Mae’r cam diweddaraf yn y gwaith o gyflwyno’r cynllun ailgylchu 'sachau didoli', i 37,000 eiddo ledled Caerdydd, wedi arwain at welliant sylweddol yn ansawdd yr ailgylchu a gesglir o gartrefi preswylwyr, gall Cyngor Caerdydd ddatgelu.
Wedi i’r cynllun fod ar
waith am chwe wythnos mae ffigyrau ailgylchu diweddaraf y cyngor ar gyfer
ailgylchu cartrefi yn dangos y gellir ailgylchu tua 92% o'r gwastraff sy'n cael
ei gasglu o gartrefi preswylwyr drwy'r system newydd. O dan y cynllun casglu
bagiau gwyrdd cymysg dim ond 70% o'r deunydd a gesglir sy'n gallu cael ei
ailgylchu, drwy ein prosesau mewnol.
Mae cam diweddaraf y gwaith
o gyflwyno’r cynllun newydd yn cynhyrchu ffigurau tebyg i'r prosiect peilot a
gynhaliwyd y llynedd yn dangos gwerth amlwg y cynllun o ran gwella ansawdd yr
ailgylchu a gasglwyd.
Dywedodd llefarydd ar ran
Cyngor Caerdydd: "Mae'r ffigurau rydyn ni'n eu gweld yn gwneud gwahaniaeth
mawr ac rydyn ni am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i drigolion am ymuno â'r
cynllun ac addasu iddo mor gyflym. Mae'r
ffigurau ar hyn o bryd yn dangos gwelliant sylweddol a pharhaus o'i gymharu â'r
system casglu ailgylchu cymysg mewn bagiau gwyrdd.
"Mae'r trigolion yn
gwneud gwaith gwych. Mae gwahanu deunyddiau ailgylchu i ffrydiau gwahanol yn
arwain at lai o halogi. Mae 30% o'r hyn rydyn ni'n ei gasglu yn y bagiau cymysg
plastig gwyrdd yn ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu. Mewn llawer o achosion byddai'r bagiau
hynny'n cynnwys gwastraff bwyd neu gewynnau budr ymhlith pethau eraill, gan
achosi niwsans i'n staff, a chostio rhagor o arian i'r cyngor i losgi'r
gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu, a chreu problemau gydag anifeiliaid ac
adar yn torri bagiau’n agored ar y stryd. Mae'r system newydd yn ei gwneud hi'n
anoddach i anifeiliaid ac adar dorri'r sachau ar agor, ond mae'r ffaith eu bod
yn cynnwys llai o wastraff bwyd nag roedden ni’n ei weld mewn bagiau gwyrdd
hefyd yn helpu i ddatrys y broblem hon. Mae'r cynllun yn gweithio a bydd yn ein
helpu i ddod yn agosach at gyrraedd
targedau ailgylchu Llywodraeth Cymrua
bydd yn lleihau'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig ag allyriadau
carbon cynhyrchu deunyddiau crai newydd.
Y cynllun ailgylchu 'sachau
didoli' newydd yw'r ffordd mai Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio i awdurdodau
lleol gasglu deunyddiau ailgylchu o gartrefi preswylwyr. Fe'i cynlluniwyd i
wella ansawdd ailgylchu'r ddinas a chyrraedd y targedau ailgylchu a chompostio
heriol sydd wedi’u gosod yn gyfreithiol.
Rhaid i gyfradd ailgylchu a
chompostio Caerdydd gyrraedd 70% erbyn 2025, a sero gwastraff erbyn 2050,
targedau a amlinellir yn Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth
Cymru. 62% yw'r gyfradd ailgylchu - yn
cynnwys pob ffrwd wastraff - yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Mae 47,000 eiddo yng
Nghaerdydd bellach yn defnyddio'r gwasanaeth newydd hwn (roedd 10,000 yn rhan
o’r cynllun peilot y llynedd), ac mae cynlluniau ar waith i gyflwyno'r cynllun
ledled Caerdydd yn 2024 i o leiaf 80,000 o gartrefi. Bydd y rhai sy'n byw mewn
fflatiau yn derbyn sachau llai, yn rhan o'r cynllun, er mwyn iddo fod yn haws
ei reoli mewn cartrefi llai. Nid yw casgliadau o fflatiau sy'n defnyddio biniau
cymunedol yn newid.
O dan y cynllun newydd, mae
preswylwyr yn cael y canlynol:
·
Cadi
glas ar gyfer poteli a jariau gwydr,
·
Sach goch ar gyfer metel,
tun, erosolau, poteli, potiau a thybiau plastig, a phecynnau tetra, a
· Sach las ar gyfer papur a chardfwrdd.
Gall preswylwyr gael nifer
o sachau i ailgylchu eu gwastraff, gan nad oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y
gall preswylwyr ei gyflwyno. Cafodd
sachau eu dewis yn hytrach na blychau plastig - sy'n cael eu defnyddio mewn
rhai rhannau o Gymru - i gydnabod bod llawer o gartrefi Caerdydd heb ardd,
felly gall y sachau gael eu plygu’n fach pan nad ydynt yn cael eu
defnyddio. Maen nhw hefyd yn haws i
drigolion a chriwiau gwastraff eu codi.
Mae pwysau ychwanegol wedi'i ychwanegu i leihau'r risg y bydd sachau yn
cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt, ond gellir archebu sachau newydd trwy'r
Ap, neu eu casglu mewn rhai Hybiau.
I gasglu'r ‘sachau didoli’,
mae cerbydau gwastraff newydd yn cael eu defnyddio sydd â dwy siambr ar wahân
yng nghefn y cerbyd. Mae'r ailgylchu o'r sach las yn mynd i un ochr i'r cerbyd
ac mae'r ailgylchu o'r sach goch yn mynd i'r llall. Mae cerbyd ar wahân yn cael ei ddefnyddio i
gasglu'r jariau a'r poteli gwydr.
Bu adegau pan ddefnyddiwyd
cerbydau gwastraff cyffredinol i gasglu'r ffrydiau hyn gyda’i gilydd. Roedd hyn
yn digwydd pan fu problemau gyda cherbydau newydd - os nad oedden nhw’n
gweithio, er enghraifft. Fodd bynnag,
rydyn ni am sicrhau preswylwyr nad yw hyn yn cael effaith sylweddol ar yr
ailgylchu a gesglir, ac mae dau reswm dros hyn:
1. Mae trigolion eisoes wedi sicrhau bod y
deunyddiau sy’n cael eu casglu o ansawdd uchel ac nad yw'r deunydd a gesglir
mewn sachau/biniau poteli’n yn cael ei gymysgu à deunyddiau bagiau gwyrdd.
2. Mae’r deunyddiau’n mynd i Gyfleuster
Ailgylchu Deunyddiau'r cyngor yn Ffordd Lamby, sy'n gwahanu'r deunydd yn ôl
maint a phwysau, gan ddarparu'r un deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd â'r rhai a
fyddai wedi'u casglu yn y cerbydau siambr deublyg.
Mae'r cyngor wrthi'n prynu
mwy o'r cerbydau hyn wrth i'r gwaith cyflwyno fynd yn ei flaen.