The essential journalist news source
Back
9.
May
2024.
Datgelu strategaeth buddsoddi addysg newydd i ysgolion Caerdydd

 

23/5/2024

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi strategaeth buddsoddi addysg newydd gyda'r nod o sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc ledled Caerdydd yn cael cyfleoedd i ddysgu mewn ysgolion o ansawdd uchel nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r strategaeth - sy'n cwmpasu'r naw mlynedd nesaf hyd at 2033 - yn darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ac yn cefnogi statws Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n blaenoriaethu hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc, gan eu gwneud yn greiddiol i bopeth a wnawn. Mae'n datblygu’r gwaith da a wnaed eisoes ar draws y ddinas fel rhan o raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol).

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae dros £460m wedi cael ei fuddsoddi yn cwblhau’r gwaith o adeiladu tair ysgol uwchradd newydd, gyda dwy ysgol arall ar y gweill, naw ysgol gynradd newydd, cannoedd o leoedd arbenigol ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol cymhleth a gwaith i uwchraddio llawer o ysgolion eraill ledled y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r buddsoddiad addysg y mae'r weinyddiaeth hon wedi'i sbarduno ers 2014 wedi gweld cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud yng Nghaerdydd. Mae nifer yr ysgolion yng Nghaerdydd sydd yn cynnig profiad addysgol o ansawdd uchel i’w disgyblion, fel y gwelir drwy adroddiadau Estyn, wedi cynyddu’n sylweddol. Mae hyn wedi cael ei sbarduno gan arweinyddiaeth gref, ein llywodraethwyr, ein penaethiaid, ein hathrawon, a'n staff cymorth addysgu, ochr yn ochr â'n disgyblion gweithgar. Rydym bob amser wedi ceisio gwneud ein gorau, o fewn y cyllidebau sydd ar gael, i wella'r amgylchedd ar gyfer addysgu a dysgu yn y ddinas, ac mae'r gwaith hwn, a'r buddsoddiad hwn, hefyd wedi chwarae ei ran yn helpu Caerdydd i neidio i fyny'r rhengoedd addysg yng Nghymru i gynhyrchu rhai o'r canlyniadau arholiadau gorau yn y wlad ar gyfer Safon Uwch a TGAU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

"Mae ein buddsoddiad wedi gweld llawer o ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu a llawer o ysgolion eraill yn cael eu huwchraddio. Mae ysgolion a aseswyd fel Categori D o ran cyflwr (adeiladau ar ddiwedd eu hoes) wedi cael eu disodli neu mae ysgolion newydd wedi cael eu comisiynu ac maent wrthi'n cael eu cyflwyno, ac unwaith y bydd yr adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows ac Ysgol Uwchradd Cantonian yn cael eu darparu, dim ond un ysgol categori D fydd yn weddill, fydd yn cael sylw yn y strategaeth hon. Fodd bynnag, mae heriau newydd wedi dod i'r amlwg, gan gynnwys gofyniad am lawer mwy o leoedd ADY, a’r gostyngiad a ragwelir yn niferoedd disgyblion ledled Caerdydd. Mae'r rhain yn heriau sylweddol yn enwedig wrth eu gosod yn erbyn toriadau i gyllidebau llywodraeth leol ac mae'n golygu bod angen i ni ailosod pethau nawr. Mae'r dirwedd wedi newid ac os ydym am barhau â'r gwaith da a gyflawnwyd hyd yn hyn, mae angen i ni fod yn glir ynghylch sut y byddwn yn delio â'r heriau hyn. Bydd y strategaeth buddsoddi addysg newydd hon yn ein helpu i ddilyn llwybr drwy'r naw mlynedd nesaf, tra’n canolbwyntio’n gadarn ar wella lleoliadau addysg a chyfleoedd addysg i'n holl bobl ifanc i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd."

Mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd, ar 23 Mai, bydd argymhellion yn cael eu gwneud i gymeradwyo gweledigaeth o'r newydd sy'n ceisio sicrhau ffordd 'uchelgeisiol, teg a chynaliadwy' o fuddsoddi yn ysgolion prifddinas Cymru. Un sy'n cefnogi strategaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' y Cyngor a'i ymrwymiad clir i barhau i fuddsoddi yn ysgolion Caerdydd a'u gwella. Bydd hefyd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r canlynol:

 

·       'Strategaeth Buddsoddi Addysg Caerdydd 2024 – 2033' sy'n darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar draws y system Addysg.

·       'Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy 2024-2033 Caerdydd' i ganiatáu i achos busnes gael ei gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo gan y Gweinidog.

·       Sylwer y bydd cynigion unigol o dan 'Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy 2024-2033 Caerdydd' yn ddarostyngedig i achosion busnes priodol.

·       Sylwer na fydd prosiect Ysgol Uwchradd Cathays bellach yn cael ei gyflawni drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ond yn hytrach bydd yn ffurfio prosiect cyfalaf yn y rhaglen dreigl

 

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu sawl her y bydd yn rhaid i'r cyngor eu goresgyn i gyflawni ei strategaeth naw mlynedd, gan gynnwys:

       Newidiadau demograffig - gan gynnwys gostyngiad yng nghyfraddau genedigaethau yn y ddinas, allai olygu bod ysgolion cynradd yn colli tua 20% o'u disgyblion erbyn 2029. Gan fod cyllid ysgolion yn seiliedig ar niferoedd disgyblion, bydd hyn yn rhoi straen enfawr ar gyllidebau ysgolion, a gallai'r gostyngiad hwn mewn niferoedd hefyd effeithio ar ysgolion uwchradd yn ddiweddarach.

       Y galw am ADY – mae hynny wedi bod yn uwch na’r cyflenwad lleoedd dros nifer o flynyddoedd   

       Ymrwymiadau a thargedau cenedlaethol a lleol ar gyfer ehangu darpariaeth ysgolion Cymraeg.  

       Ystâd addysg - er y bydd ysgolion Categori D wedi cael eu disodli mae llawer o ysgolion mewn cyflwr gwael o hyd.

       Heriau recriwtio a chadw – gan gynnwys staffio ar bob lefel.  

       Nifer gynyddol o ysgolion yn wynebu heriau cyllidebol.

       Anghydraddoldeb darpariaeth – gan gynnwys mynediad at addysg Gymraeg ac ôl-16.

       Lles ac iechyd meddwl pobl ifanc - sydd wedi dirywio ers y pandemig.   

       Dim digon o ddefnydd cymunedol o gyfleusterau ysgolion ar draws ein hystâd addysg – gydag angen amlwg i osod ysgolion a chyfleusterau ysgol yng nghanol cymunedau lleol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae'r adroddiad yn glir bod yn rhaid ystyried amrywiaeth o opsiynau nawr i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu i sicrhau'r buddion mwyaf i ddysgwyr a chymunedau, gan sicrhau bod lleoedd ysgol priodol o ansawdd uchel i bobl ifanc, sy'n cael eu darparu ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn i wasanaethu ein cymunedau lleol orau.

"Rhaid i gynlluniau'r dyfodol nawr fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau fel y newidiadau demograffig i gyfradd genedigaethau sy'n amrywio rhwng carfannau disgyblion a allai olygu y bydd ysgolion cynradd yn colli 20% o'u myfyrwyr dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r galw sylweddol am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd wedi cynyddu ac er gwaethaf y gwaith gwych a wnaed dros y deng mlynedd diwethaf, ni allwn anwybyddu'r materion real iawn sy'n ymwneud â rhannau o'r ystâd addysg sy'n dal i fod mewn cyflwr gwael. Mae'n debygol y bydd yn rhaid i ryw fath o ad-drefnu ddigwydd wrth i ni geisio diogelu a gwella."

Datblygwyd Strategaeth Buddsoddi Addysg Caerdydd 2024-2033 gyda mewnbwn gan amrywiaeth o randdeiliaid gyda phlant a phobl ifanc yn rhan o’r gwaith o lywio’r cyfeiriad o'r cychwyn cyntaf. Dyma'r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar draws y system addysg sy'n sail i Raglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy newydd y Cyngor, rhaglen buddsoddi cyfalaf ar raddfa fawr a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i ddatblygu’r cyflawniadau diweddar a'r gwelliannau i'r seilwaith ar draws ysgolion Caerdydd, er mwyn llywio’r gofynion newidiol ar gyfer y dyfodol.

Bydd y rhaglen dreigl hefyd yn nodi'r meini prawf ar gyfer mesur y cynigion unigol ar gyfer buddsoddi a’r achosion busnes priodol ar eu cyfer. Ystyrir fforddiadwyedd a defnydd priodol o arian yn y byrdymor, fydd yn cynnig patrwm mwy cynaliadwy o ddarpariaeth i’r dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd angen i unrhyw fuddsoddiad fodloni'r egwyddorion a amlinellir yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Caerdydd i warantu'r defnydd gorau o adnoddau ariannol y Cyngor tra'n cydbwyso'r anghenion sy'n cystadlu ar draws y ddinas yn sgil yr heriau y mae Caerdydd bellach yn eu hwynebu.

 

Byddai ystyriaeth ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol yn cael ei rhoi i'r canlynol:

• Cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol sy'n benodol i wella deilliannau addysg.

• Gwella cyflwr yr ystâd.

• Lleihau anghydraddoldeb ar draws y ddinas.

• Cyflawni cydbwysedd priodol o ddarpariaeth ADY.

• Buddsoddiad wedi ei dargedu drwy adnewyddu asedau neu godi adeiladau newydd i wella cyflwr yr ystâd. • Sicrhau lefelau gwarged cynaliadwy yn yr ystâd.

• Proses arfarnu opsiynau gref i fod yn sail i wneud penderfyniadau cadarn.

• Cynyddu cwmpas ‘buddsoddi i arbed’ er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar fenthyca.

Bydd y strategaeth yn gweithio law yn llaw ag ‘Addysg Caerdydd: Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio 2024 - 2033' sy'n nodi’r ffordd y bydd Caerdydd yn manteisio i'r eithaf ar rym cydweithio â phartneriaid a thrwy ffederasiynau ar draws ein rhwydwaith ysgolion i gefnogi cyflawni'r dyheadau a nodir yng Nghaerdydd 2030, gan amlinellu pwysigrwydd trefniadaeth a buddsoddi effeithiol yn system addysg Caerdydd.

Bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad ar 14 Mai. Gallwch weld yr adroddiad yn llawn Adroddiad.pdf (moderngov.co.uk)

Yna bydd yn mynd i gyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ar 23 Mai i'w gymeradwyo.