Mae Cyngor Caerdydd wedi anrhydeddu dyn a achubodd Neuadd y Ddinas rhag cael ei dinistrio pan aeth i'r afael â bom cyneuol a gafodd ei ollwng ar do’r adeilad yn ystod cyrch awyr yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar
noson 2 Chwefror 1941, roedd Ronald Brignall, 16 oed, yn cerdded adref o'r
coleg lle'r oedd yn astudio ar gyfer ei gymwysterau plymio. Wrth iddo gerdded
heibio Neuadd y Ddinas, clywodd seirenau cyrch awyr yn rhybuddio am ymosodiad
bomio'r Almaen a gwelodd bom cyneuol yn glanio ar do’r adeilad.
Heb unrhyw ystyriaeth am ei
ddiogelwch ei hun, gafaelodd mewn dau fag tywod a gan ddal un o dan ei fraich a
gafael yn y llall rhwng ei ddannedd, fe ddringodd bibell ddraenio 25 troedfedd
i'r to a phylu’r fflamau – yn cael ei annog gan y gwylwyr tân swyddogol oedd yn
sefyll islaw.
Fel pe na bai hynny'n ddigon
arwrol, dychwelodd Mr Brignall i’r ddaear a chario pibell ddŵr yn ôl i fyny'r
bibell ddraenio - unwaith eto yn gafael arni rhwng ei ddannedd - a diffodd y
tân yn llwyr wrth i’r gwylwyr tân gyflenwi dŵr trwy bwmp trochi ar y ddaear.
Erbyn iddo orffen y dasg, er
gwaethaf y cyrch parhaus, roedd torf wedi ymgynnull i'w ganmol fel arwr ond, er
gwaethaf papurau newydd lleol ar y pryd yn cofnodi ei gampau,
ni chafwyd cydnabyddiaeth swyddogol o gamp a oedd wedi atal un o adeiladau
mwyaf mawreddog a mwyaf hanesyddol Caerdydd rhag cael ei ddinistrio.
Tan
nawr.
Heddiw, wrth i Mr Brignall ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed, teithiodd Arglwydd
Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, i'r cartref gofal yn Sussex lle mae
bellach yn byw i gyflwyno tystysgrif arbennig iddo yn diolch iddo am ei
arwriaeth a chofnodi digwyddiadau'r diwrnod hwnnw ym 1941 ar gyfer y dyfodol.
Ar y pryd, unig sylw Mr
Brignall oedd bod ei ên yn boenus ar ôl cario'r bag tywod 12 pwys i fyny i'r to
- ac roedd wedi difetha ei siwt - ond heddiw dywedodd yr oedd yn gyffrous ar y
pryd o allu gwneud cyfraniad bach at yr ymdrech ryfel. "Dim ond yn fy
arddegau oeddwn i," meddai, "a doedd gen i ddim ofn. Roeddwn i eisiau
sicrhau nad oedd y bom yn gwneud unrhyw ddifrod i Neuadd y Ddinas."
Yn benderfynol o wneud hyd yn
oed mwy o gyfraniad i'r ymdrech ryfel, daeth yn warchodwr tân swyddogol yn
ddiweddarach, gan helpu i amddiffyn Caerdydd, ac ym 1944, ymunodd â'r Awyrlu
gan ddod yn fagnelwr cefn ar awyrennau bomio Whitley a Halifax, ac yn rhan o
Ymgyrch Varsity, lle croesodd y Cynghreiriaid yr afon Rhein, ym 1945.
Dywedodd Ian, mab Mr Brignall:
"Mae e wastad wedi bod yn ddyn diymhongar ac anaml y bu'n siarad am ei
weithredoedd yn y rhyfel. Doedden ni ond yn gwybod am ei weithredoedd arwrol yng
Nghaerdydd ar y diwrnod hwnnw oherwydd ei fod wedi cadw toriadau papur newydd
o'r cyfnod," meddai.
"Mae Dad ychydig yn fregus
nawr, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl o rywun sy'n 100, ond rwy'n gwybod ei fod
wrth ei fodd o gael y gydnabyddiaeth hon a'r dystysgrif gan y cyngor. Mae’n anrheg perffaith ar ei
ben-blwydd, ynghyd â’r rhodd hyfryd gan Undeb Rygbi Cymru, sef crys rygbi wedi
ei lofnodi gan garfan y Chwe Gwlad Cymru."
Dywedodd yr Arglwydd Faer, y
Cynghorydd Molik, ei bod yn falch iawn o allu cyflwyno’r anrhydedd hwn i Mr
Brignall. "Rhan orau fy ngwaith fel Arglwydd Faer yw cwrdd â phobl go
arbennig ac mae Mr Brignall yn enghraifft wych o'r rhai sydd â chymaint o falchder
dinesig yng Nghaerdydd.
"Rwy'n gwybod bod yr
anrhydedd hon braidd yn hwyr, ond mae’n dod o’r galon o hyd ac fe wnes i
sicrhau Mr Brignall a'i deulu fod pawb yng Nghaerdydd yn mynegi eu diolchgarwch
am ei ddewrder y diwrnod hwnnw ym 1941."