The essential journalist news source
Back
4.
April
2024.
Anrhydeddu arwr bom ar ei ben-blwydd yn 100 oed fel achubwr Neuadd y Ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 04.04.24
Mae Cyngor Caerdydd wedi anrhydeddu dyn a achubodd Neuadd y Ddinas rhag cael ei dinistrio pan aeth i'r afael â bom cyneuol a gafodd ei ollwng ar do’r adeilad yn ystod cyrch awyr yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar noson 2 Chwefror 1941, roedd Ronald Brignall, 16 oed, yn cerdded adref o'r coleg lle'r oedd yn astudio ar gyfer ei gymwysterau plymio. Wrth iddo gerdded heibio Neuadd y Ddinas, clywodd seirenau cyrch awyr yn rhybuddio am ymosodiad bomio'r Almaen a gwelodd bom cyneuol yn glanio ar do’r adeilad.

Heb unrhyw ystyriaeth am ei ddiogelwch ei hun, gafaelodd mewn dau fag tywod a gan ddal un o dan ei fraich a gafael yn y llall rhwng ei ddannedd, fe ddringodd bibell ddraenio 25 troedfedd i'r to a phylu’r fflamau – yn cael ei annog gan y gwylwyr tân swyddogol oedd yn sefyll islaw.

Fel pe na bai hynny'n ddigon arwrol, dychwelodd Mr Brignall i’r ddaear a chario pibell ddŵr yn ôl i fyny'r bibell ddraenio - unwaith eto yn gafael arni rhwng ei ddannedd - a diffodd y tân yn llwyr wrth i’r gwylwyr tân gyflenwi dŵr trwy bwmp trochi ar y ddaear.

Erbyn iddo orffen y dasg, er gwaethaf y cyrch parhaus, roedd torf wedi ymgynnull i'w ganmol fel arwr ond, er gwaethaf papurau newydd lleol ar y pryd yn cofnodi ei gampau), ni chafwyd cydnabyddiaeth swyddogol o gamp a oedd wedi atal un o adeiladau mwyaf mawreddog a mwyaf hanesyddol Caerdydd rhag cael ei ddinistrio.

Tan nawr.

Heddiw, wrth i Mr Brignall  ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed, teithiodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, i'r cartref gofal yn Sussex lle mae bellach yn byw i gyflwyno tystysgrif arbennig iddo yn diolch iddo am ei arwriaeth a chofnodi digwyddiadau'r diwrnod hwnnw ym 1941 ar gyfer y dyfodol.

Ar y pryd, unig sylw Mr Brignall oedd bod ei ên yn boenus ar ôl cario'r bag tywod 12 pwys i fyny i'r to - ac roedd wedi difetha ei siwt - ond heddiw dywedodd yr oedd yn gyffrous ar y pryd o allu gwneud cyfraniad bach at yr ymdrech ryfel. "Dim ond yn fy arddegau oeddwn i," meddai, "a doedd gen i ddim ofn. Roeddwn i eisiau sicrhau nad oedd y bom yn gwneud unrhyw ddifrod i Neuadd y Ddinas."

Yn benderfynol o wneud hyd yn oed mwy o gyfraniad i'r ymdrech ryfel, daeth yn warchodwr tân swyddogol yn ddiweddarach, gan helpu i amddiffyn Caerdydd, ac ym 1944, ymunodd â'r Awyrlu gan ddod yn fagnelwr cefn ar awyrennau bomio Whitley a Halifax, ac yn rhan o Ymgyrch Varsity, lle croesodd y Cynghreiriaid yr afon Rhein, ym 1945.

Dywedodd Ian, mab Mr Brignall: "Mae e wastad wedi bod yn ddyn diymhongar ac anaml y bu'n siarad am ei weithredoedd yn y rhyfel. Doedden ni ond yn gwybod am ei weithredoedd arwrol yng Nghaerdydd ar y diwrnod hwnnw oherwydd ei fod wedi cadw toriadau papur newydd o'r cyfnod," meddai.

"Mae Dad ychydig yn fregus nawr, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl o rywun sy'n 100, ond rwy'n gwybod ei fod wrth ei fodd o gael y gydnabyddiaeth hon a'r dystysgrif gan y cyngor. Mae’n anrheg perffaith ar ei ben-blwydd, ynghyd â’r rhodd hyfryd gan Undeb Rygbi Cymru, sef crys rygbi wedi ei lofnodi gan garfan y Chwe Gwlad Cymru."

Dywedodd yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Molik, ei bod yn falch iawn o allu cyflwyno’r anrhydedd hwn i Mr Brignall. "Rhan orau fy ngwaith fel Arglwydd Faer yw cwrdd â phobl go arbennig ac mae Mr Brignall yn enghraifft wych o'r rhai sydd â chymaint o falchder dinesig yng Nghaerdydd.

"Rwy'n gwybod bod yr anrhydedd hon braidd yn hwyr, ond mae’n dod o’r galon o hyd ac fe wnes i sicrhau Mr Brignall a'i deulu fod pawb yng Nghaerdydd yn mynegi eu diolchgarwch am ei ddewrder y diwrnod hwnnw ym 1941."