28/3/24
Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto'n gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector ledled y ddinas am gyllid grant sydd ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol.
Mae grantiau bach o hyd at £2,000 ar gael i gefnogi prosiectau a mentrau sy'n amlygu ac yn dathlu amrywiaeth cymunedau yn y ddinas. Gellir defnyddio cyllid at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, cynhyrchu llenyddiaeth gefnogol neu feithrin gallu o fewn cymuned.
Rhaid i geisiadau fodloni o leiaf un o'r amcanion canlynol:-
- Dathlu Amrywiaeth
- Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb
- Ateb naratifau niweidiol/casineb
- Lleihau Tensiynau Cymunedol
- Meithrin Gallu Cymunedol
- Cymunedau yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi Cydlyniant Cymunedol
- Hyrwyddo cydraddoldeb ymhlith yr holl nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010
- Hyrwyddo Cydlyniant Cymunedol fel yr amlinellir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru o gymunedau cydlynol - Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel a chysylltiedig)
- Cysylltiadau â Digwyddiad Cydraddoldeb Arwyddocaol
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Rydym yn awyddus i glywed gan grwpiau a sefydliadau sydd â syniadau ar gyfer adeiladu cymunedau cryf a chydlynol, felly rydym yn chwilio am gynlluniau sy'n galluogi dinasyddion o gefndiroedd gwahanol i rannu perthnasoedd cadarnhaol, teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaethau, a chael ymdeimlad o barch at y ddwy ochr a gwerthoedd cyffredin."
Gwahoddir ceisiadau gan sefydliad gwirfoddol neu grwpiau cymunedol cyfansoddedig a sefydledig sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw'r sefydliad.
Anogir cydweithio rhwng grwpiau/sefydliadau sy'n gwneud cais am y cyllid yn gryf. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ceisiadau partneriaeth (mwy na dau grŵp yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiect) o hyd at £5,000 yn cael eu hystyried.
Mae gwaharddiadau'n berthnasol i sut y gellir defnyddio'r cyllid ac anogir ymgeiswyr i ddarllen y meini prawf cymhwysedd yn y ffurflen gais yn ofalus cyn gwneud cais.
Bydd pob cais yn cael ei asesu a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gan banel. Bydd angen cwblhau'r prosiectau erbyn mis Mawrth 2025.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais am gyllid, e-bostiwch cydlyniant@caerdydd.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 14 Mai 2024.
*Mae ceisiadau nawr ar gau.
Cyhoeddir penderfyniadau ym mis Mehefin.