall disgyblion ffynnu ym mhob maes. Mae Estyn wedi cydnabod llwyddiant ein hymrwymiad i sicrhau lefelau uchel o les fel bod disgyblion yn barod i ddysgu a datblygu eu sgiliau.
"Mae ein hethos o gynhwysiant, cymuned a gofal wedi ei ganmol, gyda chefnogaeth gref iawn i'r holl ddisgyblion, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn yr un modd, mae ein gwaith i ddatblygu fel ysgol sy'n ganolog i'r gymuned ac sy'n gefnogol iawn i deuluoedd hefyd wedi ei gydnabod fel un helaeth."
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Estyn wedi cydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n digwydd yn Ysgol Gynradd Hywel Dda ac mae'r dull o gyflawni gwelliant parhaus yn glir.
"Mae hefyd yn amlwg bod lles disgyblion yn flaenoriaeth uchel i'r ysgol, ac roedd yn braf dysgu am yr ystod eang o strategaethau ac ymyriadau a ddefnyddir gan staff i gefnogi disgyblion yn llwyddiannus gyda'u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol fel y 'Seren', sy'n darparu lle diogel i ddisgyblion reoleiddio eu hemosiynau.
"Llongyfarchiadau i'r pennaeth, staff, a chymuned ehangach yr ysgol. Bydd yr ysgol bellach yn cael ei chefnogi i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn i sicrhau diogelwch a lles pob disgybl wrth feithrin eu twf academaidd a phersonol."
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Hywel Dda 454 o fyfyrwyr ar y gofrestr. Mae 65.6% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 14.2% wedi'u nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae 8.4% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Ni fydd dull Estyn o arolygu ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru yn cynnwys sgoriau crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') mwyach a bydd bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.
Mae'r dull yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.
Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.
I ddarllen yr adroddiad llawn, dilynwch y ddolen hon: Ysgol Gynradd Hywel Dda | Estyn (llyw.cymru)