Dyma’ch diweddariad dydd Gwener, sy’n cynnwys:
·
Ansawdd ailgylchu Caerdydd yn gwella’n sylweddol oherwydd
y cynllun ailgylchu newydd
·
Rhaid i drigolion ddod â phrawf adnabod â llun wrth
bleidleisio ym mis Mai
· Cerddorion o Gaerdydd wedi'u comisiynu i greu 'Sŵn y Ddinas' newydd.
Ansawdd ailgylchu Caerdydd
yn gwella’n sylweddol oherwydd y cynllun ailgylchu newydd
Mae’r cam diweddaraf yn y
gwaith o gyflwyno’r cynllun ailgylchu 'sachau didoli', i 37,000 eiddo ledled
Caerdydd, wedi arwain at welliant sylweddol yn ansawdd yr ailgylchu a gesglir o
gartrefi preswylwyr, gall Cyngor Caerdydd ddatgelu.
Wedi i’r cynllun fod ar
waith am chwe wythnos mae ffigyrau ailgylchu diweddaraf y cyngor ar gyfer
ailgylchu cartrefi yn dangos y gellir ailgylchu tua 92% o'r gwastraff sy'n cael
ei gasglu o gartrefi preswylwyr drwy'r system newydd. O dan y cynllun casglu
bagiau gwyrdd cymysg dim ond 70% o'r deunydd a gesglir sy'n gallu cael ei
ailgylchu, drwy ein prosesau mewnol.
Mae cam diweddaraf y gwaith
o gyflwyno’r cynllun newydd yn cynhyrchu ffigurau tebyg i'r prosiect peilot a
gynhaliwyd y llynedd yn dangos gwerth amlwg y cynllun o ran gwella ansawdd yr
ailgylchu a gasglwyd.
Dywedodd llefarydd ar ran
Cyngor Caerdydd: "Mae'r ffigurau rydyn ni'n eu gweld yn gwneud gwahaniaeth
mawr ac rydyn ni am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i drigolion am ymuno â'r
cynllun ac addasu iddo mor gyflym. Mae'r
ffigurau ar hyn o bryd yn dangos gwelliant sylweddol a pharhaus o'i gymharu â'r
system casglu ailgylchu cymysg mewn bagiau gwyrdd.
"Mae'r trigolion yn
gwneud gwaith gwych. Mae gwahanu deunyddiau ailgylchu i ffrydiau gwahanol yn
arwain at lai o halogi. Mae 30% o'r hyn rydyn ni'n ei gasglu yn y bagiau cymysg
plastig gwyrdd yn ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu. Mewn llawer o achosion byddai'r bagiau
hynny'n cynnwys gwastraff bwyd neu gewynnau budr ymhlith pethau eraill, gan
achosi niwsans i'n staff, a chostio rhagor o arian i'r cyngor i losgi'r
gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu, a chreu problemau gydag anifeiliaid ac
adar yn torri bagiau’n agored ar y stryd. Mae'r system newydd yn ei gwneud hi'n
anoddach i anifeiliaid ac adar dorri'r sachau ar agor, ond mae'r ffaith eu bod
yn cynnwys llai o wastraff bwyd nag roedden ni’n ei weld mewn bagiau gwyrdd
hefyd yn helpu i ddatrys y broblem hon. Mae'r cynllun yn gweithio a bydd yn ein
helpu i ddod yn agosach at gyrraedd
targedau ailgylchu Llywodraeth Cymrua
bydd yn lleihau'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig ag allyriadau
carbon cynhyrchu deunyddiau crai newydd.
Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33371.html
Rhaid i drigolion ddod â phrawf adnabod â llun wrth
bleidleisio ym mis Mai
Bydd angen i drigolion Caerdydd ddangos prawf adnabod ffotograffig i
bleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar 2 Mai.
Mae trigolion yn cael eu hannog i sicrhau eu bod yn barod i bleidleisio
drwy wirio bod ganddynt ffurflen adnabod dderbyniol, sy'n cynnwys trwydded
pasbort neu drwydded yrru'r DU, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r
Gymanwlad; a rhai tocynnau teithio rhatach, fel cerdyn bws i berson hŷn. Bydd
pleidleiswyr yn cael defnyddio prawf adnabod sydd wedi dod i ben os ydy hi'n
dal i fod yn bosibl adnabod yr unigolyn o'r llun. Dyma restr lawn o'r
mathau o brawf adnabod a dderbynnir: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Pleidleisio-ac-etholiadau/Ddeddf-Etholiadau-2022/Pages/default.aspx
Bydd unrhyw un nad oes ganddo un o'r ffurfiau adnabod derbyniol yn gallu
gwneud cais am brawf adnabod am ddim ar-lein yn https://www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr neu drwy lenwi ffurflen bapur. Y dyddiad cau i
wneud cais yw Ebrill 24.
Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Caerdydd: "Gydag
etholiadau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 2 Mai, mae'n bwysig bod y rhai
sydd am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn sicrhau bod ganddynt ffurflen
adnabod dderbyniol, ac os na wnânt, dylent wneud cais am Dystysgrif Awdurdod
Pleidleiswyr am ddim. Gall unrhyw un sydd angen help i wneud cais am y
prawf adnabod am ddim neu sydd am ofyn am ffurflen gais, e-bostio
gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
"Mae'n rhaid i fanylion am brawf adnabod llun pleidleisiwr fod yr
un fath â'r wybodaeth sydd gennym amdanyn nhw ar y gofrestr etholiadol, felly
os oes unrhyw un wedi newid ei enw, neu wedi symud tŷ yn ddiweddar, rydym yn eu
hannog i ddiweddaru eu manylion ar y gofrestr cyn y dyddiad cau ar 16 Ebrill i
sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais mewn gorsaf bleidleisio ar 2 Mai."
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33357.html
Cerddorion o Gaerdydd wedi'u comisiynu i greu 'Sŵn y
Ddinas' newydd
Mae pedwar cerddor talentog o Gaerdydd wedi derbyn comisiynau 'Sŵn y
Ddinas' i gefnogi creu gwaith newydd arbrofol, a bydd rhai ohonynt yn cael eu
cyflwyno yn ddiweddarach eleni fel rhan Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Y 'cerddorion preswyl' y dyfarnwyd comisiynau iddynt yw N'famady
Kouyaté, Natalie Roe, Eugene Capper a Gemma Smith.
Mae'r comisiynau, sy'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor
Caerdydd a Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, yn rhan o strategaeth gerddoriaeth
Cyngor Caerdydd a'u nod yw meithrin a chynnal datblygiad yn sector cerddoriaeth
y ddinas.
Mwy
yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33362.html