Mae dau gynghorydd o Gaerdydd wedi camu o'r meinciau cefn i ymuno â Chabinet Cyngor Caerdydd fel rhan o ad-drefniant a gyhoeddwyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas.
Cyhoeddodd y Cynghorydd
Thomas yr ad-drefniant heddiw, Ddydd Iau 2 Mai, ar ôl iddo gael ei ailethol yn
arweinydd y Grŵp Llafur ynn Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y grŵp yn
gynharach yr wythnos hon. Bydd y newidiadau i'r Cabinet, sy'n cynnwys dod â
rhai portffolios at ei gilydd, a chreu mwy o swyddi a rennir yn y Cabinet, yn
cael eu cyflwyno i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Caerdydd ar 23 Mai i'w
cadarnhau.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y
Cynghorydd Caro Wild ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn Aelod Cabinet Newid
Hinsawdd Cyngor Caerdydd i ddilyn prosiectau newydd.
Fel rhan o bortffolio
estynedig, bydd y Cynghorydd Dan De'Ath yn cymryd cyfrifoldeb dros Newid
Hinsawdd a Chaerdydd Un Blaned law yn llaw â'i friff Cynllunio Strategol a
Thrafnidiaeth presennol.
Bydd y Cynghorydd Norma
Mackie yn rhoi'r gorau i fod yn Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion i
ganolbwyntio ar Reoli Gwastraff, Cynnal a Chadw Priffyrdd, a Gwasanaethau
Rheoliadol a Rennir.
Bydd y Cynghorydd Leonora
Thomson a'r Cynghorydd Lee Bridgeman yn ymuno â'r Cabinet am y tro cyntaf. Bydd
y Cynghorydd Thomson, sy'n cynrychioli Glan-yr-afon, yn cael y briff
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, mewn Portffolio Cabinet newydd a rennir a
fydd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus a Chydraddoldeb, a fydd yn parhau i gael ei
arwain gan y Cynghorydd Julie Sangani.
Bydd y Cynghorydd Lee
Bridgeman, sy'n cynrychioli Llanrhymni, yn cael rhannu’r Portffolio Tai a
Chymunedau gyda'r Cynghorydd Lynda Thorne. Bydd y Cynghorydd Thorne yn parhau i
arwain y Rhaglen Dai, tra bydd y Cynghorydd Bridgeman yn canolbwyntio ar Hybiau
Cymunedol ac Adfywio.
Bydd y Gwasanaethau
Cymdeithasol i Blant, a'r portffolio Trechu Tlodi a Gwasanaethau Ieuenctid, yn
cael eu dwyn ynghyd ac fe gaiff y portffolio hwn ei rannu gan y Cynghorydd Ash
Lister a'r Cynghorydd Peter Bradbury, sydd wedi bod yn rheoli'r meysydd hyn.
Dwedodd y Cynghorydd Huw
Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i
Caro am ei waith ardderchog dros y saith mlynedd diwethaf. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn gyrru'r
agenda Un Blaned yn ei flaen ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn dymuno'r gorau
iddo yn ei fenter newydd.
"Hoffwn ddiolch hefyd
i'r Grŵp Llafur am yr anrhydedd o gael fy mhenodi i barhau yn fy rôl fel
Arweinydd Cyngor Caerdydd. Rwy'n falch o'r holl waith y mae'r weinyddiaeth
wedi'i gyflawni yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac er bod llawer o heriau i ddod,
byddwn yn parhau i wasanaethu'r cymunedau a'n hetholodd gyda'n cynlluniau
uchelgeisiol ar gyfer y ddinas.
"Rwyf hefyd yn ddiolchgar
i Lynda a fydd, drwy gytundeb y ddau ohonom, yn trosglwyddo i rôl rhannu swydd,
fel y gall drosglwyddo ei phrofiad a'i gwybodaeth tra'n gallu canolbwyntio ar
gyflawni'r Rhaglen Dai.
"Rwy'n falch iawn o
groesawu Lee a Leo i'r Cabinet am y tro cyntaf.
Bydd Lee yn rhannu swydd gyda Lynda, gan arwain ar yr Hybiau Cymunedol
ac Adfywio yn y portffolio hwnnw. Bydd Leo yn gyfrifol am y Gwasanaethau
Cymdeithasol i Oedolion, mewn portffolio a rennir gydag Iechyd Cyhoeddus a
Chydraddoldeb, sy'n dal i fod gan Julie.
"Bydd gweddill
elfennau y swyddi a rennir - sef Gwasanaethau Plant, a Threchu Tlodi a
Gwasanaethau Ieuenctid - yn cael eu paru gyda'i gilydd, gyda'r cyfrifoldeb yn
parhau yn nwylo Ash a Pete yn y drefn honno.
"Bydd portffolio
wedi'i ailgyflunio, yn cyfuno gwastraff a gorfodi gyda chynnal a chadw
priffyrdd a Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, yn nwylo Norma, ar sail llawn
amser. Bydd cyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd ac Un Blaned yn trosglwyddo i Dan,
sydd hefyd yn cadw cyfrifoldeb dros Drafnidiaeth Strategol a Chynllunio.
"Bydd y cyfrifoldebau
portffolio sy’n weddill yn aros yr un fath ar lefel uchel, er ei bod yn bosib y
gellir gwneud ychydig o addasiadau i fireinio lle mae gwasanaethau penodol yn
eistedd yn union. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, byddaf yn rhannu
dadansoddiad manwl o ran lle mae gwasanaethau yn gorwedd ym mhob
portffolio."
Mae'r Cabinet a
ad-drefnwyd, a fydd yn mynd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Caerdydd ar
23 Mai er mwyn ei gadarnhau, fel a ganlyn:
Y Cynghorydd Huw Thomas – Arweinydd y Cyngor
Y Cynghorydd Sarah Merry -Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros
Addysg
Y Cynghorydd Russell
Goodway - Buddsoddi a Datblygu
Y Cynghorydd Chris Weaver - Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad
Y CynghoryddThomson a’r Cynghorydd Julie Sangani -
Gwasanaethau Plant Oedolion, Iechyd y Cyhoedd,a Chydraddoldebau
Y CynghoryddAsh Lister a’r Cynghorydd Peter Bradbury -
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, Trechu Tlodi, a Gwasanaethau Ieuenctid
Y Cynghorydd Lynda Thorne
a’r Cynghorydd Lee Bridgeman - Tai a Chymunedau
Y Cynghorydd Jennifer Burke - Diwylliant, Parciau a Digwyddiadau
Y CynghoryddDan De’Ath - Trafnidiaeth Strategol a
Chynllunio, Newid Hinsawdd a Chaerdydd Un Blaned
Y CynghoryddNorma Mackie - Rheoli Gwastraff, Cynnal a
Chadw Priffyrdd, a Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.